skip to main content
header_main

Manylion

Cartref > Trigolion > Swyddi > Swyddi ar lein > Manylion swydd

Swyddi ar lein

Ymarferydd Gofal Cymdeithasol – Cydlynydd Plant sydd Ar Goll o’r Cartref - Cyngor Sir Ddinbych

£32,654 - £35,235 y flwyddyn

Cyfeirnod personel:
25-28719
Teitl swydd:
Ymarferydd Gofal Cymdeithasol – Cydlynydd Plant sydd Ar Goll o’r Cartref - Cyngor Sir Ddinbych
Adran:
Swyddi cyffredinol
Gwasanaeth:
Swyddi cyffredinol
Dyddiad cau:
01/09/2025 10:00
Cyflog:
£32,654 - £35,235 y flwyddyn
Lleoliad(au):
Gogledd Cymru

Manylion

Hysbyseb Swydd

SWYDD CYNGOR SIR DDINBYCH

 

Ymarferydd Gofal Cymdeithasol - Cydlynydd Plant sydd ar goll o’r Cartref (1 Cymraeg Hanfodol, 1 Cymraeg Dymunol)

 

Cyfeirnod y swydd: RHSC00007E5LDE

Lleoliad: Gogledd Cymru

Cyflog: Gradd 7, £32,654 - £35,235 y flwyddyn (yn amodol ar werthusiad swydd)

Oriau: 37 yr wythnos

Contract: cyllid i ddechrau tan ddiwedd mis Rhagfyr 2026, ond fe allai gael ei ymestyn petai cyllid pellach yn cael ei sicrhau

 

 

Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer secondiad gael caniatâd eu Rheolwr cyn ymgeisio am y swydd.

Ydych chi’n eiriolwr angerddol a dygn dros newid? Rydym ni’n chwilio am ddau Gydlynydd Plant sydd ar goll o’r Cartref i ymuno â chynllun peilot newydd arloesol, yn rhan o Gydweithdrefa Gwella Gwasanaethau Gogledd Cymru. Nid swydd arall yn unig yw hon; ond mae’n gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant sydd ar goll ac sydd wedi cael eu hecsbloetio. Fe fyddwch chi’n rhan allweddol o lywio a gweithredu dull cyson ar draws y rhanbarth i arferion plant sydd ar goll o’u cartref, gan weithio law yn llaw gyda’r chwe Awdurdod Lleol a Heddlu Gogledd Cymru.

Fe fydd eich swydd yn un brysur, amrywiol a buddiol. Fe fyddwch yn gatalydd ar gyfer trawsnewid, gan ddarparu cefnogaeth hollbwysig i’n partneriaid i yrru newid systemig ar draws yr Heddlu a Gofal Cymdeithasol.  Os ydych chi’n angerddol am ddarparu newid ystyrlon, yn gydweithredol eich natur, ac os oes gennych chi sgiliau cyfathrebu rhagorol, rydym ni eisiau clywed gennych chi.   Byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm amrywiol o ymarferwyr aml asiantaeth, a bydd pawb wedi ymrwymo i lwyddiant y cynllun peilot hollbwysig yma. 

Mae’r penodiad yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, geirdaon boddhaol a phroses wirio Heddlu Gogledd Cymru. 

Mae angen gwiriad llawn Lefel 2 NPPV ar gyfer y swydd hon. Yn rhan o’r broses wirio, bydd y gwiriadau canlynol yn cael eu cynnal ar ymgeiswyr:

  • Gwiriadau cofnodion troseddol drwy Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.
  • Gwiriadau gwybodaeth drwy Gronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu, yn cynnwys gwybodaeth nad yw’n euogfarn. Fe fydd cyd-breswylwyr a thrydydd parti y gofynnir amdanynt ar y ffurflen gais wirio hefyd yn destun gwiriadau ac asesiadau system.
  • Gwiriadau ariannol, yn cynnwys hanes credyd, methdaliadau, ac Achosion Cyfreithiol yn y Llys Sirol.
  • Ffordd o fyw ac asesiadau cysylltiedig i werthuso unrhyw risgiau posibl i onestrwydd.
  • Statws preswyl - rhaid i ymgeiswyr fod wedi bod yn byw yn y DU am o leiaf tair blynedd yn barhaus yn arwain at y pwynt o ymgeisio.
  • Gwrth-derfysgaeth - yn gysylltiedig ag eithafiaeth ddomestig.
  • Y Gofrestr Etholiadol - i gynorthwyo i wirio cyfeiriad ar gerdyn adnabod.

Mae angen y lefel yma o wiriad heddlu ar gyfer unigolion nad ydynt yn swyddogion heddlu, ond sydd angen mynediad at wybodaeth sensitif neu amgylcheddau yr heddlu.

Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swydd, ffoniwch Sharon Hinchcliffe ar 07500 127 723

Am fwy o wybodaeth ag os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ein ffurflen gais i gael ei ystyried. Mae’n ddrwg gennym nad ydym yn gallu ateb pob cais. Os nad ydych wedi derbyn ateb o fewn tair wythnos i’r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad.

 

Dyddiad Cau: 01/09/2025

Chwilio am swydd