Swyddi ar lein
Therapydd Galwedigaethol (Glas Therapydd (L1) Therapydd Galwedigaethol (L2) Therapydd Galwedigaethol Arweiniol (L3))
Gweler Hysbyseb Swydd | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 25-28466
- Teitl swydd:
- Therapydd Galwedigaethol (Glas Therapydd (L1) Therapydd Galwedigaethol (L2) Therapydd Galwedigaethol Arweiniol (L3))
- Adran:
- Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Gwasanaeth:
- Pobl Hŷn ac Anableddau Corfforol
- Dyddiad cau:
- 25/06/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- Gweler Hysbyseb Swydd
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Hysbyseb Swydd – Therapydd Galwedigaethol
(Glas-weithiwr Therapydd Galwedigaetholl/Therapydd Galwedigaethol/Therapydd Galwedigaethol Arweiniol)
Gwasanaeth: Oedolion – Ardal De Meirionnydd
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Gwybodaeth am y swydd:Ydych chi...
- Am gyfrannu i gyflogwr sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau?
- Yn dymuno gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg?
- Yn berson brwdfrydig a phositif?
- Yn meddu ar sgiliau pobl da
Os mai ‘ydw’ yw eich ateb i’r pwyntiau uchod, beth am ddod i weithio gyda ni?
Dyma gyfle cyffroes i fod yn rhan o dîm Gwaith Cymdeithasol Gwynedd.
Fel Therapydd Galwedigaethol byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau unigolion yma yng Ngwynedd drwy eu cynorthwyo i fyw eu bywydau yn y modd y maent eisiau ei fyw.
Byddwch yn cefnogi unigolion drwy anawsterau cymdeithasol a phersonol, ar yr un pryd â hyrwyddo eu hawliau dynol a’u llesiant. Byddwch yn gweithio gydag unigolion, gan gefnogi eu perthnasoedd â’u teuluoedd, grwpiau a chysylltiadau â’u cymuned. Eu helpu i adnabod eu cryfderau, datblygu eu sgiliau a gweithio ar broblemau neu heriau y gallent fod yn eu hwynebu.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn cynnal cofrestriad fel Therapydd Galwedigaethol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a gallu arddangos sgiliau yn unol a’r Swydd Ddisgrifiad a’r Manylion Person (ynghlwm).
Cyflog: S4 / PS1 / PS2 (yn ddibynol ar brofiad)
L1 (Glas Weithiwr Therapydd Galwedigaethol) – S4 (pt 26-28) £34,834-£36,648
L2 (Therapydd Galwedigaethol) – PS1 (pt 29-31), £37,336-£39,186
L3 (Therapydd Galwedigaethol Arweiniol) – PS2 (pt 31-33), £39,186-£41,418
Galluogir i aelod staff fynd heibio trothwyon cyflog yn unol a phrofiad a pherfformiad.
Gweler y Pecyn Gwybodaeth – Cewch ragor o wybodaeth am y swydd a’r disgwyliadau yn y Swydd Ddisgrifiad a’r Manylion Person. Cewch hefyd wybodaeth am becyn cyflogaeth deiniadol sydd ar gael.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Cysylltwch â ni:
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Llinos Rowlands ar 01341 424 539 neu drwy e-bost: LlinosRowlands@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 25/06/2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Glas-Therapydd Galwedigaethol (L1) – Gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dim. Yn berson dibynadwy a hyblyg sy’n awyddus i weithio mewn dulliau newydd a creadigol. Brwdfrydig, hunan dibynnol a phendant. Cefnogi arferion gwrth-wahaniaethol Cyfathrebu’n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, asiantaethau eraill a darparwyr Ymrwymedig i werthoedd, egwyddorion, nodau ac amcanion y gwasanaeth. Person sy’n awyddus i ddysgu a datblygu Gallu cyfathrebu yn effeithiol a chreu perthynas efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd.
