skip to main content
header_main

Manylion

Cartref > Trigolion > Swyddi > Swyddi ar lein > Manylion swydd

Swyddi ar lein

Gwasanaeth Tan ac Achub - Swyddog Cymorth Amgylcheddol

£29,064 - £31,022 y flwyddyn

Cyfeirnod personel:
25-28895
Teitl swydd:
Gwasanaeth Tan ac Achub - Swyddog Cymorth Amgylcheddol
Adran:
Swyddi cyffredinol
Gwasanaeth:
Swyddi cyffredinol
Dyddiad cau:
22/10/2025 10:00
Cyflog:
£29,064 - £31,022 y flwyddyn
Lleoliad(au):
Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion

Hysbyseb Swydd

SWYDDOG CYMORTH AMGYLCHEDDOL

Pencadlys GTAGC, Llanelwy

Cyfnod Penodol Cytundeb 18 mis

37 awr yr wythnos

Gradd 05 NWFRS £29,064 to £31,022 y flwyddyn

 

Ar ôl mabwysiadu cynlluniau datgarboneiddio fflyd, gwresogi a phŵer gan yr Awdurdod Tân ac Achub, gwahoddir ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

Mae'r rôl hon yn cynnwys cefnogi'r Rheolwr Amgylchedd a Newid Hinsawdd wrth gyflwyno rhaglenni amgylcheddol a mentrau cydymffurfio, gan gynnwys gweinyddu'r System Rheoli Amgylcheddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at gydlynu prosiectau, yn y swyddfa ac ar y safle wrth gysylltu â thimau mewnol a rhanddeiliaid allanol.

Mae cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys casglu a dadansoddi data amgylcheddol, cefnogi cyfrifyddu carbon, cynnal y System Rheoli Amgylcheddol, a chynorthwyo gyda chynllunio a monitro prosiectau amgylcheddol. Mae'r rôl hefyd yn cefnogi'r gwaith o weithredu Siarter Teithio Iach Gogledd Cymru ac mae'n cynnwys mynychu cyfarfodydd perthnasol ac ymweliadau safle ar draws ardal y Gwasanaeth.

Ariennir y swydd hon am 18 mis. Yn amodol ar argaeledd cyllid yn y dyfodol ac angen sefydliadol, efallai y bydd cyfleoedd i ymestyn neu wneud y rôl yn barhaol, ond ni ellir gwarantu hyn.

Am ragor o fanylion am y rôl, cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person. Os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas â'r swydd wag hon, cysylltwch â Tim Christensen ar 07342716655.

Am fwy o wybodaeth: Swyddi Gwag - Recriwtio - Amdanom Ni - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich ffurflen gais drwy e-bost i: recriwtio@tangogleddcymru.llyw.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 12.00, 22/10/2025

Byddwn yn glynu wrth y dyddiad cau yn llym ac ni fydd eithriadau.

Chwilio am swydd