CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cefndir addysgol gadarn
Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus
DYMUNOL
Cymhwyster ECDL neu cyfatebol
Hyfforddiant Technoleg Gwybodaeth ar sut i ddefnyddio bas data, taenlenni a systemau technoleg gwybodaeth perthnasol
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio o fewn y sector gyhoeddus
Profiad helaeth o ddefnyddio systemau technoleg e.g RAISE/WCCIS
Profiad o weithio gyda systemau electronig a chofnodion electroneg
DYMUNOL
Profiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol
Profiad o weithio ar y cyd â phartneriaid / budd-ddeiliaid o sefydliadau eraill
Profiad o waith dadansoddi data
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu defnyddio pecynnau meddalwedd Microsoft Office
Ymwybyddiaeth o’r Ddeddf Diogelu Data
DYMUNOL
Sgiliau hwyluso a hyfforddi
Ymwybyddiaeth o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Person hunan-gymhelliol sydd hefyd yn medru ennyn brwdfrydedd timau ac unigolion
Gallu cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn effeithiol a graenus gydag amrediad o fudd-ddeiliaid
Person sy’n drefnus a sy’n medru cynllunio gwaith a threfnu amser yn effeithiol
Llygaid am fanylder ond hefyd gyda’r gallu i weld y darlun mawr
Sgiliau datrys problemau
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu Dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno Gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi’i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er meyn cyflawni’r swydd.
Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu Gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni’r swydd.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno Gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnoleg ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu Gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosibl cael Cymorth i wirio’r iaith).