Swyddi ar lein
Cymhorthydd Cefnogol Lefel 3
Gweler Hysbyseb Swydd | Dros dro 31/08/2026
- Cyfeirnod personel:
- 25-28476
- Teitl swydd:
- Cymhorthydd Cefnogol Lefel 3
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Ysgolion
- Dyddiad cau:
- 23/06/2025 12:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/08/2026 | 32.5 Awr
- Cyflog:
- Gweler Hysbyseb Swydd
- Gradd tâl:
- GS4
- Swydd tymor ysgol:
- 39 Wythnos
- Lleoliad(au):
- Ysgol Brynrefail, Llanrug
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG
(Gyfun 11 – 18 oed, 771 o ddisgyblion)Yn eisiau: Medi 1af, 2025
UWCH GYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 3
Cytundeb blwyddyn
Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos.
(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a’r sgiliau addas. Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am gefnogi disgyblion gyda’u gwaith a’u presenoldeb - gweler y swydd ddisgrifiad yn y pecyn hysbysebu am ragor o fanylion.
Mae’r swydd hon yn ran o gynllun Cynyddu Capasiti’r Gweithle Cyfrwng Cymraeg gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn chwilio am berson sydd wedi graddio eleni neu’n ddiweddar, ac sydd yn dymuno gweithio mewn amgylchedd ysgol am flwyddyn gyda’r posiblrwydd o ddilyn cwrs i gymhwyso’n athro y tu draw i hynny.
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (sef £19,347 - £20,620) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i’w cyflwyno i’r Rheolwr Busnes a Chyllid, Mrs Angharad Parry Davies, Ysgol Brynrefail, Ffordd Crawia, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AD. Rhif ffôn: 01286 672381; e-bost : sg@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru
Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD LLUN, 23AIN o FEHEFIN, 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
TEITL Y SWYDD: Uwch Gymhorthydd Cefnogaeth Dysgu (Lefel 3)
YSTOD CYFLOG: Graddfa Gweithwyr Llywodraeth Leol – GS4 (pwyntiau 7-11)
AMODAU GWAITH: Yn unol ag amodau gwaith Cenedlaethol ac atodol lleol Cyngor Gwynedd ar gyfer staff GPT ac Ch a gweithwyr llaw.Dyddiau Gwaith: Llun i Gwener
Oriau Gwaith arferol: 32.5 awr yr wythnos
(08:35-15:35 gyda 30 munud di-dal i ginio)
39 wythnos y flwyddyn (yn cynnwys dyddiau hyfforddaint mewn swydd)
Rhybydd Gadael: Yn ysgrifenedig mis ymlaen llaw
Yn Atebol I: Uwch Dim Rheoli
Rheolwr Busnes - o ran y cyflenwi/arolygu arholiadau.
PWRPAS Y SWYDD
Gweithio dan arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli'r ysgol o fewn cyfundrefn gytûn o oruchwyliaeth.
Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu. Gallai hyn gynnwys y rhai sydd angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol.
Cyfrannu at gylch cynllunio’r athro er mwyn sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i ddysgu.
Yn achlysurol, goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb tymor byr yr athro/athrawes. Prif ffocws cyflenwi o’r fath fydd ymateb i gwestiynau, cynorthwyo disgyblion i ymgymryd â gweithgareddau a osodwyd ac aros ar y dasg a chynnal trefn.PRIF DDYLETSWYDDAU
Cefnogaeth i Ddisgyblion
Pan na fydd angen arolygu dosbarthiadau (a/neu arholiadau), bydd disgwyl i’r Uwchgymhorthydd gefnogi disgyblion.
Bydd amserlen wythnosol parod ar gael ar gyfer yr Uwch Gymhorthydd.
Fe adolygir yr amserlen yn rheolaidd yn unol â gofynion yr ysgol.
Bydd cefnogi yn digwydd gyda dosbarthiadau cyfan (gyda’r athro/awes arferol), gyda grwpiau bach a/neu gydag unigolion yn unol â rhaglen waith wedi ei chytuno â’r athrawon perthnasol a/neu’r rheolwr llinell.
Bydd angen adrodd yn ôl ar gynnydd y disgyblion i’r athrawon perthnasol ac i’r rheolwr llinell.
Canolbwyntir y cefnogi ar agweddau yn ymwneud yn bennaf a sgiliau llythrennedd, rhifedd a thechnoleg gwybodaeth mewn cyd-destun y pynciau ysgol a hefyd agweddau o ymddygiad a sgiliau cymdeithasol.
Defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol (cwricwlaidd/dysgu) i gefnogi disgyblion.
Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu CAU (IEPs) a CYU(IBPs).
Sefydlu perthynas weithio bwrpasol gyda’r disgyblion ac ennyn disgwyliadau uchel.
Hybu cynhwysiad a derbyniad pob disgybl o fewn y dosbarth.
Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion a gweithredu rhaglenni personol perthynol, yn cynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledau, bwydo a symudoledd.
Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â’r gweithdrefnau polisïau yr AALL ac ysgolion.
Cefnogi disgyblion yn gyson gan adnabod ac ymateb i’w hanghenion unigol.
Annog disgyblion i ryngweithio a chydweithio gydag eraill.
Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau ar gyfer adnabod a gwobrwyo cyflawni hunanddibyniaeth.
Targedu ac adolygu presenoldeb disgyblion
Darparu adborth effeithlon i ddisgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad, yn cynnwys ymddygiad a phresenoldeb.Goruchwyliwr/Goruchwylwraig Arholiadau
Arolygu arholiadau mewnol ac allanol fel bo’r gofyn.Goruchwyliwr Cyflenwi/Goruchwylwraig Gyflenwi
Cofrestru a chofnodi presenoldeb myfyrwyr mewn gwersi.
Cyfarwyddo myfyrwyr ynghylch y gwaith a adawyd gan eu hathro/hathrawes.
Darparu’r adnoddau angenrheidiol i’r myfyrwyr ar gyfer eu dysgu.
Sicrhau yr eir i mewn i’r dosbarthiadau ac y deuir allan ohonynt yn drefnus.
Creu amgylchedd tawel a phwrpasol lle gall disgyblion gwblhau gwaith a osodwyd gan yr athro dosbarth.
Rheoli ymddygiad y disgyblion a chadw trefn yn y dosbarthiadau yn unol â pholisïau a chanllawiau’r ysgol.
Cyfathrebu â’r Pennaeth Blwyddyn berthnasol o safbwynt monitro ac adrodd ar faterion bugeiliol a/neu ymddygiad.
Dilyn cyfundrefnau a gweithdrefnau ysgol ar reoli ymddygiad.
Rheoli adnoddau’n effeithlon a sicrhau y gadewir dosbarthiadau’n daclus ac yn barod ar gyfer y wers nesaf.
Casglu unrhyw waith a gwblhawyd ar ôl y wers a’i ddychwelyd i’r athro priodol.
Cysylltu â’r athro/athrawes mewn perthynas â gwaith cyflenwi.
Cydweithio â’r rheolwr cyflenwi dyddiol yr ysgol ynglŷn ag amserlen arolygu ddyddiol.
Cefnogaeth i’r Cwricwlwm wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb athro/athrawes.
Casglu banc o waith goruchwylio mewn cysylltiad ag aelodau perthnasol y staff addysgu.Cefnogaeth i’r Athro/Athrawes
Gweithio gyda’r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chynhaliol.
Gweithio gyda’r athro/athrawes i gynllunio gwersi, gwerthuso ac addasu gwersi/cynlluniau gwaith fel y bo’n briodol.
Monitro a gwerthuso ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu drwy arsylwi a chofnodi cyflawniad yn erbyn nodau dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
Darparu cefnogaeth glerigol/weinyddol gyffredinol, e.e. gweinyddu gwaith cwrs, cynhyrchu taflenni gwaith at gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt.
Darparu adborth llafar ac ysgrifenedig i’r athro/athrawes ar gynnydd a chyflawniad disgyblion.
Fel y cytunwyd gyda’r athro/athrawes, bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion. Cyfrannu at arolwg o gyfundrefnau cadw cofnodion yr ysgol fel bo'r gofyn. Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
Gweithredu gweithgareddau dysgu a rhaglenni addysgu y cytunwyd arnynt.
Gweithredu rhaglenni cysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd, TGaCh.
Gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygu sgiliau perthnasol.
Cefnogi’r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion wrth ei ddefnyddio.
Cynorthwyo disgyblion i gael mynediad i weithgareddau dysgu drwy gefnogaeth arbenigol.
Pennu’r angen am offer ac adnoddau cyffredinol ac arbenigol, eu paratoi a’u cynnal a’u cadw.Cefnogaeth i’r Ysgol
Bod yn ymwybodol o’r polisïau a’r gweithdrefnau perthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeled, cyfrinachedd ac amddiffyn data, a chydymffurfio â hwy, gan adrodd am bob pryder wrth y person priodol. Dylai hyn hefyd, ar gyfer goruchwylwyr cyflenwi, gynnwys rheoli ymddygiad.
Cyfrannu at ethos/ waith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
Sefydlu perthynas bwrpasol a chyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill, mewn cysylltiad â’r athro/athrawes, i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chyfranogi ynddynt.
Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo’n ofynnol.
Adnabod cryfderau a meysydd arbenigedd yr hunan a defnyddio’r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
Darparu arweiniad a goruchwyliaeth briodol a chynorthwyo yn hyfforddiant a datblygiad staff cynhaliol eraill fel y bo’n briodol.
Ymgymryd â goruchwylio cynlluniedig o weithgareddau dysgu’r disgyblion y tu allan i oriau ysgol.
Goruchwylio’r disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i’r ysgol.
Mae’r ysgol yn cynnal rhaglen gyfoethog o weithgareddau a disgwylir i’r Uwch Gymhorthydd gefnogi’r rhaglen yn rheolaidd.Datblygiad Cyfatebol Eraill
Yn achlysurol bydd angen ymgymryd â dyletswyddau eraill ar gais y Pennaeth.DATBLYGIAD PROFFESIYNOL A HYFFORDDIANT MEWN SWYDD
Mae’r ysgol yn cefnogi datblygiad proffesiynol pob aelod o’r staff drwy raglen o hyfforddiant mewn swydd.
Bydd hyfforddiant ar gael i’r Uwch Gymhorthydd drwy’r dulliau canlynol yn bennaf:
mynychu cyrsiau sirol
mynychu cyrsiau mewnol yn yr ysgol
cysgodi a chyd-weithio â staff eraill
mentora gan y rheolwr llinellDyletswyddau Penodol Eraill
Cydymffurfio â pholisi iechyd a diogelwch yr ysgol ac asesiadau risg yn ôl y gofyn.Sylwer:
Tra bod pob ymdrech wedi’i gwneud i esbonio prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd, efallai nad yw pob tasg unigol wedi’i nodi.
Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn ffurfio rhan o gytundeb cyflogaeth.
Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan reolwr i ymgymryd â gwaith o lefel debyg nad yw wedi’i nodi yn y swydd ddisgrifiad hon.
Bydd yr ysgol yn gwneud pob ymdrech i gyflawni unrhyw addasiadau rhesymol i’r swydd a’r amgylchfyd gwaith i alluogi mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer ymgeiswyr anabl neu gyflogaeth barhaol ar gyfer cyflogai sy’n datblygu cyflwr sy’n anablu.
Mae’r swydd ddisgrifiad yn gyfredol ar y dyddiad a ddangosir, ond yn dilyn ymgynghori â chi, gellir ei newid gan reolwr er mwyn adlewyrchu neu ragweld newidiadau yn y swydd sy’n gymesur â’r cyflog/lwfans a theitl y swydd.