Pwrpas y Swydd
• Rheoli a gweithredu rhaglen dreigl o archwiliadau stadau meddal ac arolygon ecolegol ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd.
• Rheoli rhestr eiddo stadau meddal ac adnabod asedau ecolegol.
• Rheoli gweithgareddau cynnal a chadw sy’n gysylltiedig â rheolaeth stadau meddal ac amgylcheddol sydd wedi’u rhaglennu, sy’n arferol ac sy'n rhagweithiol.
• Bodloni rhwymedigaethau ACGCC dan Adran 41, “Duty to maintain highways maintainable at public expense" ac Adran 58 "Special defence in action against a highway authority for damages for non-repair of Highway" Deddf Priffyrdd 1980.
• Cynorthwyo’r Cydlynydd Amgylcheddol ac Ecolegwyr i weithredu gofynion deddfwriaeth amgylcheddol a pholisi Llywodraeth Cymru (LlC).
Cyfrifoldeb am swyddogaethau e.e. staff, cyllidebau, offer
• Rheoli darparwyr gwasanaethau allanol, partneriaethau a rhanddeiliaid
• Rheoli Swyddogion Amgylcheddol Cynorthwyol (1 person) - ynglŷn ag achos busnes gyda Llywodraeth Cymru
• Rheoli archwiliadau a chyllidebau cynnal a chadw amgylcheddol perthnasol
• Cerbyd
• Camera
• Ysbienddrych
• Tabled / gliniadur
• Ffôn symudol
• Cronfeydd data rheoli asedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru
Prif Ddyletswyddau
Rheolaeth
• Dirprwyo i’r Ecolegydd neu'r Cydlynydd Amgylcheddol pan fo'r angen.
• Rheoli darparwyr gwasanaeth allanol (ymgynghorwyr / dylunwyr fel Noddwr Prosiect a chontractwyr).
• Rheoli perthnasau a chysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid amgylcheddol.
• Cynorthwyo a chynghori'r tîm Amgylchedd a Llywodraeth Cymru ynglŷn â gwelliannau i reolaeth bioamrywiaeth, tirwedd neu amgylcheddol.
Swyddogaeth Archwilio
• Cynorthwyo i reoli archwiliadau amgylcheddol gan gynnwys stadau meddal ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (WGTRMM) a systemau rheoli asedau Llywodraeth Cymru.
• Cynnal neu gynorthwyo gydag archwiliadau ar gyfer mathau eraill o asedau priffyrdd e.e. ffiniau priffyrdd neu wahanfuriau amgylcheddol / sŵn pan fo'r angen.
• Ennill arbenigedd mewn defnyddio’r system cyfeirio rhwydwaith drwy ddeall system link-section-node y System Rheoli Cynnal a Chadw Ffyrdd (RMMS) a'r ddogfennaeth a reolir gan y tîm Archwilio.
• Adnabod, asesu risg a blaenoriaethu diffygion asedau, chwyn niweidiol, rhywogaethau ymledol ac afiechydon planhigion.
• Cynorthwyo'r Swyddogion Coedyddiaeth i arolygu a rheoli coed peryglus dan a154 Deddf Priffyrdd a'r gronfa ddata rheoli coed pan fo'r angen.
• Rhaglennu a chynnal arolygon perthnasol (cylchol, ymatebol) i gydymffurfio ag WGTRMM.
• Hysbysu tîm Amgylchedd, tîm Gweithrediadau a thimau Rheoli Llwybrau ACGCC cyn gynted ag y bo’n ymarferol i alluogi i ddiffygion Categori 1 WGTRMM gael eu 'gwneud yn ddiogel'.
• Cysylltu gyda pherchnogion tir neu sefydliadau rhanddeiliaid (e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru [CNC] neu awdurdodau lleol) ynglŷn â materion amgylcheddol a leolir gerllaw'r gefnffordd. Cynorthwyo’r Heddlu, cyrff gorfodi a'r tîm Hawliadau Trydydd Parti drwy ymchwilio i honiadau llygredd, difrod neu aflonyddwch i ecosystemau neu rywogaethau a warchodir.
Swyddogaeth Arolwg Ecolegol ac Amgylcheddol
• Cynorthwyo i reoli archwiliadau ecolegol ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (WGTRMM) a systemau rheoli asedau Llywodraeth Cymru.
• Trefnu arolygon a rheoli cofnodion ar gyfer rhywogaethau a warchodir, peillyddion a chysylltu gyda chyrff allanol, e.e. www.cofnod.org.uk
• Cynorthwyo a chysylltu gydag Uned Cyflawni ac Archwilio ACGCC neu eraill ynglŷn ag arolygon ecolegol gofynnol fel rhan o brosiectau gwella cyfalaf e.e. archwilio safle am Lysiau'r Dial.
