Swyddi ar lein
Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru - Swyddog Cydymffurfiaeth
£29,064 - £31,022 y flwyddyn
- Cyfeirnod personel:
- 25-28894
- Teitl swydd:
- Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru - Swyddog Cydymffurfiaeth
- Adran:
- Swyddi cyffredinol
- Gwasanaeth:
- Swyddi cyffredinol
- Dyddiad cau:
- 27/10/2025 12:00
- Cyflog:
- £29,064 - £31,022 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
SWYDDOG CYDYMFFURFIAETH
Adran Diogelwch Tân Busnes
1 x Canol neu Ddwyrain - Conwy a Sir Ddinbych neu Sir y Fflint a Wrecsam
2 x Gorllewin – Gwynedd ac Ynys Môn
Parhaol - 37 awr yr wythnos
NWFRS Gradd 05 £29,064 i £31,022 y flwyddyn
Rydym yn awyddus i benodi tri Swyddog Cydymffurfiaeth i ddarparu a gorfodi diogelwch tân mewn busnesau ac eiddo annomestig yn ei ardal o gyfrifoldeb. Gan gynnal archwiliadau ac arolygiadau diogelwch tân o safleoedd sy'n dod o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (RR(FS)O) a deddfwriaeth berthnasol arall, bydd y Swyddog Cydymffurfiaeth yn cwblhau'r holl adroddiadau angenrheidiol, hysbysiadau cyfreithiol, recordiadau a gweinyddiaeth i wella cydymffurfiaeth â diogelwch tân.
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus sgiliau cyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i ddehongli a dadansoddi gwybodaeth gorfforol ac ysgrifenedig a darparu cyngor cywir a chlir mewn perthynas â deddfwriaeth diogelwch tân busnes. Gyda dull rhagweithiol a hunan-gymhellol, mae angen sgiliau rhyngbersonol da er mwyn datblygu perthynas waith effeithiol gydag unigolion a grwpiau mewnol ac allanol.
Yn ddelfrydol, y gallu i gyfathrebu’n hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg, ond byddwn yn ystyried ceisiadau gan unigolion sydd wedi ymrwymo i wella eu sgiliau iaith Gymraeg.
Bydd dwy o'r rôl wedi'u lleoli yn y Gorllewin sy'n cwmpasu Gwynedd a Môn gyda'r drydedd i gwmpasu naill ai ein hardaloedd Canol neu Ddwyrain. Rydym yn cynnig y gallu i ymgymryd â gweithio ystwyth, lle gallwch weithio o bell gartref, yn amodol ar argaeledd, yn ogystal â bod ar gael i weithio o leoliadau eraill Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymrwymo i ddarparu hyfforddiant, datblygiad a chyfleoedd am ddyrchafiad i’r ymgeisydd cywir. Y gobaith yw darparu datblygiad pellach i staff sy’n bodloni’r meini prawf angenrheidiol ac sy’n gallu rhoi tystiolaeth o wybodaeth ragorol o ddiogelwch tân ac ymrwymiad i gadw pobl yn ddiogel. Byddai’r cyfleoedd hyn am ddatblygiad ar gael pan fyddai’r staff wedi dangos cymhwysedd yn y swydd Swyddog Cydymffurfio a phan fo swyddi addas yn codi o fewn yr adran.
Sylwch fod y swydd hon yn amodol ar Wiriad DBS Safonol a geirdaon boddhaol. I cael mwy o fanylion am y rôl, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth.
Am fwy o wybodaeth: Swyddi Gwag - Recriwtio - Amdanom Ni - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais drwy e-bost i: hrdesk@tangogleddcymru.llyw.cymru
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais ydi hanner dydd, 27.10.2025
Byddwn yn glynu wrth y dyddiad cau yn llym ac ni fydd eithriadau.