Swyddi ar lein
Arweinydd Tim Cyswllt Cwsmer
£30,559 - £32,654 y flwyddyn | Dros dro
- Cyfeirnod personel:
- 25-28495
- Teitl swydd:
- Arweinydd Tim Cyswllt Cwsmer
- Adran:
- Gwasanaethau Corfforaethol
- Gwasanaeth:
- Cyswllt Cwsmer a Chofrestru
- Dyddiad cau:
- 23/06/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro blwyddyn | 37 Awr
- Cyflog:
- £30,559 - £32,654 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S2
- Lleoliad(au):
- Adeilad Canolfan Cyswllt Cwsmer Penrhyndeudraeth
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Joanne Parry ar 01286 679684 neu drwy e-bost: joanneparry@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 23/06/2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cefndir addysgol gadarnDYMUNOL
Addysg i safon Uwch
Cymhwyster Arwain neu Reoli priodol, neu o leiaf tair blynedd o brofiad.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Y profiad a’r hyder i arwain a datblygu tîm o staff yn effeithiol, gan gynnwys ymdrin â materion staffio cymleth.DYMUNOL
Profiad o ddarparu gwasanaethau gofal cwsmer
Profiad o sefydlu a datblygu gwasanaethau newydd
Profiad o weithio yn y rheng flaen
Profiad o ddarparu cefnogaeth glerigol a gweinyddol
Profiad o gasglu, trefnu a rheoli gwybodaeth
Profiad o ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid
Profiad o ymdrin â chwynion, gwrthdaro ac ymholiadau cymhleth a sensitif
Profiad o ddefnyddio systemau cyfrifiadurol a chefnogi staff eraill i’w defnyddio.
Profiad o ddarparu gwasanaeth sydd yn rhoi’r cwsmer yn gyntaf
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Ymwybyddiaeth o’r cyfleon y mae technoleg yn ei gynnig i wella darpariaeth gwasanaeth
Medru defnyddio cyfrifiadur
Yn rhifog ac yn llythrennog
Y gallu i awgrymu a chefnogi gwelliannau i wasanaethau
Y gallu i ddysgu ffyrdd newydd ac arloesol o weithio
Y gallu i ddarparu cyngor a gwybodaeth yn glir ac yn gryno
Y gallu i ymateb i sefyllfaoedd ac ymholiadau yn gyflym gan ddangos hyblygrwydd
Yn barod i gymryd cyfrifoldeb am ansawdd y gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig
Yn gallu ac yn fodlon i weithio i safonau a gytunwyd
Yn wrandäwr da
Y gallu i ddefnyddio systemau swyddfa, pecynnau cymhwyso i wasanaethau penodol, y fewnrwyd a rhyngrwyd
Sgiliau bysellfwrdd daDYMUNOL
Y gallu i ddefnyddio unrhyw dechnoleg berthnasol arall
Yn meddu ar sgiliau gweinyddol a chyfundrefnol o’r radd flaenaf
Y gallu i echdynnu gwybodaeth o lawlyfr ac o systemau cyfrifiadurol
Y gallu i flaenoriaethu tasgau personol a rhai’r tîm.
Y gallu i ymateb i adborth gan staff a chwsmeriaid mewn ffordd adeiladol.
Y gallu i ymdrin â chwynion yn effeithiol a gwella safonau’r gwasanaeth a thargedau.
Y gallu i ddefnyddio technoleg gwybodaeth a theleffon.
Y gallu i weithio fel unigolyn ac fel rhan o dîm.
Y gallu i ddatblygu syniadau creadigol ac arloesol.
Dealltwriaeth o egwyddorion cyfleoedd cyfartal.
Ymwybyddiaeth o anghenion gwahanol gwsmeriaid e.e. anabledd neu drafferthion ieithyddol.
Y gallu i hwyluso a gwerthuso anghenion hyfforddi a datblygu’r staff.
Y gallu i ganolbwyntio ar anghenion cwsmeriaid, ac i bennu datrysiadau addas i sicrhau boddhad cwsmeriaid.
Y gallu i weithio o dan bwysau, ymdopi mewn sefyllfaoedd anodd ac i weithredu a darparu gwasanaeth mewn modd proffesiynol bob tro.
Gwybodaeth o sut mae Awdurdodau Lleol neu unrhyw Gyfundrefn fawr arall yn gweithredu.
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig, o’r radd flaenaf
Egni, brwdfrydedd, ymroddiad a dyfalbarhad
Gallu defnyddio a dehongli gwybodaeth yn gywir
Y gallu i weld anghenion o safbwynt y cwsmer.
Y gallu i ennyn cydweithrediad ac ymddiriedaeth cydweithwyr
Y gallu i weithio fel rhan o dîm a chefnogi ac annog cydweithwyr
Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol da
Y gallu i addasu, a derbyn newidiadau
Yn talu sylw i fanylder ac yn ymroddedig er mwyn sicrhau gwasanaeth o’r ansawdd gorau
Yn bendant, cwrtais, diplomyddol, parchus a sympathetig
Yn hyblyg
Yn meddu ar record bresenoldeb a phrydlondeb da
Y gallu i ddysgu o brofiadau
Yn meddu ar sgiliau amlorchwyl, cadw amser, a blaenoriaethu
Yn cyflwyno delwedd bositif i’r cwsmer
Yn gallu datrys problemau
Yn meddu ar synnwyr digrifwch
Yn daclus bob amser
Y gallu i gydweithio gyda budd-ddeiliaid mewnol ac allanol.