• Trefnu arolygon ecolegol arbenigol gan gadwyn gyflenwi ACGCC e.e. arolygwyr ystlumod trwyddedig.
• Trefnu arolygon amgylcheddol arbenigol gan gadwyn gyflenwi ACGCC e.e. monitro / profi ansawdd dŵr neu ddarganfod llygredd i fodloni gofynion Rheoliadau Amgylchedd y Dŵr (Cyfarwyddeb Fframwaith y Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2003.
Swyddogaeth Cynnal a Chadw a Gwella
• Rheoli caffael, comisiynu a gweithrediad swyddogaethau cynnal a chadw sy’n gysylltiedig â stadau meddal sydd wedi’u rhaglennu, sy’n arferol ac sy'n rhagweithiol, er enghraifft:
o Rhaglen flynyddol ar gyfer rheoli rhywogaethau ymledol a chwyn niweidiol (yn unol â Deddf Chwyn 1959).
o Mesurau lliniaru llygredd er mwyn gweithredu Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009.
• Cynorthwyo a darparu cefnogaeth rheoli mewn argyfwng i'r gwasanaethau brys ac ACGCC pan fo digwyddiad llygru.
• Rheoli atgyweiriadau diffygion a swyddogaethau cynnal a chadw arferol o fewn cyllidebau sydd ar gael ac o fewn cyfyngiadau arwynebedd ffordd.
• Darparu cefnogaeth i dimau a chadwyn gyflenwi ACGCC i reoli risgiau o niwed neu aflonyddwch i ecosystemau yn enwedig wrth weithredu'r Llawlyfr Dogfennau Contract ar gyfer Gwaith Priffyrdd (MCHW) Cyfres 3000 Tirwedd ac Ecoleg.
• Cefnogi Cydlynwyr Amgylcheddol ac Ecolegwyr i gyflawni amcanion bioamrywiaeth a mentrau Gweinidogol Llywodraeth Cymru (e.e. Coridorau Gwyrdd) i fodloni gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 .
• Cynorthwyo i reoli Cronfa Ddata Risg Amgylcheddol ACGCC.
Swyddogaeth Rhestr Eiddo
• Cynnal archwiliadau ac arolygon i greu gwybodaeth rhestr eiddo stadau meddal gan fanylu ar asedau newydd a phresennol yn unol ag WGTRMM gan gynnwys coetiroedd, glaswelltiroedd, cyrff dwr, ardaloedd mwynderau, asedau bioamrywiaeth (megis blychau ystlumod, twnneli moch daear, hibernacula). Mae data’r arolwg i gael ei gofnodi mewn systemau rheoli asedau LlC.
• Cynnal archwiliadau ac arolygon i greu gwybodaeth rhestr eiddo ecolegol gan fanylu ar asedau stadau meddal newydd a phresennol yn unol ag WGTRMM. Mae data’r arolwg i gael ei gofnodi mewn systemau rheoli asedau LlC.
• Cynorthwyo AGCCC i reoli gwybodaeth asedau tir a ffiniau priffyrdd drwy ddefnyddio Systemau Gwybodaeth Daearyddol.
Cyffredinol
• Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a ymgymerir gan ddarparwyr gwasanaeth.
• Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
• Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol ar y safle neu yn y swyddfa.
• Cydweithredu a chysylltu â staff o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac Awdurdodau Partner er mwyn hyrwyddo rheolaeth effeithiol o'r ACGCC.
• Bod yn gyfrifol am hunanddatblygiad.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill sy’n gymesur â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd ar gais y rheolwr llinell.
• Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Iechyd a Diogelwch ac Amgylcheddol
• Cydymffurfio ag agweddau iechyd a diogelwch y tîm archwilio, yn cynnwys rheoli risg drwy gydymffurfio â systemau gwaith diogel wedi’u sefydlu ac asesiadau risg gweithredol er enghraifft.
• Sicrhau yr ystyrir prosesau asesu risg iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn llawn ym mhob agwedd o waith y gwasanaeth amgylcheddol megis rheoli traffig.
• Mae holl staff yr Asiant yn gyfrifol am gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiant.
• Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
• Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
• Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn ymwybodol o’r gofynion e.e. deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithredu gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion perthnasol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl- troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
• Y gofyn i weithio oriau y tu allan i oriau gwaith arferol (rhwng 08:00 a 18:00 yn unol â'r cynllun oriau hyblyg) yn ôl y gofyn, er enghraifft archwiliadau gyda’r nos ac / neu ar benwythnosau o fewn rheoli traffig.
• Gofyniad i ddeilydd y swydd ymgymryd â hyfforddiant yn ôl y gofyn.
• Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill yn y DU yn achlysurol (e.e. Llandrindod, Caerdydd).