Swyddi ar lein
Swyddog Galluogi Digidol a SIMS
£25,419 - £27,514 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 22-22367
- Teitl swydd:
- Swyddog Galluogi Digidol a SIMS
- Adran:
- Cyllid
- Gwasanaeth:
- Technoleg Gwybodaeth a Thrawsnewid
- Dyddiad cau:
- 21/04/2022 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £25,419 - £27,514 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S2
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwenan Pritchard ar 01286 679627
Cynnal cyfweliadau - 27/04/2022
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 21ain o Ebrill 2022
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Y gallu i ysgogi ac ysbrydoli
• Person positif sy’n gwneud penderfyniadau gwybodus
• Y gallu i weithio ar ei ben neu phen ei hun ac fel rhan o dîm
• Gallu cyfathrebu gyda phobl ar bob lefel o fewn y sefydliad
• Hyderus ac agos atoch
• Y gallu i wrando, dadansoddi a gweithredu ar y wybodaeth a dderbynnir
• Bod yn barod i fentro ac yn arloesol, gan adnabod ffiniau ble gellir gwireddu hyn
• Yn drefnus, gan arddangos rhinweddau i weinyddu’n effeithiolDYMUNOL
-CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Gradd neu gymhwysedd cyfatebolDYMUNOL
• Cymwysterau / hyfforddiant ffurfiol mewn rheoli prosiectau
• Cymwysterau / hyfforddiant ffurfiol mewn dadansoddi busnes
• Cymwysterau / hyfforddiant ffurfiol mewn rheoli newidPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Profiad o weithio gydag ymgynghorwyr a chontractwyr allanolDYMUNOL
• Profiad o ddarparu cyflwyniadau a’u cyflwyno i gynulleidfa ar sawl lefel.
• Profiad o gyfrannu at achosion busnes neu ddogfennau tendr swyddogol
• Ymwybyddiaeth o fethodoleg VanguardSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Sgiliau dadansoddol uwch
• Disgyblaeth i ymchwilio i sawl pecyn meddalwedd addysgol a’i addasrwydd ar gyfer Strategaeth Ddigidol Ysgolion Gwynedd
• Gallu gweithio yn greadigol a dadansoddol mewn amgylchedd o ddadansoddi problemau
• Y gallu i adeiladu perthynas yn gyflym
• Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog
• Gallu cynhyrchu dogfennaeth a chyflwyniadau o ansawdd uchel
• Defnyddiwr hyderus o becynnau meddalwedd o bob math gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i: becynnau Microsoft Office, Google G-SuiteDYMUNOL
• Ymwybyddiaeth o sefydliadau addysgol a’r dechnoleg a ddefnyddir ar gyfer eu gweinyddiaeth ac ar gyfer addysgu
• Ymwybyddiaeth o’r newidiadau a gyflwynir drwy fabwysiadu Cwricwlwm i Gymru
• Sgiliau cyflwyno ardderchog (llafar ac ysgrifenedig, yn y Gymraeg a’r Saesneg)
• Ymwybyddiaeth a defnyddiwr ymarferol o becynnau rheoli gwybodaeth ysgolion megis SIMS
• Ymwybyddiaeth a defnyddiwr ymarferol o’r llwyfan HWB
• Profiad o weinyddu safleoedd Sharepoint
• Profiad o’r llwyfan PowerApps
• Profiad o ddarparu dadansoddiad ystadegol gan ddefnyddio Power BI.ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOLGwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud
• Aelod o dîm o alluogwyr digidol i adnabod anghenion cefnogi’r cwricwlwm a gweinyddiaeth ysgol gan gefnogi’r ysgolion pan gyflwyni’r y darpariaethau digidol hyn
• Ymchwilio i becynnau meddalwedd newydd
• Ymlynu i’r safonau a’r ymarferion da a nodwyd yn Strategaeth Ddigidol Ysgolion Gwynedd tra’n cefnogi a cyflwyno datrysiadau digidol i’r ysgolion
• Gall ddarparu cefnogaeth gogyfer cefnogi systemau rheoli gwybodaeth ysgolion, megis SIMS
• Darparu cefnogaeth gogyfer gweinyddu llwyfan addysgu HWB
• Darparu cefnogaeth a gweinyddiaeth ar gyfer SharepointCyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Staff:
• Gall fod yn ran o banel cyfweld
Cyllid:
• Ymwybyddiaeth o strwythurau cyllidol yr uned a mecanwaith cyllido ysgolion
• Gwybodaeth o gyfraith gytundebol, gyda mewnbwn i sawl cytundeb meddalwedd a gwasanaethau digidol
• Adolygu a gweinyddu ystod eang o gytundebau gyda cwmnïau 3ydd parti
• Darparu gwasanaethau digidol i’r ysgolion yn y modd mwyaf cost-effeithiol
• Mewnbwn i fentrau digidol ar raddfa eang sydd ag effaith bellgyrhaeddol i’r ysgolion, yr Awdurdod a’r cyhoedd gan gynnig cyfeiriad a chefnogaeth i aelodau eraill o’r tîm
• Gall fod yn gyfrifol am roi mewnbwn i achosion busnes a chyfrannu at y broses caffael
Data/Offer/Meddalwedd:
• Dilyn gweithdrefnau, prosesau a safonau tra’n cyflwyno darpariaeth digidol i gyfarch a gweledigaeth Strategaeth Ddigidol Ysgolion Gwynedd
• Adolygu pecynnau meddalwedd gan grybwyll safonau penodol wrth sefydlu darpariaeth newydd
• Gall gynrychioli’r Awdurdod mewn cyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol ble mae angen mewnbwn ar eitemau digidol yn y sector Addysg
• Cydweithio a chwmnïau allanol i gywiro problemau
• Arwain drwy esiampl drwy lynu at safonau diogelwch seibr ym mhob agwedd o’r swydd.Prif Ddyletswyddau. .
