Pwrpas cyffredinol y Swydd
Bydd yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant yn meddu ar lefelau sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a fydd yn gallu cynnig atebion cyflym a phendant i broblemau ac yn mynnu safonau uchel ymhob agwedd ar ei (g)waith.
Bydd yn gyfrifol am arwain a rheoli llinell tîm bychan o Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant fydd yn gweithredu gydag ysgolion yr awdurdod cyswllt. Bydd yn meddu ar lefelau o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad fydd yn gallu cynnig atebion cyflym a phendant i broblemau ac yn mynnu safonau uchel ymhob agwedd ar ei g/waith.
Yn ychwanegol, bydd yn gyfrifol am nifer dynodedig o ysgolion.
Disgwylir i’r Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant weithio o fewn cyd-destun gwerthoedd a nodau hir dymor strategol y gwasanaeth, ynghyd â’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Ymgynghorwyr er mwyn:
- sicrhau bod yr Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant cyswllt yn deall ac yn cyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol;
- sicrhau bod pob ysgol arbennig / UCD yn deall ac yn cyflawni ei dyletswyddau;
- cynnig cefnogaeth briodol i ysgolion/UCD er mwyn hyrwyddo gwelliant drwy gasglu, dadansoddi a hysbysu a rhoi tystiolaeth ynghylch data;
- adnabod a chytuno ar strategaethau i gefnogi gwelliant trwy’r ysgol gyfan;
- sicrhau bod gweithredu effeithiol yn digwydd wrth fonitro a herio gwaith rheoli adnoddau ysgolion/UCD er mwyn sicrhau y caiff adnoddau eu cyfeirio i sicrhau y caiff ddisgyblion well canlyniadau;
- darparu cyngor ac argymhellion wrth benodi athrawon, rheoli eu perfformiad, mentora a meysydd eraill mewn datblygiad proffesiynol;
- sicrhau y caiff pob ysgol arweiniad a chefnogaeth effeithiol ar weithgareddau cyn ac ôl-arolygiad;
- sicrhau bod mesurau priodol i alluogi Llywodraethwyr / Pwyllgorau Rheoli i fod â swyddogaeth heriol gref briodol;
- cyfrannu’n uniongyrchol, neu drwy gefnogaeth a gaiff ei chomisiynu fel y bo’n briodol, i ddatrys materion ysgol penodol sy’n gysylltiedig â materion pwnc/cwricwlwm.
- hyrwyddo, cefnogi a datblygu cydweithio i alluogi pob ysgol/UCD i ddatblygu a chynnal eu gallu i wella;
- sicrhau bod yr Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant sy'n gweithio gydag Ysgolion Arbennig ac UCD yn cymryd camau amserol ac effeithiol wrth ddarparu cymorth uniongyrchol neu gymorth wedi'i gomisiynu i ddatrys materion penodol.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau Penodol
Bydd dyletswyddau a chyfrifoldebau penodol yn ymwneud â:
- gosod her a chynnig cefnogaeth broffesiynol i’r Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant sy’n gweithio gyda ysgolion arbennig ac UCD, yn rhinwedd cyfrifoldebau arwain a rheoli llinell;
- sicrhau ansawdd pob agwedd ar waith yr Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant cyswllt [i gynnwys ymweliadau, adroddiadau, broceru];
- sicrhau y caiff ysgolion yr awdurdod cyswllt fynediad i her a chefnogaeth briodol i godi safonau cyrhaeddiad ac i wella ansawdd arweinyddiaeth a’r dysgu a’r addysgu;
- cydweithio ag Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant cyswllt pan fo angen cynnal ymweliadau monitro ffurfiol mewn ysgolion;
- gweithredu fel arweinydd cyswllt sector gyda'r Awdurdod Lleol gan ddarparu gwybodaeth ac arweiniad yn ôl y gofyn;
- rheoli cyllideb flynyddol a monitro’r gwariant;
- yng nghyd-destun y cyfrifoldebau uchod, cyfarfod yn rheolaidd â’r Uwch Arweinydd sector perthnasol i adrodd am gynnydd ac i gytuno ar unrhyw weithredu pellach sydd ei angen;
- arwain yn ranbarthol ar o leiaf un agwedd benodol.
Bydd dyletswyddau a chyfrifoldebau penodol yn ymwneud â chynnig cefnogaeth a gosod her broffesiynol ym meysydd:
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth Ysgol, trwy
- Gefnogi a rhoi arweiniad i ysgol/UCD er mwyn sicrhau y caiff ei gweledigaeth, ei hethos a’i phwrpas moesol eu cyd-rannu gan yr holl staff a rhai sydd â diddordeb yn hyn.
- Cefnogi a gosod her i ysgol/UCD wella’r arfer o hunan-arfarnu effeithiol a chynllunio gwella ysgol.
- Rhoi adborth positif y gellir seilio gwelliannau i’r dyfodol arno.
- Darparu arweiniad ar gyfer Cwricwlwm i Gymru a Thrawsnewid.
- Dysgu ac Addysgu yn y Dosbarth (Addysgeg), trwy
- Roi cefnogaeth a chyngor ar ddulliau dysgu, addysgu a sgiliau, ac ar arfarnu ansawdd y dysgu a’r addysgu.
- Nodi arferion dysgu ac addysgu effeithiol y gellir eu cyd-rannu o fewn, ac ar draws rhwydweithiau.
- Cydlynu Cefnogaeth Gwricwlwm, trwy
- Osod her a chefnogaeth strategol i strategaethau Datblygu Polisi, Dysgu ac Addysgu a datblygu’r cwricwlwm (yn cynnwys o fewn meysydd pwnc penodol).
- Naill ai’n uniongyrchol, neu drwy gyfrwng cefnogaeth wedi ei chomisiynu fel sy’n briodol, cyfrannu tuag at ddatrys materion penodol sy’n ymwneud â materion sy’n gysylltiedig â phwnc/cwricwlwm.
- Cydlynu rhwydweithiau rhanbarthol er mwyn rhoi sylw dyledus i ddatblygu agweddau cwricwlaidd ac arweinyddiaeth.
- Gweithredu fel cyswllt GwE gyda'r consortia rhanbarthol eraill (ERW / CSC / EAS).
- Datblygu Pobl a’r Sefydliad, trwy gychwyn a chefnogi ymchwil gweithredol i arfer effeithiol gan roi cyngor ac arweiniad ynghylch gweithdrefnau ac arfer, arfarnu effeithiolrwydd DPP ac effaith rhwydweithiau ar arfer broffesiynol.
- Cefnogi Datblygiad Agweddau Disgyblion, trwy roi arweiniad ar hyrwyddo ethos gynhwysol a rhoi cymaint o gyfleoedd ag y bo modd i blant a phobl ifanc elwa o gysylltiadau ag asiantaethau eraill.
- Hyrwyddo Atebolrwydd Mewnol, trwy ddarparu canllawiau, cefnogaeth ac arfarnu trwy ddatblygu meini prawf sy’n ysgogi gweithdrefnau ymyrraeth o fewn yr ysgol gyfan, adrannau ac yn y dosbarth.
- Hyrwyddo cydweithio ffurfiol rhwng ysgolion/UCD er mwyn gweithredu arfer dda a rhagorol trwy hyrwyddo’r cysyniad o sefydliad sydd yn dysgu.
- Adnabod arfer dda a rhagorol i’w rhannu ar draws ysgolion/UCD.