Pwrpas y Swydd:
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•I gyfrannu fel aelod o dim o fewn yr Uned Buddsoddi a Rheolaeth Trysorlys.
•Dirprwyo dros y Rheolwr Buddsoddi.
•I fod yn ymrwymiedig i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol, a chyfrannu at alluogi’r gwasanaeth i gyflawni ei nod ac amcanion.
Cyfrifoldeb am Adnoddau:
•Cyfrifol am reoli ac awdurdodi symiau sylweddol o arian a sicrhau bod incwm buddsoddi yn cael ei uchafu trwy fuddsoddi yn unol â Datganiad Strategaeth Trysorlys y Cyngor a sicrhau bod yr arian ar gael er mwyn gwneud taliadau yn ol yr angen.
•Buddsoddi ac adalw symiau dyddiol dros £1 miliwn a gellir delio gyda miliynau o bunnoedd ar unrhyw ddiwrnod.
•Risg o golledion sylweddol os gwneir unrhyw gamgymeriadau.
•Cyfrifoldeb cyffredinol am yr offer a ddefnyddir o fewn maes y swydd.
Prif Ddyletswyddau:
Rheolaeth Trysorlys
•Paratoi ragolygon llif arian er mwyn sicrhau bod digon o arian ar gael er mwyn cwrdd â’r anghenion a buddsoddi arian dros ben gan gynnwys cynnal y rhestrau gwrthbartion awdurdodedig.
•Ymgymryd â dyletswyddau llif arian dyddiol.
•Sicrhau bod cyfr digodol o fewn yr Adran Gyllid ar gael er mwyn cwblhau dyletswyddau’r llif arian.
•Sicrhau bod buddsoddiadau wedi cael ei cyfrifo, gweinyddu a chofnodi yn gywir
•Cysoni cofnodion buddsoddiadau.
•Rheolaeth o’r benthyciadau tymor hir, ad-daliadau prifswm a llog, a chadw’r gofrestr benthyciadau
•Rheolaeth dros incwm a dderbynnir o fuddsoddiadau a balansau arian gan gynnwys rhagolygon, cyllidebau, dangosyddion ariannol, adolygiadau ariannol a chyfrifeg yn ystod ac ar ddiwedd y flwyddyn.
•Paratoi cyfrifon terfynol a phapurau gwaith, dychweliadau, meincnodi, gwybodaeth ystadegol ar gyfer y maes rheolaeth trysorlys ac offerynnau ariannol.
•Cynorthwyo gyda’r gwaith paratoi cyllidebau a monitro perfformiad yn erbyn targedau, ynghyd â chau’r cyfrifon.
Y Gronfa Bensiwn
•Diprwyo dros y Rheolwr Buddsoddi lle’n briodol
•Cynnal perfformiad y Gronfa Bensiwn ar y ledger a sicrhau bod y wybodaeth berthnasol yn cael ei ddarparu o’r adroddiadau chwarterol.
•Cysoni cyfraniadau a dderbynnir yn y Gronfa Bensiwn yn fisol a delio gyda’r cyflogwyr ynglyn ag unrhyw faterion sydd yn codi
•Delio a chyfrifo am faterion treth yn y Gronfa Bensiwn gan gynnwys sicrhau bod ceisiadau ad-dalu treth yn cael eu danfon i HMRC.
•Cwblhau’r cysoniad banc misol ar gyfer y cyfrifon banc y Gronfa Bensiwn.
•Cynorthwyo gyda’r gwaith cau Cyfrifon y Gronfa Bensiwn a paratoi’r Adroddiad Blynyddol.
•Darparu gwybodaeth ar gyfer dychweliadau CIPFA, ONS ac unrhyw wybodaeth berthnasol a dderbynnir.
•Darparu gwybodaeth i ateb ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth fel maent yn codi.
•Rheoli’r broses casgliad gwybodaeth a dosbarthiad adroddiadau pensiynau technegol i gyflogwyr a delio’n uniongyrchol gyda ymholiadau cyflogwyr.
•Datblygu a chadw cofnodion o’r rhaglen Gwybodaeth a Sgiliau ar gyfer aelodau etholedig y Pwyllgor Pensiynau a sicrhau bod y rhaglen yn cael ei ddiwygio yn unol ag arweiniad statudol.
•Cynrychioli Cronfa Bensiwn Gwynedd mewn cyfarfodydd allanol.
Ymddiriedolaethau
•Delio gyda ymholiadau gan adrannau neu randdeiliad allanol ynglyn ag ymddiriedolaethau a weinyddir gan y Cyngor ac unrhyw holiaduron a dychweliadau perthnasol.
•Buddsoddi’r cronfeydd ymddiriedolaeth y Cyngor yn ddoeth.
Cyffredinol
•Dirprwyo dros y Rheolwr Buddsoddi.
•Delio’n sensitif a phriodol gyda rhanddeiliad uwch gan gynnwys rheolwyr ac ymgynghorwyr buddsoddi, cyflogwyr, aelodau etholedig a swyddogion.
•Sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau yn amserol er mwyn cwrdd â thargedau ac amserlenni penodedig.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig:
-