Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo gyda sicrhau y darperir gwasanaeth o lefel uchel a safon dda i gwsmeriaid gyda holl agweddau o ddarpariaeth gwasanaeth morol yn harbwr Pwllheli.
•Cynorthwyo er mwyn sicrhau bod Hafan ac Harbwr Pwllheli yn gosod safon uchel o fewn y diwydiant morwrol.
•Cynorthwyo er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau yn Hafan yn cael eu cynnal a'u cadw i safon uchel
•Cyfrifol am weithredu'r ‘Hoist’ Cwch; Craen Symudol; Tractor a Symudydd Cwch. Cynorthwyo gyda darparu cyfleusterau gwasanaeth y glannau yn Hafan, Pwllheli.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifol am weithredu'r ‘Hoist’ Cwch; Craen Symudol; Tractor a Symudydd Cwch.
•Cyfrifol am yr ardal storio cychod (ar y lan) ac am fonitro symudiad pob cwch, trelar a chyfarpar yn Hafan Pwllheli.
•Cyfrifol am gynhaliaeth peiriannau mecanyddol a ddefnyddir yn y gweithle.
•Cyfrifol am gynhaliaeth a glendid nwyddau ac offer yr unedau storio.
Prif ddyletswyddau
•Gweithredu'r hoist cwch, symudydd cwch, craen symudol a'r tractor yn unol ag arferion gweithio diogel presenol.
•Cyfrifoldeb i ddiogelu, glanio, rhwystro a gosod cychod mewn crudau a/neu stand cwch.
•Gwirio a chofnodi bob llong sydd yn dod ar y lan ac yn cael eu diogelu ar y lan ar dir y Cyngor yn Hafan, Pwllheli, yn rheolaidd.
•Sicrhau bod dyddiadur amserlen gweithredu peiriannau mecanyddol yn cael ei ddefnyddio i'r effeithlonrwydd uchaf bosib o ystyried y galw am y gwasanaeth, y llanw a'r tywydd a ddisgwylir.
•Sicrhau bod holl weithrediadau ‘Hoist’ a chraen cychod yn cael eu cofnodi a'u cyflwyno i'r Rheolwr Cynorthwyol er mwyn gyrru anfonebau.
•Cyflwyno manylion o gychod yn cael eu lletya ar y lan i'r Rheolwr Gweithrediadau Cynorthwyol er mwyn gyrru anfonebau.
•Cyfrifol am oruchwylio a monitro cyflenwadau pŵer cychod ar y lan ac am sicrhau eu defnydd diogel yn unol â'r Rheoliadau Iechyd a Diogelwch perthnasol.
•Cyfleu manylion defnydd trydan gan gychod a gaiff eu storio ar y lan i'r Rheolwr Gweithrediadau Cynorthwyol er mwyn gyrru anfonebau.
•Trefnu holl safleoedd cychod yn yr ardal llain galed er mwyn sicrhau bod yr ardal yn cael ei defnyddio i'w uchafswm.
•Sicrhau bod yr holl systemau ar y porthladd ar y safle Hafan wedi eu cloi ac yn ddiogel ar ddiwedd y diwrnod gwaith.
•Cynorthwyo gyda dyletswyddau tanwydd cei fel bo angen. Cyflwyno amcangyfrif tanwydd ar ddiwedd y mis i'r Rheolwr Gweithrediadau Cynorthwyol.
•Adrodd ar unrhyw ddiffygion mewn peirianwaith i'r Rheolwr Gweithrediadau Cynorthwyol.
•Cynorthwyo gyda holl gynnal a chadw peiriannau mecanyddol sydd yn berthnasol i'r gwaith. Diweddaru holl gofnodion peirianwaith a sicrhau bod yr wybodaeth yn gyfredol.
•Gweithredu lansio moduron harbwr. Rheoli symudiad llongau i'r porthladd ac oddi yno, a/neu'r angorfa pontŵn neu angorfa.
•Cyfrifoldeb am gynnal a chadw cychod harbwr mewn cyflwr da a glân.
•Cynorthwyo gyda chynnal a chadw pontwn - golchi pontŵn yn drylwyr (power wash), atgyweirio wyneb pontwn, cynnal a chadw pwyntiau pŵer, modiwlau golau a chyfarpar cysylltiedig.
•Cynorthwyo gydag asedau cyffredinol a chynnal a chadw'r safle.
•Sicrhau y cedwir y safle i’r safon uchel bosib o ran glanweithdra bob amser.
•Gweithredu system gyfrifiadurol y marina (system HavenStar) er mwyn trefnu archebion angorfeydd, creu anfonebau, prosesu taliadau ar gyfer angorfeydd, prynu nwy a gwerthiant rhew, cofnodi pan fo cychod yn cyrraedd ac yn gadael pan fo angen.
•Yn gyfrifol yn uniongyrchol i'r Rheolwr (neu'r Rheolwr Cynorthwyol / Harbwr Feistr Cynorthwyol yn absenoldeb y Rheolwr).
•Cydweithredu gyda Gwylwyr y Glannau, y Gwasanaeth Tân, yr Heddlu, y Bad Achub a'r Ambiwlans pe byddai argyfwng yn codi o fewn yr harbwr.
•Deall y defnydd mewn cyfundrefnau tân, cymorth cyntaf ac arllwyso olew.
•Cyfrifol am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
•Bydd yn ofynnol i weithio ar benwythnosau ac ar Wyliau Banc.
•Bydd yn ofynnol i weithio y tu allan i fframwaith 08.00 hyd at 17.00 fel bo'r angen.