Cymorth cyfrif

Cyfrif personol / busnes
  • Ydi cyfrif ar wefan Cyngor Gwynedd yn mynd i fod yn ddiogel?
    Ydi. Wrth i chi greu eich cyfrif, pan fyddwch yn mewngofnodi a phan fyddwch yn anfon ffurflen yn gwneud cais am wasanaeth fe wnewch chi sylwi bod llun clo yn ymddangos a’r cyfeiriad yn y bar cyfeiriad yn newid i www.diogel.gwynedd.llyw.cymru Mae hyn yn golygu bod unrhyw wybodaeth rydych yn ei anfon i ni yn cael ei diogelu gan amgryptiad 128 did. Rydym yn defnyddio technoleg Haen Soced Ddiogel (SSL), sef system safonol a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o'r porwyr ar y rhyngrwyd. Caiff eich manylion eu cadw ar weinyddwr y tu ôl i fur cadarn (firewall). Dim ond staff awdurdodedig sy'n cael gweld yr wybodaeth.
  • Beth yw'r gwahaniaeth rhwng cyfrif personol a chyfrif busnes?
    Mae cyfrif busnes yn gweithio yn yr un ffordd â chyfrif personol, h.y. gallwch gyflwyno ceisiadau a thracio beth sy’n digwydd i’r cais (mewn rhai gwasanaethau) gan ddefnyddio cyfrif personol neu gyfrif busnes. Fe fydd rhai gwasanaethau ar gael ar gyfer cwsmeriaid busnes yn unig, e.e. cais am drwydded sgip, a rhai ar gyfer cwsmeriaid personol yn unig, e.e. cais am offer ailgylchu.
  • Oes rhaid i mi gael cyfrif personol er mwyn cael cyfrif busnes?
    Nac oes. Gallwch greu cyfrif busnes heb fod â chyfrif personol.
  • Rydw i angen cyfrif personol a chyfrif busnes. Oes rhaid i mi gael e-bost gwahanol ar gyfer y ddau?
    Nac oes. Mae ganddoch chi 2 opsiwn os ydych chi angen cyfrif personol a chyfrif busnes efo Cyngor Gwynedd: Opsiwn 1 – cyfrifon annibynnol Creu cyfrif personol efo un cyfeiriad e-bost a chreu cyfrif busnes efo cyfeiriad e-bost gwahanol. Wrth ddewis yr opsiwn hwn bydd angen i chi fewngofnodi i’r cyfrif perthnasol i gyflwyno a thracio ceisiadau am wasanaeth. Opsiwn 2 – cyfrifon wedi’u cysylltu Creu cyfrif personol efo un cyfeiriad e-bost. Wedyn, creu cyfrif busnes gan ddefnyddio yr un cyfeiriad e-bost, gan ddewis yr opsiwn “Cysylltu y busnes efo cyfrif sy’n bodoli yn barod” wrth ei greu. Wrth ddewis yr opsiwn hwn byddwch yn gallu gweld a defnyddio y ddau gyfrif drwy fewngofnodi un waith.
  • Alla i gysylltu mwy nag un busnes efo cyfrif personol neu gyfrif busnes?
    Gallwch. I ychwanegu busnes arall ewch i’r sgrin mewngofnodi busnes a chlicio ar "Creu Cyfrif Busnes". Nodwch enw a chyfeiriad y busnes newydd, ac yna dewis yr opsiwn "Cysylltu y cyfrif busnes efo cyfrif sydd gen i yn barod". Rhowch y manylion mewngofnodi i’r cyfrif sydd gennych yn barod. Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau bod y cyfrifon wedi eu cysylltu.
  • Sut mae gweld manylion y gwahanol gyfrifon os ydw i wedi cysylltu mwy nag un cyfrif?
    Ar ôl mewngofnodi, cliciwch ar "Gweld cyfrif arall" (botwm gwyrdd ar dop y sgrin), a dewis pa gyfrif rydych am ei weld.
  • All mwy nag un person gael mynediad i gyfrif busnes?
    Dim ar hyn o bryd. Yr unig ffordd o fewngofnodi i gyfrif busnes yw defnyddio’r cyfeiriad e-bost a chyfrinair a roddwyd wrth greu’r cyfrif.
  • Fedra i ddim dod o hyd i fy nghyfeiriad wrth ddefnyddio fy nghôd post
    Os ydych yn byw yng Ngwynedd, dylai eich côd post eich galluogi i ddod o hyd i'ch cyfeiriad. Os nad ydi hyn yn gweithio, cliciwch ar y botwm Ychwanegu cyfeiriad er mwyn i chi fedru teipio'r cyfeiriad eich hun. Os nad ydych yn byw yng Ngwynedd, ni fyddwn yn adnabod eich côd post ac felly bydd angen i chi deipio'r cyfeiriad eich hun yn y blychau fydd yn ymddangos ar y dudalen.
  • Tydw i ddim wedi cael e-bost yn cadarnhau fy mod wedi creu cyfrif
    Os nad ydych yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich bod wedi creu cyfrif e-bostiwch fynghyfrif@gwynedd.llyw.cymru.
  • Dwi'n ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf ar ôl creu cyfrif ond tydi o ddim yn gweithio
    Er mwyn i'ch cyfrif weithio mae'n rhaid i chi ddilyn y cyswllt yn yr e-bost y byddwch yn ei dderbyn ac yna mewngofnodi i'ch cyfrif.
