Nodweddion personol
Hanfodol
•Yn berson hyblyg sy’n awyddus i weithio mewn ffyrdd gwahanol i ddarparu gwasanaethau a chyflawni dyletswyddau.
•Yn amyneddgar.
•Yn awyddus i ddysgu ac i ddatblygu
Dymunol
•Gallu defnyddio system wybodaeth gyfrifiadurol mewn perthynas ag anghenion gwasanaeth.
•Gallu I weithio’n effeithiol fel aelod o dim.
•Yn berson dibyniadwy a hyblyg.
•Brwdfrydig, hunan-ddibynnol a phendant.
•Cefnogi arferion gwrth- wahaniaethol.
•Cyfathrebu’n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, asiantiaethau eraill a darparwyr gwasanaeth.
•Ymrwymedig I werthoedd, egwyddorion, nodau ac amcanion y gwasanaeth.
•Gwybodaeth o’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol, CQSW, CSS, Dip SW
•Cofrestriad Cyngor Gofal cyfredol
Dymunol
•Cymhwyster ôl gymhwyso
•Cymhwyster athro/awes ymarfer
Profiad perthnasol
Hanfodol
•Profiad o waith cymdeithasol neu ddatblygiadol gyda phlant a phobl ifanc
•Profiad o asesu, creu pecynnau gofal, ac adolygu.
Dymunol
•Profiad o weithio’n aml-asiantaethol.
•Profiad o waith amddiffyn plant
•Profiad o weithio gyda phlant yn derbyn llety / mewn gofal.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Gwybodaeth o’r deddfau a’r fframweithiau perthnasol i weithio gyda phlant a’u gofalwyr / teuluoedd.
•Gallu addasu i weithio gyda plant a phobl ifanc yn unigol neu mewn grwpiau.
•Gallu i gynllunio gwaith yn effeithiol ac i gadw cofnodion ar ffeiliau yn gyfredol.
•Gallu derbyn arweiniad a goruchwyliaeth yn effeithiol er budd y gwasanaeth a datblygiad personol.
•Gallu cymryd rhan mewn trafodaethau grw^p a chyfrannu i ddatblygiad gwasanaeth.
•Gallu gweithio dan bwysau a blaenoriaethu’n effeithiol.
Dymunol
•Dealltwriaeth o’r cysyniad o Riantu Corfforaethol
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)