skip to main content
header_main

Manylion

Cartref > Trigolion > Swyddi > Swyddi ar lein > Manylion swydd

Swyddi ar lein

Swyddog Recriwtio Gwasanaeth Mabwysiadu

£19,177 - £20,154 y flwyddyn

Cyfeirnod personel:
25-30045
Teitl swydd:
Swyddog Recriwtio Gwasanaeth Mabwysiadu
Adran:
Swyddi cyffredinol
Gwasanaeth:
Swyddi cyffredinol
Dyddiad cau:
08/12/2025 10:00
Cyflog:
£19,177 - £20,154 y flwyddyn
Lleoliad(au):
Hybrid (yn gweithio ar draws pob un o'r 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru)

Manylion

Hysbyseb Swydd

Swyddog Recriwtio Gwasanaeth Mabwysiadu

Lleoliad: Hybrid (yn gweithio ar draws pob un o'r 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru)

Natur y Contract:  Rhan-amser – 3 diwrnod / 22.5 awr / wythnos – hyblyg / Swydd dros dro am 12 mis (sy'n cwmpasu absenoldeb estynedig)

Rydym eisiau penodi gweithiwr proffesiynol ymroddedig a gofalgar fel ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru.

Mae hon yn rôl werth chweil y mae angen i'r ymgeisydd gael dealltwriaeth dda o weithio gyda phlant sy'n derbyn gofal a darpar fabwysiadwyr. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio'n agos gyda'r gweithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol sy'n gweithio yng Ngwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru ac yn uniongyrchol gyda darpar fabwysiadwyr a’u cefnogi i ddysgu mwy am fabwysiadu, dechrau meddwl am y manteision a'r heriau sy'n gysylltiedig ac i benderfynu a yw mabwysiadu yn iawn iddyn nhw.

Mae angen cymwysterau perthnasol arnoch naill ai FfCCh neu NVQ3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gofal Plant) neu gymwysterau Gofal Plant perthnasol eraill, sgiliau TG da, GDG clir, trwydded yrru ddilys. Mae car gydag yswiriant busnes llawn a chynhwysfawr hefyd yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. 

Oriau Gwaith: yr oriau craidd yw 9am i 5pm fodd bynnag bydd achlysuron lle bydd angen gweithio hyblyg i ddiwallu anghenion a gofynion y gwasanaeth.

Mae'r tîm yn gefnogol iawn - mae ganddo reolwr gwasanaeth, pedwar rheolwr gweithredol, gweithwyr cymdeithasol, swyddog hyfforddi, gweithwyr cymorth i deuluoedd therapiwtig a gweinyddwyr busnes. Mae gennym ddull amlddisgyblaethol gyda’n cydweithwyr yn y 6 awdurdod lleol gan gynnwys cydweithwyr ym maes iechyd ac addysg wrth gefnogi plant a theuluoedd mabwysiadu ledled Gogledd Cymru

Cysylltwch â Mihaela Bucutea Rheolwr Tîm ar 07879735734 neu Mihaela.bucutea@wrexham.gov.uk  

Am fwy o wybodaeth am y swydd ac i ymgeisio, cliciwch ar y linc: Swyddog Recriwtio in - Wrexham County Borough Council - Welsh

Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Chwilio am swydd