Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Darparu cefnogaeth i deuluoedd ffoaduriaid sydd wedi ei ailsefydlu yng Ngwynedd, eu cynorthwyo i gynnal tenantiaeth, rhoi cymorth a chyngor i fod yn annibynol a hunangynhaliol, helpu i integreiddio yn y gymuned
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•
Prif ddyletswyddau
•Cefnogi ffoaduriaid i ailsefydlu trwy ddarparu gwybodaeth a chyngor priodol
•Gweithio yn agos gyda chyfieithydd i ddarostwng rhwystrau ieithyddol.
•Rhoi cymorth i hybu annibyniaeth, dygymod a deall byw yn y D.U ac addasu i ddiwylliant gwahanol.
•Datblygu a gweithredu cynlluniau cefnogol ar gyfer y ffoaduriaid, eu monitro a’u hadolygu yn rheolaidd, ar gyfer adrodd i’r Rheolwr Llinell.
•Rhoi cymorth ymarferol i’r ffoaduriaid yn rheolaidd, trwy ymweliadau cartref, trwy ffôn, er mwyn eu cynorthwyo i adnabod y gymuned, dysgu’r iaith a chynnal eu tenantiaeth.
•Rhoi cymorth i’r ffoaduriaid gysylltu, cofrestru â gwneud trefniadau perthnasol ar gyfer yr eiddo gyda chyflenwyr gwasanaethau megis Dŵr, Nwy, Trydan, a rhoi cymorth i’r teuluoedd ddeall ei cyfrifoldebau a cyllido ar eu cyfer.
•Cofrestru gyda Adran Gwaith a Pensiynau, fel bo angen, a darparu cymorth gyda budd-daliadau i’r eithaf, ynghyd a rheoli cyllideb a dyledion a chyfeirio at gymorth arbenigol
•Darparu cefnogaeth a chyngor gyda chyllidebau.
•Cofrestru a chefnogi unigolion i fynychu darpariaeth ESOL o fewn mis iddynt gyrraedd.
•Cymorth i gofrestru gyda meddyg a deintydd yn lleol.
•Cefnogi a chyfeirio unigolion at gyfleoedd gwaith a gwirfoddoli.
•Cymorth i reoli amser a chadw at amserlenni ac apwynitadau meddygol/deintyddol, iechyd, ac Adran Gwaith a Pensiwn.
•Adnabod a chefnogi unigolion i oresgyn rhwystrau sy’n eu gwynebu parthed integreiddio yn eu cymuned
•Adnabod a trefnu unrhyw gefnogaeth bellach sydd angen.
•Gweithio heb oruchwyliaeth yn y maes gydag unigolion bregus, a delio â materion a sefyllfaeodd sensitif
•Deall a pharchu gwahanol gefndiroedd crefyddol a chefndiroedd diwylliannol amrywiol.
•Cadw cofnodion manwl a chyfredol o’r gefnogaeth sydd yn cael ei ddarparu ar ffeiliau’r unigolion ac adrodd i’r Rheolwr Llinell.
•Sicrhau fod y gwasanaeth a ddarperir yn cydymffurfio gyda amodau cynllun y Swyddfa Gartref Ailsefydlu Ffoaduriaid.
•Annog a chefnogi unigolion ar y rhaglen i fyw bywydau mor llawn ac annibynnol a phosib o fewn eu cymuned leol, drwy ddarparu gwybodaeth, a cefnogaeth ymarferol briodol.
•Sicrhau cydymffurfio gydag unrhyw drefniadau asesiad rheoli risg perthnasol i’r gwaith.
•Darparu lwfans arian cychwynnol ar gyfer pob Buddiolwr, mae hyn er mwyn sicrhau bod ganddo ddigon o arian i fyw arno tra bod eu cais am fudd-daliadau yn cael ei brosesu.
•Monitro a chofnodi trafodion ariannol a gwybodaeth at ddibenion adrodd ac archwilio, ar gyfer Cyngor Gwynedd a'r Swyddfa Gartref.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd weithio dyddiau/oriau hyblyg fel bo angen
•Bydd yn ofynol i ddeilydd y swydd weithio ar y penwythnos ac oriau anghymdeithasol, fel bo angen