Swyddi ar lein
(ASSA) Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol
£20,885 - £22,545 y flwyddyn
- Cyfeirnod personel:
- 25-30047
- Teitl swydd:
- (ASSA) Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol
- Adran:
- Swyddi cyffredinol
- Gwasanaeth:
- Swyddi cyffredinol
- Dyddiad cau:
- 08/12/2025 10:00
- Cyflog:
- £20,885 - £22,545 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Hybrid (yn gweithio ar draws pob un o'r 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru)
Manylion
Hysbyseb Swydd
Gweithiwr Cymdeithasol - Ymgynghorydd Gwasanaethau Cefnogaeth Mabwysiadu
Lleoliad: Hybrid (yn gweithio ar draws pob un o'r 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru)
Natur y Contract: Rhan-amser – 2.5 diwrnod / 18.5 awr/ wythnos – hyblyg / 3 blynedd
Dyddiad Cau: 08.12.2025
Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu yn wasanaeth arloesol a llwyddiannus iawn sy'n darparu gwasanaethau o safon i blant sydd angen lleoliadau mabwysiadu.
Mae hyn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru gan ein bod yn y broses o ehangu a datblygu'r ystod o wasanaethau yr ydym yn eu darparu i deuluoedd mabwysiadu.
Ar hyn o bryd, mae gennym un swydd Ymgynghorydd Gwasanaethau Cefnogaeth Mabwysiadu rhan-amser wedi'i lleoli yn Wrecsam.
Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol cofrestredig profiadol sydd â phrofiad o weithio yn y maes mabwysiadu. Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am oruchwylio trefniadau cefnogaeth mabwysiadu, gan gynnwys; cyd-gysylltu ag awdurdodau lleol eraill ac asiantaethau cefnogaeth mabwysiadu i sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau cefnogaeth ac i sicrhau parhad gwasanaethau ar gyfer teuluoedd sy'n symud ardal; gwybodaeth a chyngor i deuluoedd mabwysiadu; cynnig cyngor a chefnogaeth arbenigol i weithwyr cymdeithasol gofal plant sy'n datblygu cynlluniau cefnogaeth ar ôl mabwysiadu, a sicrhau bod yr holl gynlluniau yn cwrdd â safonau o ansawdd.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarparu gwaith cymdeithasol ar ôl mabwysiadu o safon uchel gyda statud, rheoliad ac arweiniad.
Mae cymhwyster gwaith cymdeithasol a phrofiad o weithio ym maes mabwysiadu yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i weithio ar draws rhanbarth gogledd Cymru yn unol â'r galw am wasanaeth.
Am fwy o wybodaeth am y swydd ac i ymgeisio, cliciwch ar y linc: (ASSA) Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol in - Wrexham County Borough Council - Welsh
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â: Nia Hardaker 07818181148 Nia.Hardaker@wrexham.gov.uk
Dyddiad cau: 08.12..2025
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys addas waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.