Swyddi ar lein
Rhaglen Cefnogi Trosglwyddiad ac Adferiad - Swyddog Ymgysylltu â Rhanddeilaid
£34,373 - £39,571 y flwyddyn
- Cyfeirnod personel:
- 21-22302
- Teitl swydd:
- Rhaglen Cefnogi Trosglwyddiad ac Adferiad - Swyddog Ymgysylltu â Rhanddeilaid
- Adran:
- Swyddi cyffredinol
- Gwasanaeth:
- Swyddi cyffredinol
- Dyddiad cau:
- 18/04/2022 10:00
- Cyflog:
- £34,373 - £39,571 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Caerdydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Rhaglen Cefnogi Trosglwyddiad ac Adferiad - Swyddog Ymgysylltu â Rhanddeilaid
Dyddiad cau: Dydd Llun 18 Ebrill 2022
Dyddiad y Cyfweliad: Dydd Mawrth 3 Mai 2022
Cyflog:
Gradd 4. Pwynt Cyflog 30 - 35 (£34,373 - £39,571)
Cyfnod:
Cyfnod Penodol tan fis Mawrth 2024
Yn atebol i:
Swyddog Polisi - yr Amgylchedd
Lleoliad:
One Canal Parade, Dumballs Road, Caerdydd
(mae hon yn swydd dros Gymru gyfan, felly
bydd disgwyl i ddeiliad y swydd deithio’n
rheolaidd i Gaerdydd ac ar draws Cymru ond
mae hyblygrwydd o ran lleoliad yn amodol ar
drafodaeth am weithio gartref).
A yw hon yn swydd dan gyfyngiadau gwleidyddol: Ydi
Ydi’r Gymraeg yn hanfodol: Na. Mae’r gallu i ysgrifennu a siarad Cymraeg yn rhugl yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Ynglŷn â’r Swydd
Mae CLlLC yn datblygu rhaglen Cefnogi Trosglwyddiad ac Adferiad ar gyfer awdurdodau lleol, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y rhaglen yw helpu awdurdodau lleol wrth iddynt gynllunio ar gyfer trosglwyddo i adferiad gwyrddach, ôl Covid, drwy ddarpariaeth cefnogaeth, cyngor, arweiniad a llais cyfunol ar y materion hyn. Mae rhan o’r rhaglen yn canolbwyntio ar liniaru, yn seiliedig ar bedair thema map llwybr datgarboneiddio Llywodraeth Cymru, sef caffael, cludiant, adeiladau a’r defnydd o dir. Yn ychwanegol, mae’r rhaglen yn anelu at ddarparu cyngor a chymorth ar addasu/cadernid, mynd i’r afael â diogelwch bwyd, ynni a dŵr, rheoli perygl llifogydd a materion eraill a ragwelir o ganlyniad i gynnydd mewn amlder digwyddiadau tywydd garw.
Bydd y deiliad y swydd hon yn benodol gyfrifol am gefnogi ymgysylltiad â rhanddeiliaid a chyfathrebu effeithiol ynghylch Rhaglen Cefnogi Trosglwyddiad ac Adferiad CLlLC.
I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Neville Rookes,
Swyddog Polisi - Amgylchedd ar 07771 347829.
I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol gyda ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau, Dydd Llun 18 Ebrill 2022 i:
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma - www.wlga.cymru/jobs1