Swyddi ar lein
Athro / Athrawes Mewn Gofal Gwasanaeth Cynhwysiad x 2
Gweler Hysbyseb Swydd | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 25-28469
- Teitl swydd:
- Athro / Athrawes Mewn Gofal Gwasanaeth Cynhwysiad x 2
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad
- Dyddiad cau:
- 26/06/2025 12:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol
- Cyflog:
- Gweler Hysbyseb Swydd
- Swydd tymor ysgol:
- 39 Wythnos
- Lleoliad(au):
- Amrywiol
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
ADDYSG - ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD
Yn eisiau: Cyn gynted â phosib
Athro/Athrawes Mewn Gofal – Gwasanaeth Cynhwysiad
Lleoliad Arfon
Lleoliad Meirion/Dwyfor
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i ymuno a thîm ymroddgar ac eginol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a’r sgiliau addas i gefnogi disgyblion ag anawsterau ymddygiadol ,cymdeithasol ac emosiynol.
Mi fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion ar draws Gwynedd mewn ysgolion a chanolfannau. Byddai profiad o gefnogi disgyblion yn y maes cynhwysiad yn fanteisiol. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig i’r ymgeiswyr llwyddiannus.
Mae lleoliadau’r swydd yn amrywio oddi fewn Gwynedd a bydd gofyn i'r ymgeisydd deithio i ardaloedd eraill yn achlysurol.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Mae’r adran yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944) ynghyd â lwfans Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu CAD2 a lwfans Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ôl profiad a chymhwyster
Am sgwrs anffurfiol a manylion pellach am y swydd gellir cysylltu â Deio Brunelli Pennaeth Ganolfannau Cyfeirio Disgyblion ar rif ffôn 01286 679007.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.
DYDDIAD CAU: 12 O’R GLOCH, DYDD IAU, 26 MEHEFIN 2025
Cyfweliadau i’w cynnal 03.07.2025.
This is an advertisement for the post of an Inclusion Teacher in Charge for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school).
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwyr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Yn benderfynol o leihau'r bwlch i ddysgwyr bregus
Chwaraewr tîm cryf ac effeithiol
Ymroddiad llwyr i roi’r profiadau gorau i ddisgyblion - eu dysgu, eu lles, a’u diogelwch.
Yn gallu gwneud a chyfiawnhau penderfyniadau anodd a rheoli’r broses o newid yn effeithiol.
Yn cyfathrebu yn rhwydd, yn effeithiol ac yn gywir, ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Yn onest ac yn ddibynadwy, ac yn parchu cyfrinachedd.
Yn hyderus a brwdfrydig.
Yn meddu ar fedrau rhyngbersonol da.
Yn gallu cyd-weithio mewn tîm.
Yn gallu gweithio dan bwysau, gweithio’n hyblyg, a blaenoriaethu’n effeithiol.DYMUNOL
-CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Yn raddedig
▪ Statws Athro Cymwysedig
▪ Tystiolaeth o Ddysgu Proffesiynol Parhaus
▪ Dealltwriaeth o’r system addysg yng Nghymru a pholisïau Llywodraeth CymruDYMUNOL
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad llwyddiannus o addysgu
Profiad o weithio gyda disgyblion a phroblemau ymddygiadol/emosiynol
Profiad o hyfforddi a mentora
Profiad o ddatblygu, rheoli, sicrhau a gwerthuso ansawdd prosesau a mentrau i sicrhau canlyniadau daDYMUNOL
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r prif faterion a’r datblygiadau addysgol a chyfreithiol sy’n wynebu ysgolion ac awdurdodau yn y maes ADY a Chynhwysiad
Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r prif faterion ym maes / gweithdrefnau Diogelu Plant
Gwybodaeth rhagorol o addysgeg effeithiol
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth, canllawiau a pholisïau presenoldeb.
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth, canllawiau a pholisïau mewn perthynas â Gwaharddiadau
Dealltwriaeth dda o flaenoriaethau a dulliau gweithredu cyfredol sy'n ymwneud ag anghenion plant a phobl ifanc sydd yn agored i niwed
Gwybodaeth drylwyr o fframwaith adolygu Estyn
Dealltwriaeth drylwyr o reoliadau a gweithdrefnau i ddiogelu disgyblion a staff o fewn y ddarpariaeth cynnal ymddygiad
Dealltwriaeth gadarn o’r ethos a’r gwerthoedd sy’n sicrhau ysgolion cynhwysol a llwyddiannus
Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu UnigolDYMUNOL
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Sicrhau fod yr Awdurdod yn cyflawni gofynion statudol parthed sicrhau Addysg a Lles plant
Sicrhau gwasanaeth arbenigol o safon uchel ar gyfer ysgolion a Chanolfannau arbenigol i gefnogi disgyblion ystod oedran 8-16 sydd â anawsterau ymddygiadol / emosiynol
• Sicrhau fod darpariaeth Addysg i ddisgyblion sydd â anawsterau ymddygiadol / emosiynol mewn achosion o waharddiadau ayb
• Sicrhau bod gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd y gwasanaeth yn cael ei eu harddel ac yn ganolog yn niwylliant y gwasanaeth.
Byddent yn cyflawni hyn drwy:
• Dysgu a gweithredu strategaethau cytunedig o fewn safleoedd arbenigol.
• Treulio cyfnodau ar lawr dosbarth yn arsylwi, modelu a monitro
• Sicrhau ansawdd a chyfrannu i / at gynllunio ar gyfer gwella’r ddarpariaeth yn unol â gweithdrefnau’r gwasanaeth
• Cefnogi ysgolion drwy ddarparu ar ffurf hyfforddiant ac adnoddau parod.Cyfrifoldebau penodol am unai
• Ganolfan Cylchdro bl5-8
• Lleoliadau Lloeren a Ymestyn Allan Meirion/Dwyfor
• Ganolfan bl10-11 a Ymestyn allan ArfonCyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Rheolydd llinell dydd i ddydd Cymorthyddion Cynhwysiad
• Cyd weithio gyda’r Pennaeth i gynnal hyfforddiant a chreu adnoddau ar gyfer ysgolion, canolfannau a rhieni
• Cyfrifoldeb am sicrhau creu adnoddau hyfforddiant, arweiniad a chefnogaeth ar gyfer ysgolion a rhieni
• Cyd weithio a’r Pennaeth i gynllunio llyfrgell o adnoddau gwahaniaethol
• Gliniadur a ffon symudol
Prif Ddyletswyddau.
Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol a darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y dogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae’r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.• Sicrhau gwasanaeth cefnogi a chynghori ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysgol eraill drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth o ansawdd uchel.
• Cyfrannu at gynlluniau strategol ysgolion unigol ym maes ymddygiad, cynhwysiant ac ADY yn gyffredinol
• Cyfrannu at fonitro cynnydd disgyblion sydd ar agor i’r Gwasanaeth drwy asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau yn unol â gweithdrefnau’r gwasanaeth.
• Cydweithio gydag ysgolion ar gyfer datblygu'r arbenigedd cynnal ymddygiad o fewn yr ysgol.
• Cyfrannu at drafodaeth a phenderfyniadau'r Fforwm Ardal ADYCh o ran achosion unigol yn y maes anghenion ymddygiad ag emosiynol.
• Cynhyrchu pecynnau gwaith penodol, i sicrhau adnoddau arbenigol ar gyfer ysgolion a rhieni yn y maes anghenion ymddygiad ag emosiynol.
• Datblygu a chydgordio rhaglen hyfforddiant penodol arbenigol i gynorthwyo ysgolion a rhieni i gael gwell dealltwriaeth o anghenion ymddygiad ag emosiynol.
• Sicrhau arweiniad clir ,llunio amserlen a rhaglenni gwaith yn ôl yr angen ar gyfer y cymorthyddion.
• Cyfrannu i HMS a datblygiadau staff o fewn y gwasanaeth ac o fewn ein hysgolion.
• Cydweithio efo Pennaeth, Rheolwr Cynhwysiad a Uwch Seicolegydd mewn perthynas a threfnu cynlluniau datblygu tîm ymddygiad
• Cyd ddatblygu rhaglen hyfforddiant penodol yn y maes cynhwysiad.
• Adrodd ar gynnydd disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth y gwasanaeth cynhwysiad
• Sicrhau fod y dystiolaeth angenrheidiol yn cael eu cyflwyno i’r fforwm yn brydlon a chyflawn
• Ar y cyd gyda’r Pennaeth arfarnu ansawdd yr addysgu ac yr arweiniad a gyflwynir gan y tîm cynnal ymddygiad
• Cyfrannu tuag at arfarnu ansawdd y ddarpariaeth a chyfrannu i gynllunio ar gyfer gwella’r ddarpariaeth yn unol â gweithdrefnau’r gwasanaeth.
• Cyfrannu tuag at adrodd yn chwarterol ar gynnydd yn erbyn targedau a osodwyd yn y cynllun busnes.
• Trefnu a gweithredu profion ac asesiadau yn ôl y gofyn.
• Cyfrannu mewn cyfarfodydd tîm rheoli’r gwasanaeth.
• Cynnal cyswllt agos efo gweithwyr cyffelyb o fewn y sector addysg, gwasanaethau cymdeithasol a iechyd
• Gweithredu yn unol â chanllawiau diogelu cadarn
• Gweithredu’r Còd Ymarfer Anghenion Ychwanegol o ran cefnogi disgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol emosiynol
• Mynychu cyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol ar gais y Pennaeth
• Paratoi a chyflwyno arweiniad cwricwlaidd - pynciau craidd, cwricwlwm ehangach ynghyd â chwricwlwm therapiwtig i unigolion neu grwpiau sydd yn derbyn darpariaeth mewn canolfannau
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad yn unol â blaenoriaethau’r gwasanaeth
• Sicrhau arweiniad a chefnogaeth i Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Athrawon a Phenaethiaid yn y maes cynnal ymddygiad a chynhwysiad.
• Cyflenwi gwaith proffesiynol drwy gymryd cyfrifoldeb ymgynghorol am gynllunio strategaethau a gweithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol; yn enwedig anhwylderau ymddygiadol ag emosiynol.
• Cydweithio gydag ysgolion ar gyfer datblygu'r arbenigedd cynnal ymddygiad o fewn yr ysgol.
• Cydweithio’n agos gyda Swyddogion Ansawdd ADY a Chynhwysiad y Gwasanaeth i sicrhau map darpariaeth pwrpasol, effeithiol a hyblyg i ymateb i anghenion dysgwyr sydd ag anawsterau ymddygiadol emosiynol yn ysgolion yr Awdurdod Addysg Lleol.
•
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
•Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.