Swyddi ar lein
Gweithiwr Cymdeithasol (Tim Dyletswydd Argyfwng Gwynedd a Mon)
Gweler Hysbyseb Swydd | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 21-22084-H6
- Teitl swydd:
- Gweithiwr Cymdeithasol (Tim Dyletswydd Argyfwng Gwynedd a Mon)
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Diogelu ac Ansawdd
- Dyddiad cau:
- 24/03/2022 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- Gweler Hysbyseb Swydd
- Gradd tâl:
- PS4
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Cyngor Gwynedd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Gweithiwr Cymdeithasol PS1 (£32,910 - £34,728) (ynghyd â 16.12% o oriau anghymdeithasol a lwfans ar alwad)
Gweithwyr Cymdeithasol (AMHP) PS4 (£38,890- £40,876) (ynghyd â 16.12% o oriau anghymdeithasol a lwfans ar alwad)
Mae hon yn swydd tu allan i oriau gwaith arferol ar rota tu allan i oriau. Bydd angen i ddeilydd y swydd fod yn Weithiwr Cymdeithasol Cofrestredig a hefyd yn Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP). Os nad yn AMHP nawr yn fodlon gweithredu fel un a dilyn y cwrs hyfforddi lefel meistr fel hanfod y cytundeb gwaith. Rhaid felly fod a'r gallu i gymhwyso i lefel meistr o ran cymhwyster academaidd.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Jane Pearson ar 07909995418
Dyddiad cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 24/03/2022
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Cyngor Gwynedd
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu I weithio’n annibynol as fel aelod o dîm bychan a creu perthynas gweithio da.
Gallu I gyfathrebu yn effeithiol.
Gallu I weithio’n hyblyg.
Agwedd o beidio barnu a ymagweddiad ofalgar.
Diddordeb Proffesiynol mewn materion yn perthnasu i bob grwp cleient
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gweithiwr Cymdeithasol Cofrestredig (GCC)
Cymhwyster mewn Gwaith Cymdeithasol CQSW/DipSw.
Yn Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP), yn dilyn cwrs cymhwyso AMHP neu’n alluog i ddilyn cwrs cymhwyso AMHP (lefel Meistr)
Wedi cymwyso ers dros dwy flynedd fel weithiwr cymdeithasol cymwysedig mewn awdurdod lleol.
Yr awydd I ddilyn hyfforddiant trylwyr oddi allan I’r prif ddisgyblaeth.
Gwybodaeth trylwyr o Ganllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan a Diogelu Oedolion
Trwydded gyrru llawn.
DYMUNOL
Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymeradwy
Tystysgrif PQ mewn gofalu am blant.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad helaeth o weithio gyda plant ac oedolion.
Profiad o weithio mewn amgylchiadau argyfwng.
Profiad a medru defnyddio IT
Profiad o weithio’n annibynol ac fel aelod o dîm.
DYMUNOL
Profiad o weithio yn y ddull generig.
Profiad o waith blaenorol yn y gwasanaeth allan o oriau gwaith.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu I ddadansoddi a dehongli gwybodaeth sydd wedi ei dderbyn.
Gallu I adnabod ymyrraeth addas sydd yn seiledig ar anghenion.
Gallu I Asesu risg a creu cynllun addas.
Gwybodaeth o ddeddfwriaeth ynglyn a phlant, teuluoedd ac oedolion, ee Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, Deddf Plant 1989, Deddf Iechyd Meddwl 1983, NHS and Community Care Act 1990 ayb.
Gwybodaeth am diogelu plant, datblygiad plentyn a plant mewn gofal.
Dealltwriaeth trylwyr o anghenion ymarfer yn Cod Ymarfer y Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 a’r fframweithiau ymarfer megis Fframwaith Asesu a materion plant mewn gofal.
Gwybodaeth am Iechyd Meddwl.
Sgiliau llefaru a cyfathrebu’n ysgrifenedig.
