Staff Cyngor Gwynedd yn unig all ymgeisio am y swydd hon. Os ydych yn aelod o staff y Cyngor ond methu ymgeisio am y swydd yna ar-lein yna e-bostiwch swyddi@gwynedd.llyw.cymru am ffurflen gais a manylion pellach.
Swyddi ar lein
[Mewnol] Pennaeth Cynorthwyol Gweithredol Plant a Chefnogi Teuluoedd
£68,762 - £72,055 y flwyddyn | Dros dro
- Cyfeirnod personel:
- 26-31512
- Teitl swydd:
- Pennaeth Cynorthwyol Gweithredol Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Uned Reoli
- Dyddiad cau:
- 24/04/2026 09:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro chwe mis | 37 Awr
- Cyflog:
- £68,762 - £72,055 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW*
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Cytundeb Dros Dro - 6 mis i gychwyn gyda'r posibilrwydd o'i ymestyn ymhellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Sharron Williams Carter drwy e-bost: sharronwilliamscarter@gwynedd.llyw.cymru
Rhagwelir cynnal cyfweliadau - dyddiad i'w gadarnhau
Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 09:00yb, DYDD GWENER, 24ain O EBRILL 2026.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Yn gallu gweithio fel aelod o dîm
Yn gallu gweithio yn annibynnol
Yn rhagweithiol yn y gweithle
Yn canolbwyntio ar ganlyniadau
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol
Cymhwyster Rheoli
Safon addysg dda.
Dymunol
-
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio o fewn gwasanaethau cymdeithasol
Profiad o weithio ym maes diogelu a chefnogi teuluoedd
Profiad o reoli adnoddau (staff, cyllid)
Profiad o oruchwylio staff proffesiynol maes gwaith cymdeithasol
Profiad o ddadansoddi systemau ac ail-ddylunio systemau a phrosesau
Profiad o waith aml ddisgyblaethol
Profiad o weithio gyda rhanddeiliaid (corfforaethol, rhanbarthol, defnyddwyr)
Profiad o hyfforddi a chyflwyno
Dymunol
Profiad o ddadansoddi yn defnyddio egwyddorion ‘systems thinking’
Profiad o ddylanwadu trwy amrywiol ddulliau mewn amrywiol sefyllfaoedd
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gwybodaeth arbenigol ym maes gwaith cymdeithasol statudol, yr agenda diogelu, agenda ataliol ag ymyrraeth fuan
Gwybodaeth arbenigol ym maes diogelu plant
Gwybodaeth am drothwyon, penderfyniadau o ansawdd da a disgwyliadau statudol
Gwybodaeth am ymarfer da ac ‘ymarfer ar sail tystiolaeth’
Sgiliau cyfrifiadurol
Sgiliau gweithio gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau (hyfforddi, hwyluso)
Sgiliau goruchwylio staff
Sgiliau hyfforddi
Sgiliau dylanwadu
Dymunol
Sgiliau a gwybodaeth am ‘systems thinking’
Sgiliau cymhelliant
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cefnogi’r Pennaeth Adran i gydweithio â Thîm Rheoli’r Cyngor, penaethiaid adran eraill, aelodau etholedig a phartneriaethau allanol er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn darparu gwasanaethau o’r safon uchaf o fewn yr adnoddau posibl i drigolion Gwynedd, a sicrhau fod y gwasanaeth hwnnw’n adlewyrchu polisïau a strategaethau corfforaethol y Cyngor.
•Cynrychioli’r Pennaeth Adran mewn cyfarfodydd a digwyddiadau o fewn y Cyngor ac mewn fforymau allanol yn ogystal a bod yn aelod gweithredol o’r Grŵp Uwch Reolwyr corfforaethol.
•Hyrwyddo trefniadau rheoli perfformiad addas sydd yn arddangos canlyniadau eglur, fel ei bod yn bosibl adnabod meysydd i’w gwella a rhwystrau i’w goresgyn gan annog gwella parhaus o fewn y gwasanaethau y cedwir trosolwg uniongyrchol arnynt.
•Sicrhau canlyniadau pendant wrth wneud y defnydd gorau o adnoddau’r Cyngor, gan ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cwsmer, sy’n cyd fynd â blaenoriaethau’r Cyngor ac yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion lleol.
•Bod yn Aelod o’r Tîm Rheoli adrannol gan ymgymryd ag uwch gyfrifoldeb a throsolwg o rai o wasanaethau’r Adran.
•Ymgymryd a swyddogaethau trosolwg o fewn yr Adran ar ran y Pennaeth ym meysydd:
- Gwasaneth IAA.
- Gwasanaethau Gweithredol
- Gwasanaeth Ataliol
- Gwasanaeth Cyfweliadau dychwelyd adref plant ar goll
- Trefniadau PLO a Gwaith Llys
- Strategaeth Rhiantu
- Datblygu strategaeth Tîm Emrallt
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Rheolaeth Llinell ar Reolwyr ( 5 Rheolwr , 2 swyddog).
•Cyllideb o 2 miliwn o fewn y meysydd cyfrifoldeb.
•Grantiau allanol amrywiol.
Prif ddyletswyddau
Darparu Gwasanaethau
•Annog a chefnogi Rheolwyr Gwasanaeth a’u timau i sicrhau darpariaeth gwasanaethau o ansawdd uchel i gwrdd ag anghenion cwsmeriaid, o fewn yr adnoddau sydd ar gael
•Cydweithio gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill i sicrhau agwedd integredig at gyflenwi gwasanaethau
•Datblygu polisïau gweithredol
•Cymryd rhan arweiniol ac ymarferol mewn gweithredu newid strategol.
Arweinyddiaeth
Fel un o arweinyddion yr Adran ac aelod o’r Grŵp Uwch Reolwyr:
•Arwain, hybu a datblygu staff
•Arwain agenda trawsnewid
•Datblygu a hybu diwylliant y sefydliad
•Cydweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol
•Hybu diwylliant o wella parhaus
Cynllunio ac Adolygu
•Cymryd rôl flaenllaw yn nghyswllt cynllunio ac adolygu busnes
•Hwyluso newid mewnol ac adolygu/datblygu gwasanaeth
•Adolygu ac herio perfformiad gwasanaethau o fewn yr Adran
Rhaglen Gorfforaethol
•Pontio rhwng polisïau strategol a gweithredol
•Hybu diwylliant un Cyngor
•Cyfrannu at ddatblygiad strategol
•Cytuno a chyflawni ar gerrig milltir rhaglen y gellir ei reoli
•Hybu a gweithredu polisïau a blaenoriaethau corfforaethol e.e. themâu llorweddolcyfleu ymdeimlad o gydweithio i un amcan
CYMWYSEDDAU ALLWEDDOL
(yn ychwanegol i weddill cymwyseddau corfforaethol y Cyngor)
Gweithio o fewn y dimensiwn gwleidyddol
•creu cysylltiadau effeithiol/galluogi gweithio’n briodol ar draws ffin gwleidyddiaeth
•cynnal perthynas effeithiol gydag aelodau etholedig, y rhanbarth a’r Llywodraeth
Arwain ar newid a datblygu’r sefydliad
•gweithredu’n gyson â gwerthoedd sylfaenol y Cyngor wrth ddatblygu’r diwylliant
•gweithio gydag ansicrwydd, amwysedd a natur anochel newid
•datblygu defnydd priodol o bŵer a grym gan rymuso staff a Rheolwyr i wneud penderfyniadau y gallent eu hamddiffyn
•cyfrannu a chymryd cyd-berchnogaeth o ddatblygiad yr Adran a’r Cyngor.
Cynnal safbwynt personol a hunan wybodaeth
•bod yn barod i wrando ar a gwerthfawrogi safbwyntiau eraill gan gydnabod eu cyfraniad i’r agenda gwella a newid
•cynnal cred neu ffydd ynddo’i hunan
•datblygu gwydnwch personol, cynaladwyedd ac ymwybyddiaeth emosiynol
•cadw synnwyr digrifwch
Datblygu a galluogi partneriaethau a pherthnasau allanol effeithiol
•bod yn bencampwr yr awdurdod lleol, llywodraeth leol a democratiaeth leol
•cyd-drefnu partneriaethau cyhoeddus a phreifat effeithiol ar gyfer datblygiadau strategol a chyflenwi gwasanaethau
•gweithio gyda chymunedau ac asiantaethau eraill
•cydweithio yn fewnol i’r Cyngor, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol
•defnyddio’r wasg a’r cyfryngau yn effeithiol i gael proffil priodol
Cadw golwg ar faterion strategol a hirdymor
•edrych tua’r dyfodol gan greu ymwybyddiaeth o sefyllfaoedd posib
•datblygu, cynnal a hyrwyddo gweledigaeth/barn strategol ar gyfer y sefydliad a’r ardal leol
•bod yn ymwybodol o allu strategol y sefydliad
Arwain a Rheoli Perfformiad
•cefnogi diwylliant sy’n canolbwyntio ar berfformio’n dda, arloesi a gwasanaethu ein cwsmeriaid
•adnabod a datrys sefyllfaoedd o danberfformiad
•gwella’n barhaus ar draws pob maes gwasanaeth
Arwain a Rheoli Pobl
•Ysgogi ac annog timau ac unigolion
•Cynnig cyfeiriad ac adborth
•Creu awyrgylch o barch
•Trosglwyddo gweledigaeth yn effeithiol i dimau ac unigolion
•Dirprwyo gwaith yn effeithiol
•Cydnabod a deall ymatebion eraill i sefyllfaoedd penodol tra’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth
•Sicrhau amgylchedd ddiogel i aelodau o dîm ddatblygu trwy gymryd risgiau
•Adnabod a deall y niwed posib a wneir pan na roddir sylw prydlon i achosion o wrthdaro
Cyfathrebu
•Rhannu a gwrando ar wybodaeth, barn a syniadau
•Cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
•Deall bod cyfathrebu da yn gallu bod yn arf pwerus i gynyddu cymhelliant
•Dewis a defnyddio dulliau cyfathrebu a chyfryngau priodol ar gyfer amrediad o gynulleidfaoedd
•Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol effeithiol
•Deall peryglon gweithio o ragdybiaethau
•Gwerthfawrogi teimladau eraill ac yn deall pwysigrwydd cynhwysiad ac ymgynghori
•Gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Hunanreoli
•Rhagweithiol
•Derbyn cyfrifoldeb am weithredoedd
•Darparu sefydlogrwydd mewn adegau o newid
•Meddu ar lefelau uchel o hunan-ymwybyddiaeth
•Dangos gonestrwydd
•Yn emosiynol wydn ac ymwybodol
•Blaenoriaethu tasgau a gwneud defnydd effeithiol o amser
•Profi gwerth cyhoeddus
PRIF FEYSYDD CYFRIFOLDEB
Mae’r isod yn rhoi amlinelliad o’r prif ddyletswyddau a’r cyfrifoldebau sydd ynghlwm â’r swydd hon. Nid yw’n ddisgrifiad manwl, ac fe allai dyletswyddau’r swydd amrywio o bryd i’w gilydd, er na fyddai hynny’n newid nodweddion sylfaenol y gwaith na maint cyffredinol y cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi.
•Cynllunio a monitro er mwyn sicrhau gwasanaeth o safon a gwella parhaus.
•Darparu gwerth am arian trwy brynu, blaenoriaethu, rheoli a monitro defnydd effeithiol o adnoddau gan gydnabod bod gwybodaeth, gallu a sgiliau yn adnoddau hefyd.
•Gwneud i bethau ddigwydd trwy wneud penderfyniadau ystyrlon ac ymateb yn effeithiol i flaenoriaethau fel maent yn newid.
•Deall a gweithio effeithiol o fewn fframwaith wleidyddol y Cyngor a bod yn ymwybodol o’r materion sy’n cael effaith ar ddarparu gwasanaeth ar wahanol lefelau. Meithrin cysylltiadau gydag eraill i elwa o ymarfer gorau er mwyn gwella darpariaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth.
•Gweithredu fel rheolwr llinell uniongyrchol y Rheolwyr Gwasanaeth ; Rheolwr Tîm cyfeiriadau (IAA), Rheolwyr Timau Gweithredol Ardaloedd, Rheolwr Tîm Amgylch Teulu, Swyddogion monitroTeuluoedd yn gyntaf, Arweinydd Prosiect teuluoedd yn gyntaf . Swyddog cynnal cyfweliadau dychwelyd adref. Cyd Rheoli Rheolwr Tîm Emrallt.Gall y meysydd gwasanaeth hyn amrywio.
•Adrodd i’r Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd yn nol yr angen ar faterion y gweithlu ac arolygon sy’n berthnasol i’r Gwasanaethau (rhai mesysydd cofrestredig).
•Cynnal trefniadau atebolrwydd rhwng mewn perthynas a’r gwasanaethau er mwyn sicrhau cyflawniad yn erbyn Cynlluniau Busnes a Cynlluniau Gweithredu’r Hunan arfarniadau.
•Cynorthwyo’r Pennaeth i sicrhau atebolrwydd y rheolwr gwasanaeth perthnasol am gyflawni eu rôl i’r safon ddisgwyliedig gan herio’n briodol a sicrhau eu bod yn gweithredu’n briodol er mwyn cyflawni’r lefel perfformiad gorau posibl a chymryd camau priodol lle nad yw hyn yn digwydd.
•Arwain, datblygu, gwerthuso ac annog swyddogion i weithio i’w llawn botensial gan osod amcanion addas iddynt a mesur cyrhaeddiad yn erbyn tueddiadau diweddar (drwy’r rheolwyr priodol).
•Sicrhau bod systemau rheoli perfformiad addas ac effeithiol mewn grym ar gyfer yr unedau a reolir a bod y pwrpasau a’r mesurau yn y cynlluniau busnes yn cael eu cyflawni a bod monitro rheolaidd yn digwydd.
•Arwian ar ddatblygu strategaethau, cynlluniau a pholisïau lleol ym maes Maethu, Preswyl, Ôl -ofal, Plant Anabl, Awtisitaeth a meysydd perthnasol eraill. Cyfrannu tuag at ddatblyguu’r strategaeth, cynlluniau, rhaglenni a pholisïau cenedlaethol yn yr un meysydd gwaith.
•Creu dulliau gweithio a diwylliant wedi ei gyfeirio gan berfformiad, sicrhau fod cynlluniau gwaith priodol, goruchwyliaeth a systemau staff mewn lle i gyflawni amcanion yr Adran a’r Cyngor, a gwella darpariaeth i ddefnyddwyr y gwasanaethau.
•Datrys problemau na all rheolwyr eu datrys gan gynnwys cwynion lle na fu modd i’r rheolwyr eu datrys.
•Cyfrifoldeb am arwain y broses trawsffurfio a rheoli newid o fewn yr Unedau Gwasanaeth.
•Adnabod ac arwain ar gyfleon effeithlonrwydd / toriadau o fewn y meysydd perthnasol, ac arwain ar reoli’r newid wrth gyflawni effeithlonrwydd a toriadau i wasanaethau .
•Sicrhau bod egwyddorion Ffordd Gwynedd yn treiddio drwy’ gwasanaethau.
•Sicrhau fod polisïau corfforaethol yn treiddio drwy’r gwasanaeth.
•Cynorthwyo’r Pennaeth i baratoi’r Cynllun Busnes Adran, a threfniadau adrodd Herio Perfformiad adrannol.
•Cynorthwyo’r Pennaeth i gynnal y Gofrestr Risg Adrannol.
•Cynorthwyo’r Pennaeth i gynnal y Cynlluniau Parhad Gwasanaeth / Cynllun Argyfwng.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill cyfatebol a rhesymol, sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd, ac a roddir o bryd i’w gilydd gan y Pennaeth.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol o bryd i’w gilydd, ac i gyfrannu i gefnogi’r Tim Gwaith Cymdeithasol Tu allan i Oriau gwaith (Tim Nos) yn unol â chais y Pennaeth Gwasanaeth.