  • Dwi wedi anghofio fy nghyfrinair
    Ar y dudalen mewngofnodi, cliciwch ar y cyswllt Wedi anghofio eich cyfrinair?, llenwch y manylion a byddwn yn anfon e-bost i chi gyda chyfrinair newydd. Gallwch newid y cyfrinair hwnnw i rywbeth o'ch dewis chi ar ôl i chi fewngofnodi.
  • Sut dwi'n newid fy nghyfrinair?
    Ar ôl mewngofnodi, gallwch newid eich cyfrinair drwy fynd i Fy Nghyfrif > Manylion Cyfrif ac yna clicio Newid cyfrinair.
  • Sut dwi'n newid fy nghyfeiriad e-bost?
    Os ydych yn dal i gofio eich hen gyfeiriad e-bost gallwch fewngofnodi a’i newid drwy fynd i Fy Nghyfrif > Manylion Cyfrif ac yna clicio Newid cyfeiriad e-bost. Os nad ydych yn cofio eich hen gyfeiriad e-bost cysylltwch â ni: fynghyfrif@gwynedd.llyw.cymru.
  • Sut dwi'n newid fy manylion personol fel cyfenw neu rif ffôn?
    Ar ôl mewngofnodi, ewch i Fy Nghyfrif > Manylion Cyfrif > Manylion personol a dewisiadau
  • Sut dwi'n newid fy nghyfeiriad?
    Ar ôl mewngofnodi, ewch i Fy Nghyfrif > Manylion Cyfrif > Cyfeiriadau Os ydych yn debygol o fod yn cysylltu efo ni ynghylch mwy nag un cyfeiriad, e.e. rydych yn berchen ar ddau dŷ, gallwch ychwanegu mwy nag un cyfeiriad. Pan fyddwch yn gwneud cais am wasanaeth byddwn yn gofyn i chi ddewis pa gyfeiriad rydych yn cysylltu yn ei gylch.
  • Sut dwi'n newid fy nghwestiwn diogelwch?
    Ar ôl mewngofnodi, ewch i Fy Nghyfrif > Manylion Cyfrif > Cwestiwn diogelwch Mae'n bwysig eich bod yn gallu cofio'r ateb i'ch cwestiwn diogelwch. Os ydych yn ein ffonio ynghylch eich cyfrif byddwn yn gofyn y cwestiwn diogelwch i chi er mwyn sicrhau ein bod yn trafod y cyfrif gyda’r person cywir.
  • Dwi eisiau gwybod am wasanaethau ar-lein newydd / newidiadau i wasanaethau’r Cyngor. Sut ydw i’n cael gwybod?
    Ar ôl mewngofnodi, ewch i Fy Nghyfrif > Manylion Cyfrif > Manylion personol a dewisiadau a dewis yr opsiynau perthnasol. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth tecstio. Dilynwch y cyfarwyddiadau i dderbyn neges tecst yn ogystal ag e-bost.
  • Dwi ddim eisiau derbyn e-byst swyddi, sut dwi’n eu stopio?
    Ar ôl mewngofnodi, ewch i Fy Nghyfrif > Manylion Cyfrif > Manylion personol a dewisiadau yna tynnu’r tic o’r blwch Swyddi Gwag
  • Sut dwi'n allgofnodi?
    Cliciwch ar y cyswllt Allgofnodi yn y gornel top ar y dde. Os ydych yn rhannu cyfrifiadur gyda rhywun arall neu’n defnyddio cyfrifiadur mewn lle cyhoeddus fel llyfrgell, mae’n bwysig eich bod yn cofio allgofnodi ar ôl gorffen er mwyn atal pobl eraill rhag defnyddio eich cyfrif.
Gwneud cais am wasanaeth ar-lein
  • Fedra i ddim dod o hyd i'r gwasanaeth dwi'n chwilio amdano
    I chwilio am yr holl wasanaethau ar-lein sydd ar gael ar hyn o bryd ewch i Fy Nghyfrif > Gwneud Ceisiadau a chlicio ar yr adran berthnasol, bydd hyn yn datgelu rhestr o’r ceisiadau sydd ar gael ar-lein o fewn yr adran yma. Rydym yn gweithio tuag at roi gymaint o wasanaethau ar-lein â phosib a byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd yn gyson. Os ydych eisiau gwybod am wasanaethau newydd ar-lein cofiwch ddewis yr opsiwn i dderbyn e-bost a neges tecst yn rhoi gwybod am wasanaethau newydd drwy fynd i Fy Nghyfrif > Manylion Cyfrif > Manylion personol a dewisiadau
  • Rydw i wedi dechrau llenwi ffurflen ac wedi ei chadw er mwyn gorffen ei llenwi rhywbryd eto ond fedra i ddim dod o hyd iddi
    Dim ond rhai ffurflenni (sy’n arddangos botwm ‘Cadw’ ar y ffurflen) sy’n cynnig yr opsiwn hwn. Er mwyn gweld ffurflenni sydd ar eu hanner ond heb eu cyflwyno a cheisiadau am wasanaeth rydych wedi eu cyflwyno ewch i Fy Nghyfrif > Fy ngheisiadau Os ydych yn cael unrhyw drafferth gyda’ch ceisiadau ffoniwch ganolfan gyswllt Galw Gwynedd ar 01766 771000 neu e-bostiwch fynghyfrif@gwynedd.llyw.cymru.
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn yma, e-bostiwch fynghyfrif@gwynedd.llyw.cymru