Swyddi ar lein
Cydlynydd Cyfathrebu
£23,517 - £25,456 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 21-22138
- Teitl swydd:
- Cydlynydd Cyfathrebu
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Rheoli Rhwydwaith
- Dyddiad cau:
- 31/03/2022 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 42 Awr
- Cyflog:
- £23,517 - £25,456 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- GS4
- Lleoliad(au):
- Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru (CRhTGC/NWTMC), Conwy
Manylion
Hysbyseb Swydd
Gwasanaeth Traffig Cymru – Cydlynydd Cyfathrebu
Traffic Wales Service - Communications Co-ordinator
CYFLOG/ SALARY: GS4 (7-11) £23,517.61 – £25,456.39
42hrs per week annualised (Pro Rata) 12hrs shifts, 4 days-on-4-off, (365 days a year).
42 awr yr wythnos yn flynyddol (Pro Rata) sifftiau 12 awr, 4 diwrnod-ar-4-i ffwrdd, (365 diwrnod y flwyddyn).
LLEOLIAD / LOCATION : Conwy
Ynglŷn â Thraffig Cymru
Traffig Cymru yw gwasanaeth gwybodaeth traffig Llywodraeth Cymru, y gofynnwyd i'r Asiant ei ddarparu ledled Cymru.
Rydym yn chwilio am ddau Gydlynydd Cyfathrebu brwdfrydig iawn i ddarparu gwybodaeth draffig cyfredol a chynnwys arloesol a ddiddorol i'r cyhoedd sy'n teithio trwy ein llinell ffôn, ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.
Beth yw gofynion y rôl?
Yn y rôl hon, byddwch yn y pwynt cyswllt cyntaf i’r gwasanaeth mewn Cymraeg a Saesneg trwy ddarparu gwybodaeth gyflym a chywir i’r cyhoedd, a rhanddeiliaid allweddol am y gweithrediadau o ddydd i ddydd ar y rhwydwaith a phrosiectau cynnal a chadw
Mae cyfrifoldebau’r rôl yn cynnwys ond ddim wedi eu cyfyngu i:-
- Ateb ac ymateb i ymholiadau a chwynion gan y cyhoedd a budd-ddeiliaid eraill mewn modd proffesiynol i ddarparu ystod eang o ymatebion gan gynnwys: statws rhwydwaith, cyngor ar waith ffordd, cyngor ar lwybrau a gwybodaeth am gyrchfannau
- Rhannu gwybodaeth ddwyieithog gyda’r cyhoedd sy’n teithio trwy ddefnyddio gwefan Traffig Cymru a thrwy Twitter
- Cynllunio a chreu cynnwys cyfryngau cymdeithasol deniadol i hyrwyddo gwasanaeth Traffig Cymru
- Casglu gwybodaeth sy’n ymwneud â thraffig a’r rhwydwaith o amryw o ffynonellau gan gynnwys darparwyr gwasanaeth, Staff Gweithredol a Gwaith Stryd ACGCC, Llywodraeth Cymru a sefydliadau sector preifat, e.e. Google, TomTom a Roadworks.org
- Cydlynu gyda'r Awdurdodau Heddlu perthnasol, gweithredwyr ystafell reoli a staff rheoli'r rhwydwaith yng Ngogledd a De Cymru
- Monitro cyfryngau gan gynnwys y wasg, we a llwyfannau cymdeithasol
- Darparu cymorth gweinyddol i wasanaethau Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC.)
Beth fydd rhaid i mi ei ystyried ar gyfer rôl y Cydlynydd Cyfathrebu?
Rydym yn chwilio am unigolyn hyderus, creadigol sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n gallu defnyddio cyfryngau cymdeithasol ac offer ar-lein yn hyderus i ddarparu'r gwasanaeth yn effeithiol.
Mae profiad cyfathrebu a'r gallu i weithio ar eich menter eich hun, i derfynau amser tynn yn hanfodol. Mae natur ein gwaith yn golygu bod yn rhaid i chi allu gweithio'n ymatebol yn ystod digwyddiadau mawr, gan gynnal lefel uchel o gyfrinachedd a disgresiwn.
Disgwyli'r ymgeisydd i weithio sifftiau 12 awr ar sail 4 diwrnod i ffwrdd, i ddarparu gwasanaeth rhwng 7:00 am a 7:00 pm. Disgwylir hefyd i ymgeiswyr weithio dros nos ar sail rota ar ddyletswydd.
