Lleoliad
Pencadlys - Bloc B (y prif adeilad), Caernarfon LL55 1SH
2 Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cydweithio gyda aelodau eraill o’r tîm datblygu i greu datrysiadau meddalwedd newydd ac i gefnogi datrysiadau sy’n bodoli’n barod.
• Ar gyfer pob prosiect sicrhau y glynir wrth Fethodoleg Datblygu Systemau Cyngor Gwynedd gan gyd weithio i sicrhau bod pob pecyn gwaith yn cael ei gyflawni ar amser, o fewn y gyllideb ac yn unol â’r fanyleb.
• Wrth weithio fel rhan o dîm, nodi lle mae modd defnyddio TGCh i greu cyfleon ac arbedion effeithlonrwydd a gwell Gofal Cwsmer.
• Cynorthwyo i sicrhau gweithrediad parhaus isadeiledd TGCh y Cyngor.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau. .
Data/Offer/Meddalwedd:
• Bod â mewnbwn i agweddau technegol prosiectau
• Rhoi cefnogaeth ar gyfer cymwysiadau o amryw ffwythiant, gan gynnwys dadansoddi problemau, eu datrys a’u hosgoi.
• Cysylltu gyda phartïon allanol i ddatrys materion
• Sicrhau bod dogfennau perthnasol yn cael eu diweddaru pan fo newidiadau’n cael eu gwneud fel rhan o’r broses datblygu.
Gwneud penderfyniadau, trefnu ac arloesi:
• Rhoi cymorth technegol i eraill.
• Rhoi mewnbwn i syniadau newydd yng nghylch sut y gall TGCh greu gwelliannau
• Yn gyfrifol am wneud penderfyniadau i sicrhau bod elfennau o brosiectau’n cael eu cwblhau ar amser, y tu mewn i’r gyllideb ac i’r safonau disgwyliedig.
• Rheoli ei (l)lwyth gwaith hynod gymhleth a thechnegol ei hun er mwyn cyrraedd targedau.
• Mewnbwn i’r broses gwneud penderfyniadau o ran dethol cyflenwyr a chynnyrch.
• Medru sicrhau cydbwysedd rhwng gofynion cyflawni gwaith prosiect a gwaith cefnogi pwysau mawr ac adhoc er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod ar gael i sustemau TGCh y Cyngor.
• Mewnbwn i’r broses cynllunio busnes.
• Cyfrannu tuag at sicrhau bod targedau perfformaid a mesuriadau gwella yn cael eu cyflawni, neu ragori arnynt.
Cyfathrebu:
• Sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn cyfathrebu â defnyddwyr ledled y Cyngor i fyny at yr uwch reolwyr.
• Dogfennu gofynion defnyddwyr yn glir trwy gysylltu gyda defnyddwyr mewn cyfarfodydd a gweithdai.
• Datblygu manylebau cysyniadol a thechnegol.
• Paratoi a chyflwyno hyfforddiant i’r defnyddwyr.
• Cynrychioli’r adran TGCh mewn cyfarfodydd ar draws y Cyngor ac yn allanol o bryd i’w gilydd.
Arall:
• Medru datrys problemau mewn nifer o feysydd o arbenigedd.
• Gall fod yn yn ymgynghorydd i’r busnes er mwyn gwella cymwysiadau a datblygu rhai newydd.
• Gweithio ar sawl tasg yr un pryd.
• Yn gyfrifol am godio a dylunio cymwysiadau dan arweiniad rhaglenwyr/dadansoddwyr y Cyngor.
• Yn gyfrifol am adnabod risgiau yn unol â fframwaith rheoli risgiau TGCh.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, mae’n bosib y bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a fydd yn gymwys am daliad yn unol ag Amodau a thelerau cyflogaeth y Cyngor. Bydd galwadau brys yn destun i drafodaeth benodol.
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.