Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cyfrifoldeb am reoli harbwr Abermaw. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Harbyrau gyda gwaith oddi fewn harbyrau eraill y sir. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Traethau gyda rheoli traethau’r sir.
•Bydd disgwyl ar adegau, neu dros gyfnod amhenodol, i’r Harbwr Feistr weithredu yn unrhyw un o harbyrau eraill y Cyngor fel bo’r gofyn gan hefyd gynorthwyo gydag unrhyw waith ar yr arfordir.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am gyllideb incwm a gwariant Harbwr Abermaw. Cyfrifoldeb am arian imprest, a fflôt yr harbwr. Sicrhau fod targedau incwm yr harbwr yn cael ei gyrraedd. Sicrhau goruchwyliaeth a monitro’r gyllideb gwariant yn unol â gofynion yr Uned Forwrol a Pharciau Gwledig. Cyfrifoldeb am oruchwylio cerbydau, cychod a holl offer a chelfi’r harbwr a thraethau cyfagos.
Prif ddyletswyddau
1. Rheoli Harbwr
•Bydd yr Harbwr Feistr yn gyfrifol am reolaeth effeithlon yr harbwr o ddydd i ddydd mewn ymgynghoriad a’r Uwch Swyddog Harbyrau gan gynnwys:-
•Ymgynghori a chyfathrebu gyda’r cyhoedd yn gyffredinol, er enghraifft; cyflwyno gwybodaeth ynglŷn ag amseroedd llanw a thrai, y tywydd, cerrynt, sianel fordwyo, diogelwch ar y môr, rheoliadau pysgota, a phob math o faterion diogelwch eraill.
•Cydweithredu gyda Gwylwyr y Glannau, Heddlu, Adran Fasnach, Bad Achub a chyffelyb.
•Dyrannu llecynnau angori ym mhob rhan o’r harbwr. Sicrhau bod holl angorfeydd yn cael eu harchwilio i safon y Cyngor, ac yn unol â chanllawiau safonol. Cynllunio a gweithredu sustemau angori yn yr harbwr.
•Gosod llecynnau cadw cychod dros y gaeaf ar dir y Cyngor. Paratoi anfonebau i gwsmeriaid. Cydweithio ar ddyrannu llecynnau angori gyda harbrau eraill y Cyngor.
•Cyfrifoldeb am ddiogelwch oddi amgylch yr Harbwr. Cyfrifoldeb am faterion Iechyd a Diogelwch staff yr harbwr gan sicrhau'r bod holl ganllawiau diogelwch a pholisïau diogelwch y Cyngor yn cael eu dilyn.
•Archwilio a glanhau llithrfeydd cyhoeddus a chasglu ffioedd lansio.
•Cyfrifoldeb am gynnal a chadw cymhorthion mordwyo, llusernau, bwiau a marciau morwriaeth yn unol â disgrifiadau safonol ‘Tŷ’r Drindod’ a threfnu fod sustemau angori priodol mewn lle ar eu cyfer.
•Capteinio cychod y Cyngor er sicrhau rheolaeth oddi fwn awdurdodaeth yr harbwr ac ar yr arfordir yn gyffredinol fel bo’r angen.
•Lleoli marciau parthau traethau, a sicrhau fod badau dŵr a chychod yn cydymffurfio ag is-ddeddfau’r Cyngor yn yr harbwr ac ar draethau’r ardal.
•Paratoi, arddangos a dosbarthu gwybodaeth fanwl am is-ddeddfau a rheoliadau harbrau a thraethau’r Cyngor.
•Cydweithredu a chydweithio gydag ierdydd cychod, clybiau hwylio, pysgotwyr lleol ac yn y blaen.
•Gofalu am daclusrwydd a glanweithdra'r holl dir yng nghyffiniau’r Harbwr gan gynnal archwiliad dyddiol o’r offer diogelwch, tiroedd a chyfleusterau cyfagos.
•Unrhyw waith perthnasol arall yng nghyswllt rheolaeth a gweinyddiaeth yr harbwr a’r arfordir yn gyffredinol ar ofyn y Swyddog Morwrol Harbyrau.
•Paratoi adroddiadau i’r Pwyllgorau Ymgynghorol fel bo’r gofyn.
•Dirprwyo ar ran Harbwr Feistri eraill fel bo angen h.y. yn ystod gwyliau a gwaeledd, neu ar unrhyw achlysur arall fel y gofyn.
2. Traethau
•Cynorthwyo gyda rheoli traethau’r ardal a chynorthwyo gydag unrhyw waith ar yr arfordir.
•Cynorthwyo swyddogion traeth llawn a rhan amser.
•Cyfrifoldeb am reolaeth cerbydau a chychod a sicrhau eu cynhaliaeth mewn da bryd, ac ar gyfer unrhyw ddefnydd/achlysur.
•Cynorthwyo’r gweithwyr eraill yr Uned Forwrol a Pharciau Gwledig gyda gwaith cynhaliaeth angorfeydd, cymhorthion mordwyo neu unrhyw waith arall yn unol â’r angen.
•Archwilio’r arfordir er sicrhau amgylchfyd diogel gan osod arwyddion priodol petai beryglon yn bodoli.
•Cynorthwyo’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig mewn unrhyw achos argyfwng a allai godi e.e. llygredd olew, drymiau peryglus ar y traeth, lladrad, fandaliaeth a.y.b.
3.Dyletswyddau a thasgau ychwanegol
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd gofyn i’r Swyddog weithio rhan fwyaf o benwythnosau yn ystod y cyfnod a fu yn arwain at Gŵyl Y Pasg hyd at ddiwedd mis Medi.
•Gweithio pob Gŵyl Banc, a rhai nosweithiau yn y cyfnod Gŵyl Y Pasg hyd at ddiwedd Medi.
•Fe fydd gofyn i’r swyddog fod ar alwad ac yn barod i ymateb mewn achosion brys ac mewn argyfwng.
•Bydd gofyn o dro i dro i’r Harbwr Feistr weithredu fel Harbwr Feistr achlysurol yn unrhyw un o’r Harbyrau yn unol â’r gofyn..