Swyddi ar lein
Rheolwr Prosiect Tir ac Eiddo Cyfnod Penodol Hyd at 31/03/2024 - Cyf: 21-22346
£39,571 - £41,591 y flwyddyn | Dros dro 31/03/2024
- Teitl swydd:
- Rheolwr Prosiect Tir ac Eiddo Cyfnod Penodol Hyd at 31/03/2024
- Adran:
- Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
- Dyddiad cau:
- 19/04/2022 09:17
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/03/2024 | 37 Awr
- Cyflog:
- £39,571 - £41,591 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS4
- Lleoliad(au):
- Cyffordd Llandudno
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Am rhagor o wybodaeth am y swydd ac Uchelgais Gogledd Cymru, cliciwch yma
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â David Mathews ar swyddi@uchelgaisgogledd.cymru
Rhagwelir cynnal cyfweliadau 10/05/2022
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD MAWRTH 19/04/2022
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
•Dibynadwy
•Cyfathrebwr hyderus gyda deallusrwydd emosiynol cryf
•Person sy’n meddwl yn arloesol ac yn datrys problemau
•Meddwl yn hyblyg ac yn fodlon derbyn gyda chyfrifoldeb, blaenoriaethau gwahanol a chydnabod ac ymateb i newid.
•Sgiliau trefnu ardderchog
•Yn gallu gweithio ar ei liwt ei hun ac fel rhan o dîm
•Yn gallu gweithio dan bwysau
•Gallu wedi'i brofi i gwrdd â therfynau amser a thargedau
•Y gallu i adeiladu perthnasai ac ysbrydoli eraill i weithredu
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•Gradd/ôl-radd mewn maes perthnasol (neu gyfatebol)
Dymunol
•Cymhwyster Rheoli Prosiect / Rhaglen (e.e. PRINCE 2 Practitioner neu gyfatebol)
•Aelodaeth o Sefydliad Proffesiynol fel yr RICS, RTPI, RIBA, IED neu debyg.
•Isafswm o bum mlynedd o brofiad ers y cymhwyster proffesiynol.
Profiad perthnasol
Hanfodol
•Profiad blaenorol naill ai mewn datblygu eiddo, cynllunio, dylunio ac adeiladwaith neu gyflawni prosiectau.
•Tystiolaeth a cofnod o ddatblygiad proffesiynol parhaus
•Profiad o gyflawni rhaglenni a/neu prosiectau'n llwyddiannus ar amser ac o fewn y gyllideb
•Profiad o ymgysylltu gyda'r cyhoedd/rhanddeiliaid yn effeithiol
•Profiad blaenorol o reoli contractau
Dymunol
•Profiad o weithio gydag Aelodau Etholedig ac ymdrin â materion sy'n wleidyddol sensitif
•Profiad o wneud ceisiadau am gyllid allanol a / neu ddatblygu achosion busnes
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Gwybodaeth neu ymwybyddiaeth o Gynllunio Gwlad a Thref, dylunio ac adeiladwaith, datblygu tir ac eiddo, adfywio trefol, caffael sector cyhoeddus ac ymwybyddiaeth o faterion cyfreithiol a chytundebol.
•Sgiliau rhyngbersonol a sgiliau cyfathrebu da.
•Gwybodaeth weithiol dda am ddulliau rheoli prosiectau.
•Gwybodaeth dda am dechnegau cynllunio, monitro a rheoli prosiectau
•Dealltwriaeth o arferion rheolaeth ariannol
•Llythrennog mewn TGCh, yn gyfforddus gyda Word, PowerPoint, Excel, cronfeydd data perthnasol a chyfryngau cymdeithasol
Dymunol
•Gwybodaeth neu ymwybyddiaeth o'r fethodoleg Model Achos Busnes Pum Achos.
•Dealltwriaeth o'r broses ysgrifennu bidiau / datblygu achosion busnes
Anghenion ieithyddol
DYMUNOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
1. Arwain prosiectau a neilltuwyd gan gynnwys dylunio, negodi a chynllunio o fewn y Rhaglen Tir ac Eiddo.
2. Rheoli a chyflawni prosiectau a neilltuwyd o fewn y Rhaglen.
3. Ymgysylltu â rhanddeiliaid a gweithio ar y cyd â phartneriaid i gyflawni amcanion y rhaglen.
4. Datblygu achosion busnes gan ddefnyddio'r fethodoleg Achos Busnes Gwell
5. Cyflawni amcanion prosiectau unigol a chyfrannu at ganlyniadau a thargedau cronnus y Rhaglen ar amser ac o fewn y gyllideb.
6. Cydlynu prosiectau a’u rhyng-ddibyniaethau ar draws y Rhaglen ac o fewn Portffolio ehangach y Cynllun Twf.
7. Cefnogi prosiectau i gyflawni ein targedau newid hinsawdd a bioamrywiaeth.Cyfrifoldeb am swyddogaethau (e.e. pobl, cyllidebau, offer)
1. Rheoli cyllidebau'r prosiect, monitro gwariant a chostau yn erbyn allbynnau'r prosiect a gyflawnwyd ac a wireddwyd a buddion ehangach y rhaglen.
2. Rheoli pobl ac adnoddau ar draws timau prosiectau gan gynnwys neilltuo, rheoli, cofnodi a dadansoddi deilliannau'r gwaith.
3. Bod yn gyfrifol am offer perthnasol yn cynnwys gliniaduron a ffonau symudol.Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Rhaglen Tir ac Eiddo
• Defnyddio dulliau rheoli prosiect i ddatblygu a chyflwyno'r prosiectau Tir ac Eiddo a adnabwyd gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd.
• Prosesu ceisiadau'r prosiect ar gyfer cyfleoedd ariannu prosiect cyfreithlon a phriodol fel sydd angen.
• Cadw trosolwg, ac arwain ar ddatblygu Achos Busnes Lawn ar gyfer Prosiectau Tir ac Eiddo.
• Rheoli a darparu mewnbwn i Fyrddau Prosiect / Rhaglen perthnasol yn ôl yr angen.
• Gweithio gyda rhanddeiliaid rhanbarthol, partneriaid a llywodraethau allweddol i sicrhau bod Prosiectau a Rhaglenni yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus.
• Sefydlu perthnasau gydag Asiantaethau Menter yng Nghymru ac ar draws y ffin i gefnogi nodau strategol y Cynllun Twf a chael enghreifftiau o arfer gorau a chydlynu cyfleoedd buddsoddi ar y cyd ac yn gyflenwol.Rheoli Prosiect
• Cwblhau dyluniad ac achos busnes y prosiect yn cynnwys negodi gyda phartïon mewnol ac allanol i gyrraedd cytundeb o fewn y Rhaglen.
• Rheoli prosiectau cymhleth a niferus o'r gymeradwyaeth amlinellol i weithredu a chwblhau.
• Sicrwydd ansawdd a chydymffurfiaeth ar gyfer yr holl waith prosiect.
• Darparu cefnogaeth broffesiynol, gan gynnwys sicrhau ansawdd, i brosiectau eraill o fewn portffolio ehangach y Cynllun Twf.Rheoli Rhaglenni
• Cefnogi a chydlynu systemau a disgyblaethau rheoli rhaglenni i'r arfer gorau sydd wedi'i mabwysiadu.
• Cydlynu a rheoli'r rhyng-ddibyniaethau ar draws rhaglenni a phrosiectau.Llywodraethu Rhaglenni a Chontractau
• Negodi, rheoli ac adolygu'r contractau.Rheoli Adnoddau
• Rheoli cyllidebau a grantiau prosiectau refeniw a chyfalaf.
• Gwneud y defnydd gorau a mwyaf effeithiol o adnoddau wrth gyflawni prosiectau.
• Cyflawni targedau masnachol y cytunir arnynt.Rheoli Perfformiad
• Rheoli perfformiad ac atebolrwydd ar lefelau allbynnau prosiectau.
• Rheoli risg ac atebolrwydd ar lefelau allbynnau prosiectau.Adrodd ac Atebolrwydd
• Adrodd ar gynllunio prosiectau ac adnoddau yn ôl yr angen.
• Sicrhau ansawdd yr holl adroddiadau data a pherfformiad.
• Gweithredu fel ymgynghorydd arbenigol sy'n ennyn ymddiriedaeth o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio.Llysgenhadol
• Gweithredu fel lladmerydd dros y Weledigaeth Twf a'r rhanbarth.
• Datblygu a rheoli perthnasau allanol effeithiol ar bob lefel.
• Rheoli cyfathrebu allanol a chysylltiadau cyhoeddus y prosiectau.Cydymffurfiaeth ac Ymddygiad
• Cydymffurfio â’r holl bolisïau, gweithdrefnau, arfer gorau a statud sydd wedi'u mabwysiadu.
• Arddangos y safonau uchaf o ymddygiadau a gwerthoedd proffesiynol.*Ariennir y swydd hon yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.