Sgiliau cyd-drafod gyda cydweithiwr a asiantaethau allanol.
Gallu I weithio’n annibynnol a bôd yn hunan cymhelliant.
Sgiliau mewn asesu a ymyrryd mewn argyfwng.
Gallu I gofnodi’n fanwl gywir ac ysgrifennu llythyrau a cofnodi mewn dull addas.
Sgiliau eiriolaeth.
Ymwybodaeth a phwysigrwydd materion diwydianol ac ymglymiad defnyddwyr.
Sgiliau asesu a cyfathrebu.
Gallu I flaenoriaethu yn effeithiol o dan bwysa.
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Cyngor Gwynedd
Lleoliad: Uned Hergest, Yabyty Gwynedd, Bangor
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod plant ac oedolion bregus yn cael ei ddiogelu.
• Darparu gwasanaeth argyfwng gwasanaethau gofal tu allan i oriau
gwaith ymarferol.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer:
. Offer Gwaith: Ffon symudol, Gliniadur ayb
Prif Ddyletswyddau
•I weithredu fel Gweithiwr Cymdeithasol (RSW) a Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) yn y Tîm Tu Allan i Oriau.
•Yn gymwys i weithredu fel Gweithiwr Cymdeithasol Cofrestredig (RSW) ac fel Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) (neu’n gymwys ac yn ymgymryd â hyfforddiant Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy), gan gynnal eich statws proffesiynol trwy hyfforddiant ôl gymhwyso a goruchwyliaeth reolaidd.
•Yn gymwys trwy hyfforddiant i wneud gwaith diogelu, gan gynnwys gallu i ymchwilio ar y cyd i gamdriniaeth o blant.
•Yn cydymffurfio â’r Côd Ymarfer Proffesiynol GofalCymdeithasol a’r Canllaw Ymarfer ar Gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Cofrestredig.
•Yn gweithredu yn gyfreithiol a diogel a darparu gwasanaeth argyfwng gofal ar gyfer Cyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn (Y Bartneriaeth).
•Yn darparu mynediad uniongyrchol i wasanaeth Gwaith Cymdeithasol mewn argyfwng.
•Yn darparu gwasanaeth i unigolion, teuluoedd a’r gymuned o fewn fframwaith cyfreithiol a’r canllawiau ymarfer perthnasol i wasanaethau i blant ac oedolion ac yn unol â threfniadau gweithredu’r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau.
•Yn ymchwilio, asesu a gweithredu i gefnogi unigolion tu allan i oriau gwaith arferol, gan gynnwys gweithrediadau statudol i ddiogelu oedolion bregus a phlant mewn perygl o niwed.
•Yn cynnig cyngor priodol i’r cyhoedd, asiantaethau neu staff awdurdod lleol.
•Yn cyd-weithio gyda gweithwyr proffesiynol perthnasol yn y sector statudol a gwirfoddol er mwyn cyflawni’r rôl yn effeithiol.
•Yn cynnig cyngor ac ymgynghori gyda cydweithwyr mewn timau ardal, tu allan i oriau gwaith arferol lle bo hynny yn addas.
•Yn cofnodi gweithrediadau ymyrraeth o fewn systemau a threfn arferol y Tim Tu Allan i Oriau.
•Yn darparu adroddiad/ adborth ar gyfer pob cais am wasanaeth a dderbynnir, er enghraifft i weithwyr perthnasol o fewn yr ardaloedd, Awdurdodau eraill neu asiantaethau perthnasol eraill. Gwneir hyn trwy’r trefniadau cofnodi a’r ddogfennaeth gydnabyddedig o fewn y Tim tu Allan i Oriau.
•Yn cydymffurfio a’r patrwm gwaith a osodir gan y rheolwr tîm yn unol â fframwaith a safonau’r gwasanaeth.
•Yn gweithredu yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau ymarferperthnasol, er enghraifft Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’i godau ymarfer.