Therapydd Galwedigaethol (L2) – Gweler uchod
Therapydd Galwedigaethol Arweiniol (L3) – Gweler uchod |
|
|
DYMUNOL
- |
|
|
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Glas-Therapydd Galwedigaethol (L1) - Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol perthnasol yn unol â Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru Wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru fel Gweithiwr Cymdeithasol
Therapydd Galwedigaethol (L2) - Yn ychwanegol i’r gofynion uchod (L1); Cymhwyster Cadarnhau (Consolidation 3 Blynedd Gyntaf mewn Ymarfer) (neu brofiad cyfatebol)
Therapydd Galwedigaethol Arweiniol (L3) – Gweler uchod (L1) + (L2)
|
|
|
DYMUNOL
Glas-Therapydd Galwedigaethol (L1) -
Therapydd Galwedigaethol (L2) - Cymhwyster Addysgwr Ymarfer Cymhwyster Cydnabyddedig Deddf Iechyd Meddwl AMHP Cymhwyster Asesydd Budd (BIA)
Therapydd Galwedigaethol Arweiniol (L3) – Gweler uchod (L2)
|
|
|
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Glas-Therapydd Galwedigaethol (L1) - Profiad o weithio mewn tîm Profiad o weithio yn uniongyrchol efo oedolion/plant /pobl ifanc a theuluoedd Profiad o asesu anghenion a llunio cynllun gofal Profiad o weithio efo asiantaethau eraill
Therapydd Galwedigaethol (L2) - Yn ychwanegol i’r gofynion uchod (L1); Profiad o ddelio efo achosion diogelu Profiad o waith gofal cymunedol gydag oedolion a’u gofalwyr. Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanol
Therapydd Galwedigaethol Arweiniol (L3) – Yn ychwanegol i’r gofynion uchod (L1) a (L2); Profiad o ddelio efo achosion cymhleth Profiad o wneud gwaith llys (gwaith plant) |
|
|
DYMUNOL
Glas-Therapydd Galwedigaethol (L1) - Profiad o ddelio efo achosion diogelu Profiad o waith gofal cymunedol gydag oedolion a’u gofalwyr. Profiad o ddelio efo achosion cymhleth Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanol
Therapydd Galwedigaethol (L2) - Profiad o wneud gwaith llys (gwaith plant) Profiad o ddelio efo achosion cymhleth Profiad o fentora o fewn y rôl gwaith cymdeithasol
Therapydd Galwedigaethol Arweiniol (L3) – Profiad o fentora o fewn y rôl gwaith cymdeithasol |
|
|
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Glas-Therapydd Galwedigaethol (L1) - Gallu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i gyfeiriadau a blaenoriaethu yn addas. Gallu i ymgymryd ag asesiadau cymdeithasol a chreu cynlluniau gofal. Gwybodaeth o ddeddfwriaeth berthnasol, sgiliau rheoli gofal, dealltwriaeth o arferion gwaith cymdeithasol da. Gallu i ddefnyddio system wybodaeth gyfrifiadurol mewn perthynas ag anghenion Gwasanaeth Gallu derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad yn effeithiol er budd y Gwasanaeth a datblygiad personol
Therapydd Galwedigaethol (L2) - Yn ychwanegol i’r gofynion uchod (L1): Sylfaen sgiliau amrywiol yn seiliedig ar brofiad o weithio efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd .
Therapydd Galwedigaethol Arweiniol (L3) – Yn ychwanegol i’r gofynion uchod (L1) a (L2); Sgiliau gwaith llys (Swydd maes plant)
|
|
|
DYMUNOL
Glas-Therapydd Galwedigaethol (L1) - Sylfaen sgiliau amrywiol yn seiliedig ar brofiad o weithio efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd .
Therapydd Galwedigaethol (L2) - Sgiliau gwaith llys
Therapydd Galwedigaethol Arweiniol (L3) –
|
|
|
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
|
|
|
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd. | ||
|
|
|
|
|
|
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer | ||
|
|
|
|
|
|
Prif Ddyletswyddau. | ||
| Lefel 1 – Glas Therapydd Galwedigaethol (Dyletswyddau Cyffredinol)
Lefel 2 – Therapydd Galwedigaethol (Dyletswyddau Cyffredinol)
Lefel 3 – Therapydd Galwedigaethol Arweiniol (Dyletswyddau Cyffredinol)
Dyletswyddau Lleol
Dyletswyddau Eraill
|
|
|
|
|
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b. | ||
|
|
|