NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Sgiliau cyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd a mynychu cyrsiau perthnasol
- Y gallu i reoli a chwblhau gwaith o ansawdd o fewn amserlen bendant
- Y gallu i weld anghenion o safbwynt cwsmeriaid y Cyngor
- Trefnus, gyda sgiliau gweinyddol da
- Aelod tîm da ond gyda’r gallu i weithio’n annibynnol
- Gallu gweithio dan bwysau
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol
- TGAU gradd B neu uwch, mewn Cymraeg (Iaith) a Saesneg (Iaith)
DYMUNOL
- Cymhwyster TGAU mewn Technoleg Gwybodaeth a Mathemateg
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
-
DYMUNOL
- Y gallu i gasglu, dadansoddi a chyflwyno data a gwybodaeth
- Profiad o gynnal ymarferiadau ymgysylltu
- Sgiliau ymchwil cryf
- Ysgrifennu a golygu testun ar gyfer cyfryngau electronig yn Gymraeg ac yn Saesneg
- Gweithio ar wefannau sector gyhoeddus neu breifat
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Gallu ysgrifennu a chyflwyno gwybodaeth ar gyfer cynulleidfa darged yn Gymraeg ac yn Saesneg mewn ffordd glir, gywir a syml
- Sgiliau cyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau blaenoriaethu
- Sgiliau datrys problemau
- Gallu defnyddio pecynnau cyfrifiadurol e.e. Microsoft Office
- Gallu dysgu sut i ddefnyddio systemau a meddalwedd arbenigol
DYMUNOL
- Profiad o ddefnyddio meddalwedd i greu holiaduron, e.e. LimeSurvey
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
- Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
- Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)