Pwrpas y Swydd
1. Arwain prosiectau a neilltuwyd gan gynnwys dylunio, negodi a chynllunio o fewn y Rhaglen Tir ac Eiddo.
2. Rheoli a chyflawni prosiectau a neilltuwyd o fewn y Rhaglen.
3. Ymgysylltu â rhanddeiliaid a gweithio ar y cyd â phartneriaid i gyflawni amcanion y rhaglen.
4. Datblygu achosion busnes gan ddefnyddio'r fethodoleg Achos Busnes Gwell
5. Cyflawni amcanion prosiectau unigol a chyfrannu at ganlyniadau a thargedau cronnus y Rhaglen ar amser ac o fewn y gyllideb.
6. Cydlynu prosiectau a’u rhyng-ddibyniaethau ar draws y Rhaglen ac o fewn Portffolio ehangach y Cynllun Twf.
7. Cefnogi prosiectau i gyflawni ein targedau newid hinsawdd a bioamrywiaeth.
Cyfrifoldeb am swyddogaethau (e.e. pobl, cyllidebau, offer)
1. Rheoli cyllidebau'r prosiect, monitro gwariant a chostau yn erbyn allbynnau'r prosiect a gyflawnwyd ac a wireddwyd a buddion ehangach y rhaglen.
2. Rheoli pobl ac adnoddau ar draws timau prosiectau gan gynnwys neilltuo, rheoli, cofnodi a dadansoddi deilliannau'r gwaith.
3. Bod yn gyfrifol am offer perthnasol yn cynnwys gliniaduron a ffonau symudol.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Rhaglen Tir ac Eiddo
• Defnyddio dulliau rheoli prosiect i ddatblygu a chyflwyno'r prosiectau Tir ac Eiddo a adnabwyd gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd.
• Prosesu ceisiadau'r prosiect ar gyfer cyfleoedd ariannu prosiect cyfreithlon a phriodol fel sydd angen.
• Cadw trosolwg, ac arwain ar ddatblygu Achos Busnes Lawn ar gyfer Prosiectau Tir ac Eiddo.
• Rheoli a darparu mewnbwn i Fyrddau Prosiect / Rhaglen perthnasol yn ôl yr angen.
• Gweithio gyda rhanddeiliaid rhanbarthol, partneriaid a llywodraethau allweddol i sicrhau bod Prosiectau a Rhaglenni yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus.
• Sefydlu perthnasau gydag Asiantaethau Menter yng Nghymru ac ar draws y ffin i gefnogi nodau strategol y Cynllun Twf a chael enghreifftiau o arfer gorau a chydlynu cyfleoedd buddsoddi ar y cyd ac yn gyflenwol.
Rheoli Prosiect
• Cwblhau dyluniad ac achos busnes y prosiect yn cynnwys negodi gyda phartïon mewnol ac allanol i gyrraedd cytundeb o fewn y Rhaglen.
• Rheoli prosiectau cymhleth a niferus o'r gymeradwyaeth amlinellol i weithredu a chwblhau.
• Sicrwydd ansawdd a chydymffurfiaeth ar gyfer yr holl waith prosiect.
• Darparu cefnogaeth broffesiynol, gan gynnwys sicrhau ansawdd, i brosiectau eraill o fewn portffolio ehangach y Cynllun Twf.
Rheoli Rhaglenni
• Cefnogi a chydlynu systemau a disgyblaethau rheoli rhaglenni i'r arfer gorau sydd wedi'i mabwysiadu.
• Cydlynu a rheoli'r rhyng-ddibyniaethau ar draws rhaglenni a phrosiectau.
Llywodraethu Rhaglenni a Chontractau
• Negodi, rheoli ac adolygu'r contractau.
Rheoli Adnoddau
• Rheoli cyllidebau a grantiau prosiectau refeniw a chyfalaf.
• Gwneud y defnydd gorau a mwyaf effeithiol o adnoddau wrth gyflawni prosiectau.
• Cyflawni targedau masnachol y cytunir arnynt.
Rheoli Perfformiad
• Rheoli perfformiad ac atebolrwydd ar lefelau allbynnau prosiectau.
• Rheoli risg ac atebolrwydd ar lefelau allbynnau prosiectau.
Adrodd ac Atebolrwydd
• Adrodd ar gynllunio prosiectau ac adnoddau yn ôl yr angen.
• Sicrhau ansawdd yr holl adroddiadau data a pherfformiad.
• Gweithredu fel ymgynghorydd arbenigol sy'n ennyn ymddiriedaeth o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio.
Llysgenhadol
• Gweithredu fel lladmerydd dros y Weledigaeth Twf a'r rhanbarth.
• Datblygu a rheoli perthnasau allanol effeithiol ar bob lefel.
• Rheoli cyfathrebu allanol a chysylltiadau cyhoeddus y prosiectau.
Cydymffurfiaeth ac Ymddygiad
• Cydymffurfio â’r holl bolisïau, gweithdrefnau, arfer gorau a statud sydd wedi'u mabwysiadu.
• Arddangos y safonau uchaf o ymddygiadau a gwerthoedd proffesiynol.
*Ariennir y swydd hon yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
* Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn fodlon ystyried ymgeiswyr graddedig sydd heb profiad blaenorol mewn swydd Rheolwr Prosiect. O ganlyniad byddai graddfa gyflog lai yn cael ei gynnig ar gyfer y swydd hyd nes y gellir cyrraedd lefel gofynion rôl y Rheolwr Prosiect.