NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu gweithio ag eraill i gyflawni dyletswyddau tîm.
Gallu gweithio ar adegau heb gyfarwyddyd na oruchwyliaeth ffurfiol.
Gallu gweithio i safon gyson o gywirdeb.
Gallu ymdrin â’r cyhoedd a’u hasiantwyr mewn modd cwrtais, cywir a phroffesiynol; yn aml iawn dan amgylchiadau trist a theimladwy.
Gallu gweithio dan bwysau rhesymol ar adegau pan fo gwaith i’w gwblhau yn ôl y gofyn a osodwyd gan amserlen gaeth.
DYMUNOL
Gallu blaenoriaethu elfennau o’r gwaith beunyddiol.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cymwysterau o arholiadau TGAU, neu safon gyfatebol.
DYMUNOL
Cymhwyster o gwrs NVQ, neu safon debyg arall, yn ymwneud â gofal cwsmer a/neu gweinyddiaeth .
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Wedi gweithio mewn swyddfa a delio â’r cyhoedd.
DYMUNOL
Wedi gweithio fel aelod o dîm bychan sydd ar adegau yn cyflawni dyletswyddau i amserlen gaeth.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu defnyddio ystod o raglenni cyfrifiadurol megis prosesu geiriau, taenlenni a basdata ynghyd â holi gwefannau.
DYMUNOL
Gallu ymdopi â sustemau gweinyddol gyffredinol a berthyn i swyddfa yn darparu gwasanaeth rheng flaen i’r cyhoedd a’u hasiantwyr.
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Lefel Sylfaen
Gallu cynnal sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yng nghyd-destun pob dydd y swydd gan ddefnyddio geirfa benodol sy'n codi'n rheolaidd er mwyn cyflwyno gwybodaeth. Gallu cyflwyno gwybodaeth syml drwy gyfwng y Gymraeg a’r Saesneg sydd wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i gwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Sylfaen
Darllen a deall negeseuon syml a thaflenni gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg sy'n ymwneud â'r swydd, a deall adroddiadau byr a syml ar bwnc cyfarwydd.
Ysgrifennu - Lefel Sylfaen
Gallu llenwi ffurflen syml a llunio llythyr neu neges ebost byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg drwy ddefnyddio cyfres o frawddegau allweddol i gyfleu gwybodaeth syml.