Ar gyfer y swydd hon, rhaid i chi allu dangos sgiliau Iaith Uwch GSRh, sy'n golygu eich bod chi'n gallu sgwrsio'n rhugl ac ysgrifennu cyfathrebiadau ffurfiol yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ddarganfod rhagor trwy ymweld â Fframwaith Ieithyddol Cyngor Gwynedd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Llinos Evans 07773219449.
Dyddiad Cau 31/03/22
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Sgiliau cyfathrebu da yn Gymraeg a Saesneg
Arddangos mentergarwch personol arwyddocaol a'r gallu i ymdrin â phobl ar bob lefel yn gwrtais, sensitif a phroffesiynol
Gallu i flaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun. Gallu i reoli a blaenoriaethu gwaith a thasgau
Gallu i weithio o dan bwysau a gallu ymdrin â dyddiadau cau llym.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Pump TGAU o leiaf, yn cynnwys Saesneg a Chymraeg.
Dymunol
ECDL
Cymhwyster mewn cyfathrebu neu ofal cwsmer
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad mewn swydd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer
Profiad mewn gweithredoedd gweinyddu swyddfa mewn amgylchedd swyddfa brysur
Dymunol
Ymdrin ag ymholiadau'r cyhoedd, aelodau etholedig a Llywodraeth Cymru yn effeithiol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Cyfarwydd gyda phecynnau cyfrifiadurol e.e. Windows, Excel, ac ati.
Y gallu i gyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg
Dymunol
Cyfarwydd gyda gweithdrefnau perthnasol llywodraeth leol a/neu ganolog
Cyfarwydd gyda Deddf Rhyddid Gwybodaeth ac Amddiffyn Data
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Cynorthwyo gyda darpariaeth dydd-i-ddydd Gwasanaeth Cyfathrebu Traffig Cymru Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â'r Cyhoedd, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.
•Darparu cymorth gweinyddol i wasanaethau ACGChC a Llywodraeth Cymru pan fo llwythi gwaith yn caniatâu.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Diogelwch adeilad rhwng 7.00am a 7.00pm
•Rheoli OGP (Offer Gwarchod Personol) a ddarparwyd i staff CRhTGC (Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru).
Prif ddyletswyddau
Swyddogaeth Traffig Cymru
Traffig Cymru yw gwasanaeth gwybodaeth traffig Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â'r cyhoedd y gofynnwyd i'r Asiant ei ddarparu ledled Cymru. Traffig Cymru yw'r cyswllt rhwng y cyhoedd a Chanolfannau Rheoli Traffig Llywodraeth Cymru yng Nghonwy (Gogledd Cymru) a Choryton (De Cymru). Mae LlC yn ymgeisio i wella'r gwasanaeth trwy ehangu'r dulliau o gyflwyno gwybodaeth er mwyn cael effaith arwyddocaol o gadarnhaol ar reoli'r rhwydwaith ffyrdd yn effeithiol.
Mae cyfrifoldebau'r swyddogaeth yn cynnwys:
•Bod y cyswllt cyntaf ar gyfer y Gwasanaeth yn Gymraeg a Saesneg
•Ateb ac ymateb i ymholiadau a chwynion gan y cyhoedd a budd-ddeiliaid eraill y gwasanaeth mewn modd proffesiynol, yn ogystal â thrwy e-bost, er mwyn darparu amrywiaeth eang o ymatebion, gan gynnwys: statws y rhwydwaith, cyngor ar waith ffordd, cyngor ar lwybrau a gwybodaeth am gyrchnodau
•Ymateb i bob e-bost a dderbynnir
•Darparu swyddogaethau cyfryngau cymdeithasol yn unol â phrosesau cytunedig gan gynnwys:
Rhannu gwybodaeth ddwyieithog gyda’r cyhoedd sy’n teithio trwy ddefnyddio gwefan Traffig Cymru a thrwy Twitter, gan gynnwys delweddau, gwybodaeth am ddigwyddiadau, gwaith a gynlluniwyd a digwyddiadau mawr yn ogystal â gweithgareddau'r Asiantau.
Casglu gwybodaeth sy’n ymwneud â thraffig a’r rhwydwaith o amryw o ffynonellau gan gynnwys darparwyr gwasanaeth, Staff Gweithredol a Gwaith Stryd ACGCC, Llywodraeth Cymru a sefydliadau sector preifat, e.e. Google, TomTom a Roadworks.org
Cynorthwyo gyda rhoi gwybodaeth ar wefan a system Traffig Cymru.
