Pwrpas y swydd
Bwriad y gwasanaeth:
•Cefnogi unigolion ag anableddau dysgu i fyw bywydau llawn yn y modd maent eisiau ei fyw, cefnogi i ddatblygu sgiliau a sicrhau cyfleoedd i fod yn rhan o’u cymuned.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol â threfniadau diogelu'r Cyngor a chyfrifoldebau Statudol. Bydd disgwyliad I I gydymffurfio a holl ofynion Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol(Cymru) 2016 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
•Sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol â threfniadau diogelu'r Cyngor a chyfrifoldebau Statudol. Bydd disgwyliad I I gydymffurfio a holl ofynion Deddf Gofal 2016.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Cynorthwyo’r rheolwr i sicrhau’r isod;
•Cyfrifoldeb am reoli staff a chyllid y gwasanaeth yn effeithiol.
•Cyfrifoldeb i sicrhau fod adnoddau, offer a chyfarpar a ddefnyddir mewn cyflwr da ac addas i bwrpas.
•Cyfrifoldeb am yr adeilad.
Prif ddyletswyddau
•Arwain a gweithredu ar ddarparu gwasanaethau person canolog.
•Dilyn ethos Cefnogaeth Weithgar (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Active support <https://www.bild.org.uk/wp-content/uploads/2020/06/What-is-Active-Support.pdf>) a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Positive Behaviour Support <https://www.youtube.com/watch?v=epjud2Of610>), sydd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gydag unigolion a hyrwyddo eu hannibyniaeth.
•Cefnogi unigolion i gymeryd rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau am ofal a chefnogaeth yn eu bywyd.
•Dilyn polisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol i adnabod, cofnodi, adrodd a chymryd rhan mewn protocolau diogelu oedolion bregus.
•Cefnogi’r rheolwr i sicrhau fod y gwasanaeth yn cydymffurfio gydag holl ofynion safonau Gofal 2000.
•Cydweithio gyda dinasyddion a’u gofalwyr i adnabod ‘Beth sy’n bwysig iddynt’ a dod o hyd i ffyrdd i gwrdd ag amcanion personol.
• Grymuso llais yr unigolyn. Cefnogi unigolion i gael cefnogaeth adfocatiaeth.
•I weithredu a’r deddfau perthnasol (e.e. Iechyd a Diogelwch, Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) a sicrhau eu bod yn cadw atynt
•Bydd rhaid cofrestru gydag CGC
•Ymrwymo i Gòd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol
•Cynorthwyo’r rheolwr mewn archwiliadau a chyd weithio gyda CIW gan ymateb ag gweithredu ar yr hyn a ddaw i sylw
ARWAIN A RHEOLI – Cynorthwyo’r rheolwr i gefnogi rhwng 30 a 50 o staff,
•Arwain y tîm, i berchnogi egwyddorion ffordd Gwynedd, ac i hyrwyddo ac annog llesiant staff
•Cefnogi i oruchwylio, gwerthuso, rhoi arweiniad, ysgogi a chynghori staff i weithio fel tîm, ac i ddilyn canllawiau a pholisiau’r Cyngor, i sicrhau y gorau i bobl Gwynedd.
•Delio a materion disgyblu mewn ymgynghoriad gyda swyddog personnel.
•Arwain ar recriwtio a phenodi staff addas ar gyfer y gwasanaeth, a sicrhau dadleniad DBS priodol
•Sicrhau fod y gwasanaeth yn gydymffurfio gyda pholisiau andoddau dynol.
•Delio gyda chwynion a chanmoliaethau, gan arwain a chynorthwyo’r broses ymchwilio.
•Cyfrifoldebau Rheolwr Safle, Iechyd a Diogelwch y gwasanaeth
•Gynorthwyo gyda chyfrifoldebau am gylllid y gwasnaeth
•Sicrhau bod ansawdd y gwasanaeth yn cwrdd â’r safonau a osodir
•Cyfathrebu yn agored gydag asiantaethau, teuluoedd a phobl proffesiynol
•Cyd weithio ar ddatblygu polisiau a gweithredfnau ac adolygu polisiau perthnasol i’r gwasanaeth.
•Cydgysylltu gydag asiantaethau eraill ar ran yr Adran. Hybu gweithio mewn partneriaeth gyda defnyddwyr gwasanaeth, asiantaethau eraill ee awdurdod iechyd, a trydydd sector.
•Cynorthwyo’r rheolwr i gynhyrchu gwybodaeth ac adroddiadau am berfformiad gwaith y tîm.
•Rhoi barn broffesiynol i eraill o fewn y gwasanaeth ar achosion.
•Cyfrannu at hyfforddiant mewn swydd, ac at weithgareddau hyfforddi fel bo’n briodol.
Cyfrifoldebau eraill
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gall y swydd olygu gweithio oriau anghymdeithasol tu allan i oriau swyddfa arferol ar adegau.
•Bydd angen cwblhau DBS, a chofrestru gyda Cyngr Gofal Cymru.