Gwneud penderfyniadau, trefnu ac arloesi:
• Ymchwilio i ddatblygiadau newydd yn y maes o ddarpariaethau digidol i ysgolion
• Cynorthwyo Rheolwr Gwasanaethau Digidol Ysgolion Gwynedd i gadw Strategaeth Digidol Ysgolion Gwynedd yn gyfredol
• Cynghori’r Rheolwr Gwasanaethau Digidol Ysgolion Gwynedd am ddatrysiadau digidol a chyflenwyr newydd yn y maes addysgol
• Cadw dogfennaeth a systemau wybodaeth mewnol y gwasanaeth yn gyfredol a cynghori am welliannau ble bo hynny’n briodol
• Gwarantu bod tasgau a phrosiectau yn cael eu cyflwyno ar amser gan gyfathrebu’n glir pe na byddai hynny’n bosib
• Adnabod meysydd o arloesi ac effeithlonrwydd ble gall cyflwyno datrysiadau digidol greu gwelliannau
• Meddu ar allu i reoli nifer o dasgau gyda’i gilydd
• Defnyddio methodoleg “Agile”, gan gynnwys y camau Darganfyddiad, Alpha, Beta, Byw ac Ymneilltuo ar gyfer prosiectau newydd a’u rheoli drwy ddilyn methodoleg rheoli prosiect cydnabyddedig
• Gall gyfrannu at weithdrefnau mesur perfformiad drwy baratoi data ac ystadegau rheolaethol ar gyfer eu cyflwyno’n fewnol yn y Gwasanaeth TG, neu ar gyfer adroddiadau ehangach.
Cyfathrebu:
• Cyfrannu at achosion busnes i gystadlu am grantiau cenedlaethol ac at ddibenion trefniadau cyllidol mewnol y Cyngor
• Arddangos sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn cyfathrebu â defnyddwyr drwy’r ysgolion ac yn ehangach yn yr Awdurdod gan gynnwys i fyny at lefel y Prif Weithredwr, Penaethiaid ac Aelodau Etholedig
• Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar gwych yn y Gymraeg a’r Saesneg
• Gall gynrychioli’r ysgolion a’r Awdurdod mewn materion digidol yn allanol ac mewn cyfarfodydd ar draws y Cyngor, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i: Awdurdod Technegol HWB, is-grwpiau yn ymwneud a’r rhaglen HWB, fforymau prifathrawon uwchradd a chynradd,
• Gall fod yn paratoi, comisiynu neu gyfrannu at hyfforddiant i’r ysgolion
• Rhoi cyngor ac arweiniad i ddefnyddwyr oddi fewn ac yn allanol i’r gwasanaeth.
Arall:
• Cyfrifol am adnabod risgiau a sicrhau y cymerir cyfrifoldeb amdanynt, neu eu dyrchafu ar gyfer sylw pellach
• Gall fod yn negodi gyda darparwyr ar gyfer cyflenwi cynnyrch a gwasanaethau digidol i ysgolion Gwynedd
• Arwain drwy esiampl drwy weithredu oddi fewn i bolisïau Seibr Ddiogelwch y Cyngor a dyrchafu unrhyw ddigwyddiad neu wendid seibr drwy sianelau adrodd y Gwasanaeth TG ar ei union
Cyffredinol:
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a fydd yn gymwys am daliad yn unol ag Amodau a thelerau cyflogaeth y Cyngor. Bydd galwadau brys yn destun i drafodaeth benodol.