•Cydlynu gyda'r Awdurdodau Heddlu perthnasol, gweithredwyr ystafell reoli a staff rheoli'r rhwydwaith yng Ngogledd a De Cymru
•Cofnodi pob ymholiad ac ymateb yng nghronfa ddata Rheoli Ymholiadau'r Cyhoedd Llywodraeth Cymru
Swyddogaeth Ymateb i Ddigwyddiad
•Cwblhau gwyriadau dyddiol ar wahanol lwyfannau i sicrhau na rhagwelir unrhyw broblemau.
•Monitro cyfryngau gan gynnwys y wasg, we a lwyfannau chymdeithasol
•Cynorthwyo i sicrhau diogelwch yr adeiladu gan gynnwys cyfarch ymwelwyr, cardiau diogelwch, anwytho staff ar gyfer y safle a gwiriadau adeilad.
•Unrhyw dasg arall sy'n gymesur â'r rôl a neilltuwyd gan y Swyddog Cyfathrebu neu'r Tīm Rheoli Asiant.
Rôl ymateb i argyfwng
•Gweithredu fel cofnodwr (os bydd angen) yn ystod digwyddiadau pwysig gan gofnodi gweithredoedd allweddol a wnaed yn unol â gweithdrefnau ymateb i argyfwng yr Asiant.
Cydymffurfiaeth Statudol
•Cynorthwyo'r Asiant i gydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data, y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a gofynion deddfwriaethol eraill sy'n gysylltiedig â gweinyddu.
Swyddogaeth Weinyddol
•Cefnogi y Swyddog Cyfathrebu mewn cynorthwyo a datblygu gwiethdrefnau, casglu gwybodaeth ystadegol a dyletswyddau gweinyddol i gefnogi y Gwasanaeth Traffig Cymru.
•Darparu cefnogaeth weinyddol i gyfarfodydd gan gynnwys sefydlu yr ystafelloedd cyfarfodydd a chymryd cofnodion
•Cydlynu archebu ystafelloedd cyfarfodydd, llogi cerbydau.
•Cymorth gweinyddol i weddill staff yr ACGChC pan yn caniatau.
GOFYNION ERAILL
Darparu cyflenwad dros dro o Gydlynwyr Cyfathrebu Gwasanaeth Traffig Cymru yn ystod cyfnodau o absenoldeb neu yn ystod digwyddiadau a digwyddiadau annisgwyl pwysig. Bydd hyn yn gofyn am weithio y tu hwnt i oriau craidd gan gynnwys ar benwythnosau yn achlysurol.
Wrth gyflawni’r dyletswyddau uchod, cysylltu, fel y bo’n briodol, â swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a budd-ddeiliaid eraill.
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
Cydweithio gydag a chysylltu â staff o Gyfadran yr Amgylchedd, o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac o Awdurdodau Partner er mwyn sicrhau fod yr Asiantaeth a’r Gyfadran yn cael eu rheoli'n effeithiol.
Cynorthwyo aelodau staff eraill yr Asiant i gyflawni eu dyletswyddau technegol, ariannol a gweinyddol.
Canfod a chadw'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â:
•safonau, datblygiadau technegol a chyfrifiaduron
•arfer gorau cyfredol o ran materion gweinyddu
Dyletswyddau rheoli, gweinyddol, technegol a phroffesiynol eraill sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
Amgylchiadau arbennig
•Mae gofyn bod yn hyblyg gan weithio oriau ychwanegol yn sgil salwch staff, gwyliau staff er mwyn sicrhau cyflenwad i wasanaeth Traffig Cymru rhwng 7am a 7pm. (Telir goramser am hyn). Bydd y rôl yn gofyn i'r ymgeisydd weithio shifftiau 12 awr ar sail 4 diwrnod ymlaen a 4 diwrnod i ffwrdd er mwyn sicrhau cyflenwad i wasanaeth Traffig Cymru rhwng 7am a 7pm. Dyma fydd yn digwydd mewn wythnos arferol, ond gyda hyblygrwydd pan fydd gwyliau blynyddol ac absenoldeb salwch.
•Gofyn gweithio oriau ychwanegol yn ystod digwyddiadau nag rhagwelwyd e.e. tywydd garw neu ddigwyddiadau traffig ar y ffordd.
•Gofyn gweithio ambell shifft penwythnos pan fydd digwyddiadau pwysig wedi'u rhaglennu neu eu rhagweld e.e. digwyddiadau chwaraeon pwysig, cyngherddau pop ac ati, a bydd goramser yn daladwy.
•Cydlynu gyda'r Swyddog Cyfathrebu/Rheolwr Cyfathrebu a Datblygiad Staff parthed gwyliau/salwch er mwyn sicrhau bod lefel cyflenwad y staff gweinyddol y swyddfa'n cael ei gynnal.