NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Meddu ar sgiliau cyfathrebu da gyda’r gallu i ddelio a phobl yn gwrtais..
Hyblyg ac yn gallu gweithio fel rhan o dim.
Meddu ar hunan-gymhelliant gyda’r gallu i flaenoriaethu a chwblhau tasgau i gwrdd â therfynau amser penodol.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Safon addysg dda i lefel level TGAU neu uwch i gynnwys Cymraeg a Saesneg
NVQ 3 neu gymhwyster cyffelyb
DYMUNOL
NVQ level 4 mewn Gweinyddiaeth
ECDL
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad helaeth o weithio ym maes gweinyddol ac ysgrifenyddol.
Profiad o gymryd a chadw cofnodion a chreu taenlenni cyfrifiadurol
Profiad o ddelio a’r cyhoedd ac asiantaethau eraill
DYMUNOL
-
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Sgiliau cyfrifiadurol - bod yn gyfarwydd â systemau Microsoft Word, Excel a Powerpoint.
Meddu ar sgiliau o weithio’n ofalus a chywir heb oruchwyliaeth.
Sgiliau cofnodi yn ddwyieithog.
DYMUNOL
Gwybodaeth am waith Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwybodaeth am systemau cyllidol y Cyngor
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.