Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cyfrannu at gynnal priffyrdd drwy arolygu cyflwr priffyrdd ac i ymateb i unrhyw ddiffygion a amlygwyd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Unrhyw offer, cerbyd, beiriant neu nwyddau sy’n ymwneud â’r dyletswyddau a nodwyd.
Prif ddyletswyddau
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
•Cyfranogi mewn trefn ar-alwad tu allan i oriau gwaith.
•Dyletswyddau eraill sy’n berthnasol i’r swydd, yn ôl y galw gan y rheolwr llinell.
•Bod yn rhan o’r broses rheoli a monitor perfformiad yn unol â gofynion y swydd.
•Cyfrannu at ddarparu gwasanaeth cynnal priffyrdd, effeithiol, effeithlon ac economaidd gydag ystyriaeth penodol i’r canlynol:
•ymgymryd â archwiliadau safonol o rwydwaith priffyrdd yn unol â llawlyfrau, manyldebau a Côd Ymarfer priodol
•ymchwilio i unrhyw gwyn neu ymholiad yngly^n â chyflwr y priffyrdd, gan gynnwys cyswllt gyda perchnogion tir, Cynghorau Cymuned, awdurdodau eraill a’r cyhoedd
•archwiliadau eraill fel bo angen
•paratoi gwybodaeth mewn modd safonol i ddiweddaru system rheoli asedau y Gwasanaeth
•paratoi gwybodaeth a chofnodion perthnasol yn amserol ac yn unol â systemau sefydlog yr Uned (i gyd fynd gyda gofynion Sicrwydd Ansawdd)
•arolygu gwaith contractwyr allanol fel bo’r angen.
Amgylchiadau arbennig
•Bydd angen gweithio tu allan i oriau gwaith i ymateb i anghenion y gwasanaeth a digwyddiadau argyfwng.