Swyddi ar lein
Cydlynydd Systemau Gwaith Stryd - Cyf: 22-22662-H2
£22,571 - £24,920 y flwyddyn | Parhaol
- Teitl swydd:
- Cydlynydd Systemau Gwaith Stryd
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Dyddiad cau:
- 07/07/2022 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £22,571 - £24,920 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Cydlynydd Systemau Gwaith Stryd
CYFLOG: S1 £23,250 - £25,670
Oriau: 37 hours
LLEOLIAD: Aberaeron/Newtown/LlandrindodRheoli a hwyluso gweithrediad esmwyth ac effeithlon Gwasanaeth Cydlynu Gwaith Stryd ACGChC. Darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer y swyddogaeth prosesu hysbysiadau, gan sicrhau y caiff safonau a chynlluniau gwasanaeth eu cyflawni a'u darparu yn unol â pholisi, amserlenni a gofynion cyfreithiol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Mike Jones ar 01286 685198.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ddymunol ar gyfer y swydd hyn.Dyddiad Cau: 10.00 AM, DYDD IAU, 07/07/2022
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Yn gallu gweithio’n ddiogel dan bwysau
Yn ymroddgar ac â’r gallu i gymell ei hun
Yn gallu gweithio gydag ychydig o oruchwyliaeth
Yn ymroddgar ac â’r gallu i gymell ei hun
DYMUNOL
Yn gallu blaenoriaethu a gweithio dan bwysau ac yn gallu delio â therfynau amser gwaith
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
5 TGAU (Gradd C neu uwch) neu gymwysterau cyfwerth.
Saesneg a Mathemateg yn angenrheidiol.DYMUNOL
ONC mewn Peirianneg Sifil neu gyfwerth.
Cymhwyster gwaith stryd achrededig
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad perthnasol o reoli cydymffurfiaeth â’r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd a’r Ddeddf Rheoli TraffigDYMUNOL
Profiad o goladu data.
Medru dangos profiad o weithio mewn amgylchedd weithredol neu wasanaethol.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu gweithio ar ei liwt ei hun ac fel rhan o dîm
Sgiliau cyfathrebu datblygedig iawn, ar lafar ac yn ysgrifenedig
Sgiliau trefnu da.
Creadigrwydd a sgiliau datrys problemau
Gallu addasu’n gyflym i sefyllfaoedd sy’n newid.Sgiliau TG da gyda’r gallu i ddefnyddio TG a rhaglenni technoleg
Trwydded yrru gyfredolDYMUNOL
Gwybodaeth drylwyr o reoli asedau strwythurau, asesiadau cynnal a chadw, prosesau a gofynion cryfhau ac adnewyddu.
Gwybodaeth am rheoliadau Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch
GOFYNION IEITHYDDOLGwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd .
• Rheoli a hwyluso gweithrediad esmwyth ac effeithlon Gwasanaeth Cydlynu Gwaith Stryd ACGCC yn unol â'r dyletswyddau a'r rhwymedigaethau statudol sy'n ofynnol fel rhan o ddarpariaethau Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (NRSWA), Deddf Priffyrdd 1980 a Deddf Rheoli Traffig 2004 (TMA).
• Bydd hyn yn cynnwys cefnogi Rheolwr Meddiannaeth y Rhwydwaith â:
• rheoli gwaith stryd;
• rheoli llwythi annormal;
• rheoli gorchmynion traffig dros dro a pharhaol;
• rheoli priffyrdd o ran rheoleiddio a gorfodaeth;
• gwarchod offer;
• gweinyddiaeth rheolaeth ddatblygu;
• rheoli rhwydwaith;
• rheoli archwilio;
• cydlynu a chynllunio digwyddiadau arbennig• Darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer y swyddogaeth prosesu hysbysiadau, gan sicrhau y caiff safonau a chynlluniau gwasanaeth eu cyflawni a'u darparu yn unol â pholisi, amserlenni a gofynion cyfreithiol.
• Cynorthwyo Rheolwr Meddiannaeth y Rhwydwaith a’r Tîm â swyddogaethau’n gysylltiedig.
• Cynorthwyo a chefnogi’r timoedd Busnes, Cyflawni a Gweithrediadau Rhwydwaith yr Asiant gan roi cyngor a gwybodaeth weithredol neu dechnegol.
Cyfrifoldeb am swyddogaethau . e.e. staff, cyllidebau, offer
• Rheoli gwybodaeth cronfa ddata Llywodraeth Cymru ac Asiant.
• Gweinyddu casglu ffioedd.
Prif Ddyletswyddau .