Yn meddu ar sgiliau rhyngweithio gwych a’r gallu i ffurfio a chynnal perthnasau gweithio.DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Rheolaeth llinell tîm o hyd at 20 o staff Canolfannau Cyswllt Cwsmer yn eu rôl.
• Yn gyfrifol am fonitro ansawdd gwaith sy’n cael ei ddarparu yn ein Canolfannau Cyswllt Cwsmer.
• Cydweithio gydag Arweinyddion Tîm y Gwasanaeth Cyswllt Cwsmer a Chofrestru er mwyn sicrhau fod lefelau staffio digonol i gynnal y Gwasanaeth.
• Monitro datblygiad tîm o staff er mwyn sicrhau bod ganddynt yr agwedd, gallu, hyder a sgiliau priodol er mwyn cyrraedd eu potensial i wasanaethu Pobl Gwynedd
• Arwain yn weladwy yn y gwaith er mwyn ysbrydoli a dangos esiampl.
• Hyrwyddo diwylliant o safon uchel gyda phwyslais ar ganlyniadau positif i’n cwsmeriaidCyfrifoldeb am Adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Yn gyfrifol am reolaeth llinell hyd at 20 o staff o ddydd i ddydd, ond hyd at 40 yn ystod absenoldebau’r Arweinydd Tîm Perfformiad
• Arwain a rheolaeth llinell tîm o staff sy’n gweithio ar draws sawl lleoliad (Canolfannau Cyswllt Cwsmer)
• Cynorthwyo’r Rheolwr Safle/Rheolwr Gwasanaeth gyda dyletswyddau diogelwch adeilad, cynnal a chadw, gofynion rheoliadau tân, ayyb, offer a deunyddiau.
Prif Ddyletswyddau
• Cynorthwyo’r Rheolwr Cyswllt Cwsmer i sicrhau fod pawb o fewn y Tîm Cyswllt Cwsmer yn perchnogi egwyddorion Ffordd Gwynedd
• Adnabod ac adrodd am unrhyw risgiau parhad gwasanaeth.
• Cyfarwyddo, goruchwylio a gwerthuso llif gwaith Cynghorwyr Cwsmer.
• Sicrhau fod y wybodaeth sydd yn cael ei ddarparu gan y Gwasanaeth at ddibenion darparu gwasanaethau yn cael ei ddiweddaru’n brydlon, ei gynnal a’i ddatblygu.
• Sicrhau fod Gwasanaethau yn delio â’r ymholiadau a gyfeirir atynt o fewn amserlen a gytunir a bod achosion sy’n methu’r amserlen yn cael eu dilyn fyny er mwyn osgoi problemau bodlonrwydd cwsmer.
• Sicrhau bod yr holl dîm yn diweddaru’r system CRM ac unrhyw gronfeydd data angenrheidiol eraill yn brydlon gan sicrhau cywirdeb.
• Sicrhau bod staff yn cael eu gwerthuso yn barhaus drwy gynnal cyfarfodydd 1 i 1 rheolaidd a gweithredu ar unrhyw faterion sy’n deillio o’r cyfarfodydd hyn.
• Sicrhau bod y wybodaeth sydd ei angen er mwyn profi pa mor dda yr ydym yn cyflawni’r hyn sy’n bwysig i’r cwsmer yn cael ei gadw.
• Cynorthwyo’r Rheolwr i sicrhau fod y tîm yn cyfrannu at amcanion y gwasanaeth Cyswllt Cwsmer, a gwasanaethau neu sefydliadau eraill sy’n ceisio cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
• Delio gyda materion staffio o’r cychwyn i’r diwedd.
• Cefnogi staff i geisio datrys ymholiadau a chwynion cymhleth
• Delio gyda chwynion gan ymdrin â’u datrys drwy ddefnyddio’r prosesau perthnasol.
• Cynorthwyo gyda chyrraedd safonau gwasanaeth, cytundebau lefel gwasanaeth a chydymffurfio â deddfwriaethau.
• Hyfforddi staff fel bod angen ym mhrosesau gwaith Cyswllt Cwsmer.
• Sicrhau fod lefelau staffio digonol ar draws ein Canolfannau Cyswllt Cwsmer
• Hybu’r tîm i dderbyn adborth gan gwsmeriaid mewnol ac allanol er mwyn cynnal gwelliannau parhaus yn narpariaeth ein Canolfannau Cyswllt Cwsmer.
• Gweithredu ar rwystrau sy’n cael eu hadrodd ac uchafu rhai na ellir eu datrys i’r Rheolwr Gwasanaeth
• Gwneud yn siŵr fod gan gwsmeriaid di-gymraeg a di-saesneg fynediad at holl wasanaethau’r Cyngor a sicrhau fod problemau yn cael eu hadnabod ac yn cael sylw prydlon.
• Adrodd am unrhyw broblem safonau / rhwystrau i’r Rheolwr Cyswllt Cwsmer
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.• Bydd angen i ddeilydd y swydd fynychu cyfarfodydd gyda’r nos ac oddi allan i Wynedd o bryd i’w gilydd a gweithredu fel rhan o dim yn ymateb i argyfyngau sifil, yn unol a chynllun y Cyngor
• Wrth i’r Cyngor ail-ystyried oriau gwasanaeth, fe allasai hyn effeithio ar oriau gwaith y swydd hon
• Meddu ar drwydded yrru llawn a dilys a meddu ar gar