Nodweddion personol
HANFODOL
Y gallu i weithio yn arloesol o dan bwysau ac yn medru ysgogi staff ar bob lefel.
Y gallu i weithio tŷ allan i oriau gwaith arferol
DYMUNOL
Hyblyg o fewn darpariaeth a meysydd gwaith
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
HANFODOL
Gradd Amgylcheddol
DYMNUOL
Gradd Uwch Amgylcheddol a/neu gymhwyster proffesiynnol perthnasol
Profiad perthnasol
HANFODOL
Profiad o agweddau amgylcheddol perthnasol i’r amgylchfyd adeiladol yn enwedig yn faes peirianeg sifil
DYMUNOL
Profiad o reoli systemau ryheolaethol ariannol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
HANFODOL
Profiad o weithredu o fewn deddfwriaeth amgylcheddol cenedlaethol ac ewropeiaidd.
Profiad helaeth o rheoli prosiectau.
DYMUNOL
•Gallu i flaenoriaethau gwaith o fewn rhaglenni
Anghenion ieithyddol
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).