Rheoli Meddiannaeth y Rhwydwaith
Gweithredu systemau, polisïau a phrosesau rheoli meddiannaeth y rhwydwaith;Gweinyddu a rheoli gwybodaeth, cofnodion a data sy'n gysylltiedig â rheoli meddiannaeth y rhwydwaith gan ddefnyddio System Gwybodaeth Ffyrdd Integredig Llywodraeth Cymru (WG-IRIS) a systemau rheoli eraill;
Gweithredu fel y prif gyswllt o ran swyddogaethau meddiannaeth y rhwydwaith yn ymwneud â:
a) Prosesau mewnol yr Asiant e.e. cyswllt â Rheolwyr Llwybr yr Asiant, Noddwyr Prosiect a Darparwyr Gwasanaeth yr Asiant;
b) Partïon allanol e.e. cwmnïau gwasanaeth, datblygwyr a chludwyr llwythi annormal.Cynorthwyo i baratoi y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer adroddiadau allanol a mewnol.
Mynychu'r Pwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chwmnïau Gwasanaeth (HAUC) a chyfarfodydd eraill ar gais Rheolwr Meddiannaeth y Rhwydwaith.Cynorthwyo gweinyddiaeth cyllidebau ac incymau swyddogaethau'n ymwneud â meddiannaeth y rhwydwaith.
• Cynorthwyo â chydlynu'r holl waith a wneir ar y briffordd gyhoeddus trwy ddefnyddio'r system rheoli asedau priffyrdd perthnasol i adnabod gwrthadaro posib a chymryd camau priodol yn ôl gofynion EToN.
• Gweithio'n agos ag ymgymerwyr statudol, swyddogion yr awdurdod priffyrdd a chontractwyr preifat sy'n gwneud gwaith stryd, er mwyn lleihau effaith andwyol unrhyw waith ar ddefnyddwyr y briffordd.
• Cyfrifoldeb am reolaeth ddyddiol y swyddogaeth weinyddol yn unol â chytundebau cyfreithiol, gweithdrefnau a safonau prosesu'r Gwasanaeth.
• Cynorthwyo i sicrhau bod y system rheoli asedau priffyrdd yn cael ei chadw'n gyfredol trwy gydweithio â Rheolwyr Llwybr a darparwyr gwasanaethau allanol Llywodraeth Cymru.
• Monitro a goruchwylio'r system rheoli asedau priffyrdd mewn perthynas â gweinyddu hysbysiadau trwyddedau, manylebau a dynodiadau strydoedd, gan gynnwys mapio a GIS.
• Dylunio, gweithredu, datblygu a chynnal systemau gweinyddu, gan gynnwys systemau ffeilio, storio ac adalw, i fodloni manylebau gwasanaeth a sicrhau y caiff yr holl waith ei gyflawni i safon uchel.
• Adolygu'r data a fewnbynnir gan arolygwyr gorfodi yn rheolaidd trwy sicrhau bod cywirdeb y data yn bodloni'r lleiafswm safon diffiniedig.
• Monitro safonau prosesu er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â gweithdrefnau a gwirio y caiff yr holl waith ei gyflawni yn gywir ac i safon uchel.
• Delio ag ymholiadau gan y cyhoedd mewn perthynas â gwaith yr Uned, a rhoi cyngor ar weithdrefnau prosesu a gweinyddol yn ôl yr angen.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl weithdrefnau ariannol a gweinyddol, a bod yr holl waith papur yn cael ei gwblhau yn gywir.
• Delio â gohebiaeth fel sy'n briodol.
• Sicrhau bod ffurflenni'r Uned yn cydymffurfio â gweithdrefnau a rhwymedigaethau statudol LlC ac ACGCC, a chynnal lefelau priodol o nwyddau swyddfa i gwrdd â gofynion y gwasanaeth.
• Adnabod cyfleoedd o ran arferion gorau i wella darpariaeth gwasanaethau a hunan-ddatblygiad fel ei gilydd.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth ACGCC. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
Mae’n gyfrifoldeb ar bob un o weithwyr yr Asiant i gydymffurfio â pholisïau Iechyd a Diogelwch, Amgylcheddol ac Ansawdd fel y’u diffinnir yn System Rheoli Busnes yr Asiant.
Sicrhau y glynir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
Cyffredinol
Cyd-gysylltu, fel bo’n briodol, â swyddogion yr Asiant, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
Sicrhau y glynir at reoliadau a gweithdrefnau ariannol yr Asiant a LlC.Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arferion gorau pan fo hynny’n briodol.
Dyletswyddau technegol, gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.
Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol.
Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn ymwybodol o’r gofynion e.e. deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithredu gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion perthnasol.
Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.Amgylchiadau Arbennig e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
• Bydd y swydd hon yn gofyn am weithio achlysurol y tu allan i oriau gweithio arferol.
• Ymweld â safleoedd adeiladu.
• Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill o'r DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).