Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Darparu’r sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol i gyflwyno, cynnal a chefnogi’r rhwydwaith ledled Gwynedd.
• Sicrhau y cefnogir y maes TGCh yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sydd wedi’i nodi.
• Wrth weithio fel rhan o dîm, nodi lle mae modd defnyddio TGCh i greu cyfleon ac arbedion effeithlonrwydd a gwell Gofal Cwsmer
• Bod yn gyfrifol am sicrhau bod offer a sustemau TGCh y Cyngor yn gweithio bob amser.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Cyllidol:
• Yn ymwybodol o strwythurau cyllidebol a chyfyngiadau prosiect/contract cefnogi.
• Archwilio mentrau bychain/canolig.
Data/Offer/Meddalwedd:
• Bod â mewnbwn i agweddau technegol y rhwydwaith sydd ag effaith ar y Cyngor i gyd ac sy’n cael effaith uniongyrchol ar y cyhoedd (a gwneud penderfyniadau yn eu cylch).
• Rhoi cefnogaeth ar gyfer gweinyddwyr sy’n hanfodol i waith beunyddiol y Cyngor a hefyd i wasanaethau a ddefnyddir gan y cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi problemau, eu datrys a’u hosgoi.
• Yn gyfrifol am sicrhau cywirdeb data sy’n hanfodol i’r Cyngor.
• Cysylltu gydag unigolion/cyrff allanol i ddatrys materion.
• Sicrhau bod yr holl ddogfennau sy’n berthnasol i weinyddwyr yn cael eu diweddaru pan fo newidiadau’n cael eu gwneud i bob elfen sy’n gysylltiedig â’r cyfarpar TG.
Prif Ddyletswyddau
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Gwneud Penderfyniadau, trefnu ac arloesi:
• Rhoi cymorth technegol i eraill.
• Addysgu aelodau iau o staff yn rheolaidd a rhoi arweiniad iddynt.
• Rhoi mewnbwn i syniadau newydd/arbedion effeithlonrwydd ynghylch sut y gall TGCh greu gwelliannau effeithlonrwydd, gwella gofal cwsmer neu greu cyfleoedd newydd o fewn ei swyddogaeth ei hun ac o fewn i’r prosiectau y mae’n gweithio arnynt ar hyn o bryd.
• Yn gyfrifol am wneud penderfyniadau i sicrhau bod elfennau o brosiectau’n cael eu cwblhau ar amser, y tu mewn i’r gyllideb ac i’r safonau disgwyliedig.
• Rheoli ei (l)lwyth gwaith hynod gymhleth a thechnegol ei hun er mwyn cyrraedd targedau.
• Mewnbwn i’r broses gwneud penderfyniadau o ran dethol cyflenwyr a chynnyrch.
• Mewnbwn i bolisïau a gweithdrefnau, efallai y bydd gofyn iddo/iddi eu cofnodi.
• Medru sicrhau cydbwysedd rhwng gofynion cyflawni gwaith prosiect a gwaith cefnogi pwysau mawr ac adhoc er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod ar gael i sustemau TGCh y Cyngor.
• Mewnbwn i’r broses cynllunio busnes.
• Cyfrannu tuag at sicrhau bod targedau perfformiad a mesuriadau gwella yn cael eu cyflawni, neu ragori arnynt.
Cyfathrebu:
• Sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn cyfathrebu â defnyddwyr ledled y Cyngor i fyny at yr uwch reolwyr.
• Cofnodi gofynion defnyddwyr yn glir trwy gysylltu gyda defnyddwyr mewn cyfarfodydd a gweithdai.
• Datblygu manylebau cysyniadol a thechnegol.
• Cynrychioli’r adran TGCh mewn cyfarfodydd ar draws y Cyngor ac yn allanol o bryd i’w gilydd.
Arall
• Medru datrys problemau mewn nifer o feysydd o arbenigedd.
• Gweithio ar sawl tasg yr un pryd.
• Yn gyfrifol am weithredu offer a systemau’r gweinyddwr a’u rhoi at ei gilydd.
• Yn gyfrifol am adnabod risgiau yn unol â fframwaith rheoli risgiau TGCh a sicrhau y cymerir cyfrifoldeb amdanynt.
Cyffredinol:
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd a lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor.
• Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a fydd yn gymwys am daliad yn unol ag Amodau a thelerau cyflogaeth y Cyngor. Bydd galwadau brys yn destun i drafodaeth benodol.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.