•Yn gweithredu’n unol a’r trefniadau ar gyfer defnydd priodol adnoddau’r gwasanaeth a’r Bartneriaeth.
•Yn mynychu cyrsiau hyfforddi, sesiynau goruchwyliaeth a chyfarfodydd perthnasol yn ôl yr angen.
•Yn hysbysu’r Rheolwr Tîm am achosion a sefyllfaoedd sy’n codi cwestiynau polisi allweddol neu’n achosi problemau difrifol i’r adran (neu’r Partneriaid) fel y gellir cael arweiniad rheolaeth, neu ddatblygu polisïau.
•Yn hysbysu’r Rheolwr Tim, yn unol â’r Cod Ymarfer o sefyllfaoedd sydd angen hysbysiad rheolwr. Er enghraifft digwyddiadau o berygl, o berygl personol, digwyddiadau anodd sydd angen eu trafod, anawsterau eraill sydd yn amharu ar eich lles neu eich effeithiolrwydd.
•Yn gyfrifol am hunan ddatblygiad drwy ymgymryd â dysgu a datblygu perthnasol i gynnal a gwella eich gwybodaeth a’ch sgiliau i sicrhau eich bod yn addas i ymarfer.
•Yn cydymffurfio â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Yn cymryd gofal rhesymol am iechyd a diogelwch eich hunain a phobol eraill fydd efallai yn cael eu heffeithio gan eich gweithrediadau gan gydymffurfio gyda phob deddfwriaeth iechyd a diogelwch sydd yn briodol. Mae hyn yn cynnwys hysbysu eich cyflogwr neu’r awdurdod priodol ynghylch ac unrhyw anawsterau personol a allent effeithio ar eich gallu i wneud eich gwaith yn gymwys ac yn ddiogel.
•I gyfrannu at waith y Rheolwr Tîm wrth iddynt arfarnu ac adolygu safonau’r tîm, datblygu’r gwasanaeth a gwaith cyffredinol i ddarparu gwasanaeth effeithiol.
•I ddarparu ystadegau gwaith yn gyson i’r Rheolwr Tîm, ac unrhyw wybodaeth arall angenrheidiol yn ôl y gofyn.
•I gynrychioli'r Tîm mewn cyfarfodydd fel y gofynnir gan Reolwr Tîm, Uwch Rheolwyr neu’r Partneriaid.
•I fynychu cyfarfodydd tîm gan baratoi a chyfrannu yn ôl y gofyn.
•I fod yn atebol, drwy oruchwyliaeth a’r llinell rheoli, am eich ymarfer fel aelod o’r Tîm Tu Allan o Oriau.
•Yn gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Yn cynnig cyfarwyddyd ac arweiniad proffesiynol ar waith cymdeithasol i weithwyr sydd newydd gymhwyso neu weithwyr llai cymwysedig.
•Yn parchu preifatrwydd unigolion, cynnal cyfrinachedd lle mae’r gofyn ac yn addas. Adnabod pa bryd mae hi’n addas ac yn gyfreithlon i ddatgelu gwybodaeth berthnasol i ddefnyddwyr gwasanaeth a gwneud datganiadau angenrheidiol oddi mewn i fframwaith polisïau a’r gyfraith.
•Yn gyfrifol am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor, gan sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Yn cymryd rhan yn rhaglen hyfforddi sgiliau’r Cyngor ac yn cynnal eich datblygiad proffesiynol a personol.
•Dyma restr enghreifftiol o’r dyletswyddau. Gall disgwyliadau’r swydd ddatblygu a bydd y trefniadau goruchwylio ac adolygu perfformiad yn y gwaith yn cyfarch hyn.
•Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldebau'r swydd ar gais y Rheolwr Tim, Uwch Reolwr neu Bennaeth y Gwasanaeth.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Angen i weithio oriau anghymdeithasol
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.