Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cyflawni gofynion gweinyddol yr Adran Gyllid gan sicrhau bod systemau effeithiol mewn lle i sicrhau gweinyddiaeth o ansawdd
•Cynorthwyo a chydweithio gyda swyddogion yr Adran a’r Gwasanaeth Dysgu a Datblygu er mwyn gwella effeithiolrwydd gwasanaethau’r Adran a hwyluso cynllun datblygu rheolwyr yr Adran.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer gweinyddol.
•Codi, prosesu a thracio anfonebau.
Prif ddyletswyddau
Sicrhau cefnogaeth weinyddol i’r Adran Gyllid gan osod systemau effeithiol i sicrhau gweinyddiaeth o ansawdd i’r gofynion canlynol:
•Cefnogaeth weinyddol ac ysgrifenyddol lawn i’r Pennaeth Adran, a chefnogaeth weinyddol i’r Penaethiaid Cynorthwyol, Uwch Swyddog Gweithredol a rheolwyr gwasanaeth fel bo’r angen.
•Cyfrifoldeb am weinyddu, trefnu a chofnodi ystod eang o gyfarfodydd yr Adran Gyllid gan gynnwys Tîm Rheoli’r Adran, Cyfarfodydd Rheolwyr, Cyfarfodydd Herio Perfformiad (ac eraill fel bo’r gofyn) ac chydlynu’r gwaith o sicrhau fod penderfyniadau y cyfarfodydd hyn wedi eu gweithredu.
•Casglu gwybodaeth ar gais y Pennaeth Adran, Penaethiaid Cynorthwyol neu’r Uwch Swyddog Gweithredol.
•Prif bwynt cyswllt yr Adran Gyllid ar gyfer unrhyw faterion yn ymwneud â swyddfeydd yr Adran, gan weithio’n agos gyda gwasanaethau megis Eiddo, Technoleg Gwybodaeth a.y.b. gan weithredu fel rheolwr prosiect yn y maes gwaith yma yn ôl yr angen.
•Bod y cyswllt cyntaf ar gyfer aelodau etholedig y Cyngor, aelodau Senedd Cymru, aelodau seneddol San Steffan ac asiantaethau eraill.
•Llunio ymatebion i ohebiaeth fel bo’r angen ar ran y Pennaeth Adran.
•Cadw cofnod o’r holl ohebiaeth a anfonir i’r Pennaeth Adran o safbwynt materion trethi, a gweithio gyda'r Gwasanaeth Trethi i sicrhau fod cofnod glir o ymatebion.
•Cydweithio gyda’r Uwch Swyddog Gweithredol ar ran y Pennaeth Adran i sicrhau fod holl swyddogion yr Adran Gyllid yn cwblhau hyfforddiant mandadol yn ôl y gofyn.
•Cyfrifoldeb am gydlynu gyda Dysgu a Datblygu i drefnu cyrsiau hyfforddi i reolwyr a staff yr Adran Gyllid.
•Cyfrifoldeb am drefnu cyfarfodydd, digwyddiadau a hyfforddiant gan baratoi rhaglenni, casglu a dosbarthu gwybodaeth a deunyddiau fel yr angen.
•Llunio ymatebion i ohebiaeth ar gais y Tîm Rheoli.
•Cadw a sefydlu systemau ffeilio papur ac electroneg.
•Delio a sicrhau ymateb cychwynnol i ymholiadau rhan ddeiliaid parthed materion cwynion ac ymholiadau gan gynnig arweiniad a chyngor ar sicrhau datrysiad.
•Archebu adnoddau, codi, prosesu a thracio anfonebau gan gynhyrchu adroddiadau monitro ariannol fel bo angen.
•Cyfrifoldeb am ddarparu adroddiadau i ystod o gynulleidfaoedd gwahanol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
•Yn achlysurol bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol.