Staff Cyngor Gwynedd yn unig all ymgeisio am y swydd hon. Os ydych yn aelod o staff y Cyngor ond methu ymgeisio am y swydd yna ar-lein yna e-bostiwch swyddi@gwynedd.llyw.cymru am ffurflen gais a manylion pellach.
Swyddi ar lein
[Mewnol] Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd
£84,480 - £93,163 y flwyddyn | Dros dro
- Cyfeirnod personel:
- 25-30303
- Teitl swydd:
- Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Uned Reoli
- Dyddiad cau:
- 08/03/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro chwe mis | 37 Awr
- Cyflog:
- £84,480 - £93,163 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- -
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW*
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Am gyfnod o 6 mis, gyda’r posibilrwydd o ymestyn hyd at 12 mis, mae’r Adran Plant a Theuluoedd yng Nghyngor Gwynedd angen penodi Pennaeth.
Gyda gweithlu gweithgar, ymroddedig ac eiddgar, a Chyngor ar daith i wella ein gwasanaethau a sicrhau diogelu o’r safon uchaf, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn sydd a gweledigaeth ac sydd o ddifrif am weithio gyda’r Adran i sicrhau trefniadaeth a systemau effeithiol.
Dyma gyfle i weithiwr cymdeithasol profiadol i arwain ac i lywio rhan bwysig o Gyngor Cymraeg gwledig at ragoriaeth yn ei wasanaethau.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs bellach am y swydd a’r cyfle hwn cysylltwch gyda Dylan Owen ar dylanowen@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 08.03.2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Cydnabyddiaeth a chefnogaeth - Rydych yn gweithio'n dda fel rhan o dîm, gan ystyried eich llesiant eich hun ac eraill. Rydych yn cydnabod cryfderau a'r potensial ym mhawb, gan eu hannog i ddysgu, i wneud cynnydd ac i ddatblygu. Rydych yn creu diwylliant o werthfawrogiad, lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu cydnabod am y gwahaniaeth maent yn ei wneud.
Ffocws Cwsmeriaid - Rydych yn chwilio am farn amryw unigolion sy'n derbyn ein gwasanaethau i wella ein darpariaeth. Rydych yn cynllunio anghenion gwasanaeth ymlaen llaw, gan ystyried ffactorau ehangach ac effeithiau hirdymor penderfyniadau. Rydych yn datblygu, yn cyflawni ac yn gwerthuso cynlluniau strategol, gan gydbwyso pwysau tymor byr â nodau tymor hir, yn unol â gweledigaeth y Cyngor, sy'n mynd i'r afael ag anghenion gwasanaeth amrywiol, gan gynnwys yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.
Uniondeb - Mynd i'r afael â risg - Rydych yn cynllunio, cydnabod a gweithredu mesurau i ymateb i'r risg i chi a/neu i eraill achos ymddygiadau neu sefyllfaoedd. Rydych yn hyrwyddo a sicrhau bod gwerthoedd ymddygiad, iechyd a diogelwch ac arferion diogelu yn arwain gwaith tîm. Rydych yn sefydlu ac yn hyrwyddo diwylliant cadarnhaol lle mae iechyd, llesiant, arferion gweithio diogel a diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb.
Arwain a Dirprwyo - Rydych chi'n dilyn prosesau a chanllawiau, gan herio mewn ffordd gadarnhaol os bydd mater yn codi. Rydych yn blaenoriaethu eich gwaith eich hun a gwaith eraill yn deg, ar sail cryfderau pobl, ac yn darparu adborth clir ac amserol. Rydych yn pennu ac yn cynnal cyfeiriad clir a chadarnhaol, gyda blaenoriaethau a chanlyniadau â ffocws amlwg sy’n cael eu cyfathrebu’n glir i’r timau.
Arloesi - Rydych yn gofyn cwestiynau ac yn chwilio am ffyrdd gwell a/neu newydd o wneud pethau, gan awgrymu gwelliannau. Rydych yn dylunio prosesau a systemau sy'n cefnogi newid cadarnhaol, yn diogelu dysgu ac yn gwella gwasanaethau. Rydych yn ymgorffori diwylliant o arloesi a meddwl creadigol i ysgogi gwelliannau i'r gwasanaeth, gan rymuso timau i annog datblygiad parhaus.
Dangos cyfrifoldeb - Rydych yn atebol am yr hyn rydych wedi addo’i gyflawni, gan gynnwys tasgau a ddirprwywyd i eraill. Rydych yn defnyddio eich crebwyll a chymryd ymagwedd ystyriol at sefyllfaoedd a thasgau wrth wneud penderfyniadau a/neu ddarparu cyngor. Rydych yn dyrannu adnoddau yn deg ac yn gwneud penderfyniadau strategol priodol i gefnogi'r broses o ddarparu'r gwasanaethau.
Cyfathrebu - Rydych yn cyfleu syniadau mewn ffordd glir er mwyn sicrhau bod eraill yn gallu deall. Rydych yn creu a chynnal perthynas waith gadarnhaol broffesiynol a llawn ymddiriedaeth â phobl yn y gwasanaeth a'r thu hwnt. Rydych yn dangos ymwybyddiaeth wleidyddol a diwylliannol, gan adlewyrchu ein gwerthoedd drwy gyfathrebu â gwahanol gynulleidfaoedd gyda gonestrwydd, uniondeb, didueddrwydd a gwrthrychedd, i feithrin ymddiriedaeth a sicrhau ymrwymiad eraill.
Deall eraill - Rydych yn gwrando er mwyn deall safbwyntiau ac anghenion eraill, gan ymateb yn sensitif a gwirio dealltwriaeth lle bo angen. Rydych yn hwyluso trafodaethau adeiladol ac yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl i ddod i gytundeb. Rydych yn defnyddio hunanymwybyddiaeth a lefelau uchel o ddealltwriaeth o anghenion eraill i ddylanwadu ar gytundebau strategol a chydweithredol lefel uchel a'u trafod. -
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cymhwyster proffesiynol Gwaith Cymdeithasol neu Therapi Galwedigaethol neu gymhwyster proffesiynol perthnasol. -
DYMUNOL
Gradd meistr neu gymhwyster ôl-radd, e.e. MBA / Rheoli Newid -
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad sylweddol mewn rôl arwain o fewn gofal cymdeithasol i Plant a Theuluoedd.
Profiad llwyddiannus o gynllunio strategol, datblygu gwasanaethau, a rheoli perfformiad.
Profiad sylweddol o reoli cyllidebau mewn amgylchedd heriol.
Profiad amlwg o weithio mewn partneriaeth llwyddiannus gydag asiantaethau eraill gan gynnwys y 3ydd Sector / Grwpiau gwirfoddol. -
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Hyder mewn rheoli materion sensitif a gwleidyddol yn ddiplomataidd i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Ymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant mewn perthynas â mynediad at wasanaethau ac o fewn y gweithlu, gan sicrhau cyfle cyfartal a chydymffurfio â deddfwriaeth gysylltiedig. -
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
GWIRIADAU'R GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD (DBS)
Mae gwiriadau DBS yn ofynnol ar gyfer y swydd hon gan ei bod yn swydd lle y bydd angen gweithio gyda phlant ac Plant a Theuluoedd agored i niwed. Mae'r canlynol yn ofynnol ar gyfer y swydd hon:
Adran A – y math o ddatgeliad Datgeliad Manwl gan wirio'r rhestr wahardd
Adran B – y math o weithlu Y gweithlu plant ac Plant a Theuluoedd
Adran C – Gofyniad ar gyfer adnewyddiadau DBS 3 blynedd neu DBS i’w gofrestru ar y gwasanaeth diweddaru Ie
Mae hyn yn angenrheidiol gan fod y swydd yn rheoli gwasanaethau sy'n ymgymryd â gweithgarwch a reoleiddir ar gyfer Plant a Theuluoedd, a Phlant (Tîm 0-25). Rheoli gwasanaethau a reoleiddir (sy'n cael eu harolygu gan AGC) sydd angen gwiriadau adnewyddu.
Mae diogelu yn fater i bawb. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb am amddiffyn plant ac Plant a Theuluoedd sydd mewn perygl, gweithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi eu budd pennaf, a rhoi gwybod am unrhyw bryderon.
Swydd wleidyddol gyfyngedig
Mae hon yn swydd wleidyddol gyfyngedig.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
- Arwain Adran Plant a Theuluoedd, Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd yn foesegol, hyrwyddo diwylliant o berfformiad uchel a dysgu, ysbrydoli ac ysgogi arloesi a newid gan sicrhau fod plant a phobl Gwynedd yn ganolog i bopeth a wneir;
- Trawsnewid Adran Plant a Theuluoedd, Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd i alluogi darparu cefnogaeth i blant a theuluoedd sydd yn hyrwyddo eu gallu i fyw eu bywyd gorau;
- Trawsffurfio gwasanaethau Adran Plant a Theuluoedd i fabwysiadau a pherchnogi gwasanaethau diogelu, gwasanaethau ar sail cryfder, gwasanaethau adferol, gwasanaethau ataliol, a gwasanaethau i alluogi plant a theuluoedd i fyw ynghyd lle fo hynny’n bosibl;
- Cynllunio, creu a gweithredu strategaethau comisiynu hir-dymor i sicrhau hyfywedd gwaith yr Adran;
- Arwain prosiectau adrannol a chorfforaethol, ynghyd â llunio polisïau'r cyngor. Sicrhau bod y rhain yn cael eu trosi'n gynlluniau a rhaglenni sy'n cael eu hadolygu a'u diweddaru i adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau sy'n newid;
- Arwain, mentora a chefnogi timau amrywiol o weithwyr proffesiynol i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon gan sicrhau ansawdd;
- Sicrhau fod y gwasanaeth yn effeithiol, effeithlon, ac yn gweithredu o fewn y gyllideb briodol;
- Sicrhau fod y gwasanaethau gofal a chefnogaeth a ddarperir yn safonol, diogel ac effeithiol;
- Cydweithio â Thîm Arweinyddiaeth y Cyngor, penaethiaid gwasanaeth, aelodau etholedig a phartneriaethau allanol er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn darparu gwasanaethau o’r safon uchaf o fewn yr adnoddau posibl i drigolion Gwynedd, a sicrhau fod y gwasanaeth hwnnw’n adlewyrchu polisïau a strategaethau corfforaethol y Cyngor;
- Hyrwyddo gweithio traws asiantaethau a thraws adrannol i sicrhau gweithio integredig effeithiol gyda’r gwasanaethau iechyd, yr heddlu, Mantell Gwynedd a’r 3ydd Sector, darparwyr preifat, ac adrannau o fewn y Cyngor, megis yr Adran Oedolion, Adran Addysg a’r Adran Tai ac Eiddo;
- Datblygu prosesau rheoli perfformiad addas i arddangos canlyniadau eglur, i alluogi cymharu’r canlyniadau hynny yn erbyn y mesurau a osodir gan y Tîm Arweinyddiaeth y Cyngor;
- Rhoi adroddiadau cyson i aelodau etholedig, ac i Dîm Arweinyddiaeth y Cyngor ar berfformiad y gwasanaeth, a chynghori ar unrhyw faterion sydd angen gwelliannau;
- Sicrhau canlyniadau pendant wrth wneud y defnydd gorau o adnoddau’r Cyngor, gan ddarparu gwasanaeth penigamp i’r cwsmer, sy’n cyd fynd â blaenoriaethau’r Cyngor ac yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion lleol;
- Cydweithio’n rhanbarthol mewn grwpiau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i sicrhau adnoddau a gwasanaethau cyson o safon;
- Cydweithio ar draws Cymru gyda Llywodraeth Cymru a grwpiau’r ADSSC (Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru) i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol;
- Dirprwyo ar ran Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn ôl yr angen, gan sicrhau parhad arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau o fewn yr adran;
- Cyfrifoldeb am rai gwasanaethau traws adrannol, megis y gwasanaeth tîm nos.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
- Cyfrifol am weithlu’r adran yn ei chyfanrwydd i sicrhau gwaith proffesiynol, safonol a diogel;
- Cyfrifol am gyllideb yr Adran a defnydd priodol, darbodus ac addas ohono.
Prif Ddyletswyddau.
1.Ymreolaeth Rheoli Gweithredol o fewn polisi, strategaeth ac adnoddau i reoli
- Cyllid
- Staff
- Technoleg
- Eiddo
- Risg
- Perfformiad
2.Darparu Gwasanaethau
- Sicrhau darpariaeth o wasanaethau o ansawdd uchel i gwrdd ag anghenion cwsmeriaid, o fewn yr adnoddau sydd ar gael
- Cydweithio gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill i sicrhau agwedd integredig at gyflenwi gwasanaethau
- Datblygu polisïau gweithredol
- Gweithredu newid strategol
- Cytuno ar faterion gweithredol arbennig i’w harwain gan Gyfarwyddwr Corfforaethol
3.Arweinyddiaeth
- Arwain, hybu a datblygu staff
- Datblygu a hybu diwylliant y sefydliad
- Cydweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol
- Hybu diwylliant o wella parhaus
4.Cynllunio ac Adolygu Busnes
- Arwain y broses cynllunio ac adolygu busnes
- Cyfrifol am newid mewnol ac adolygu/datblygu gwasanaeth
- Cyfrifoldeb cyffredinol am reoli perfformiad o fewn y gwasanaeth
5.Rhaglen Gorfforaethol
- Pontio rhwng polisïau strategol a gweithredol
- Hybu diwylliant un cyngor
- Cyfrannu at ddatblygiad strategol
- Cytuno a chyflawni ar gerrig milltir rhaglen y gellir ei reoli
- Hybu a gweithredu polisïau a blaenoriaethau corfforaethol e.e. themâu llorweddol
CYMWYSEDDAU ALLWEDDOL (yn ychwanegol i weddill cymwyseddau corfforaethol y Cyngor)
1.Gweithio o fewn y dimensiwn gwleidyddol
- creu cysylltiadau effeithiol/galluogi gweithio’n briodol ar draws ffin gwleidyddiaeth a rheoli
- datblygu strategaeth gyda maer/arweinydd, cabinet ac aelodau
- cynnal perthynas effeithiol gydag aelodau etholedig, y rhanbarth a’r Llywodraeth
2.Arwain ar newid a datblygu’r sefydliad
- cynnal cysondeb gyda gwerthoedd sylfaenol wrth ddatblygu’r diwylliant
- gweithio gydag ansicrwydd, amwysedd a natur anochel newid
- datblygu’r defnydd priodol o bŵer, grymuso staff a rheolwyr
- hwyluso twf parhaus yr uwch dîm
3.Cynnal safbwynt personol a hunan wybodaeth
- cynnal hunan wybodaeth a chwilfrydedd ynghylch safbwyntiau eraill, nid rhai personol yn unig
- cynnal cred neu ffydd ynddo’i hunan
- datblygu gwydnwch personol, cynaladwyedd ac ymwybyddiaeth emosiynol
- cadw synnwyr digrifwch
4.Datblygu a galluogi partneriaethau a pherthnasau allanol effeithiol
- bod yn bencampwr yr awdurdod lleol, llywodraeth leol a democratiaeth leol
- cyd-drefnu partneriaethau cyhoeddus a phreifat effeithiol ar gyfer datblygiadau strategol a chyflenwi gwasanaethau
- gweithio gyda chymunedau ac asiantaethau eraill
- defnyddio’r wasg a’r cyfryngau yn effeithiol i gael proffil priodol
5.Cadw golwg ar faterion strategol a hirdymor
- edrych tua’r dyfodol i greu ymwybyddiaeth o sefyllfaoedd posib
- datblygu, cynnal a hyrwyddo gweledigaeth/barn strategol ar gyfer y sefydliad a’r ardal leol
- bod yn ymwybodol o allu strategol y sefydliad
- cyfleu ymdeimlad o flaenoriaeth a phwrpas cyfunol
6.Arwain a chyfuno Rheoli Perfformiad
- creu diwylliant sy’n canolbwyntio ar berfformio’n dda, arloesi a gwasanaeth i gwsmeriaid
- medru gweddnewid meysydd sy’n tanberfformio
- gwella’n barhaus ar draws pob maes gwasanaeth
7.Arwain a Rheoli Pobl
- Ysgogi ac annog timau ac unigolion
- Rhoi cyfeiriad ac adborth i’r tîm
- Creu awyrgylch o barch
- Trosglwyddo gweledigaeth yn effeithiol i dimau ac unigolion
- Dirprwyo gwaith yn effeithiol
- Adnabod a deall ymatebion eraill i sefyllfaoedd penodol tra’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth
- Sicrhau amgylchedd diogel i aelodau o dîm ddatblygu trwy gymryd risgiau
- Adnabod a deall y niwed posib a wneir pan na roddir sylw prydlon i achosion o wrthdaro
8.Cyfathrebu
- Rhannu a gwrando ar wybodaeth, barn a syniadau
- Cyfathrebu effeithiol
- Deall bod cyfathrebu yn gallu bod yn arf pwerus i gynyddu cymhelliant a phwysigrwydd cyfathrebu da
- Dewis a defnyddio dulliau cyfathrebu a chyfryngau priodol ar gyfer amrediad o gynulleidfaoedd
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol effeithiol
- Deall peryglon gweithio o ragdybiaethau
- Gwerthfawrogi teimladau eraill ac yn deall pwysigrwydd cynhwysiad ac ymgynghori
9.Hunan reoli
- Rhagweithiol
- Derbyn cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain
- Darparu sefydlogrwydd mewn adegau o newid
- Meddu ar lefelau uchel o hunanymwybyddiaeth
- Dangos gonestrwydd
- Yn emosiynol wydn ac ymwybodol
- Blaenoriaethu tasgau a gwneud defnydd effeithiol o amser
- Dangos cyflawniad gwerth cyhoeddus
PRIF FEYSYDD CYFRIFOLDEB
- Plant a Theuluoedd
- Diogelu Plant a Theuluoedd Bregus
- Darparu Gwasanaethau Gofal
- Comisiynu a Chontractau
- Gwasanaethau Preswyl a Dydd
- Gofal Cymunedol
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd a gweithredu ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
- Gall gwaith swydd Pennaeth Plant a Theuluoedd gynnwys oriau anghymdeithasol achlysurol a gweithio ar y rota ymateb i argyfwng yn rheolaidd.