Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Darparu cyngor opsiynau tai cynhwysfawr ar faterion cyngor tai ac atal digartrefedd i aelodau’r cyhoedd gan alluogi Partneriaeth Cofrestr Tai Gyffredin Gwynedd i gyflawni ei gweledigaeth ei nodau a’i amcanion.
•Pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer holl ymholiadau’r adran dai trwy e-bost, ffon ar wefan a darparu cyngor a datrysiad yn y mwyafrif o achosion.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Unrhyw offer, peiriant neu nwyddau sy’n ymwneud a’r dyletswyddau a nodwyd
Prif ddyletswyddau
•Rhoi cyngor a chymorth llawn yng nghyswllt â holl faterion tai i aelodau’r cyhoedd ar y ffôn, ar e-bost neu drwy gyfweliad, yn swyddfa’r Cyngor neu mewn amgylchiadau arbennig yng nghartrefi’r cleientiaid. Rhoi cyngor a chymorth yng nghyswllt sut i gael, cadw a chynnal llety er mwyn atal digartrefedd ymhob math o denantiaeth, ac i asesu cymhwyster pobl i gael tai yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
•Asesu a chyfweld unrhyw berson/aelwyd sy’n dynodi ei bod mewn angen yng nghyswllt tai, ac asesu eu hamgylchiadau i ddynodi’r opsiynau a’r gweithredoedd priodol.
•Sicrhau bod digon o gyngor a gwybodaeth ar gael gan asiantaethau eraill, cyfeirio’r cleient i’r gwasanaethau hyn pan fo hynny’n briodol a chyfeirio’r cleient i’r asiantaethau, gan weithio gyda’r asiantaethau hyn er mwyn sicrhau y caiff y gefnogaeth orau ei ddarparu i bob cleient.
•Asesu a mewnbynnu ffurflenni cais. Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd angen trefnu ymweliadau cartref.
•Sicrhau fod ceisiadau am dai yn cael eu gosod ar y Gofrestr Tai, yn cael eu gwirio ac asesu yn unol â’r polisi perthnasol, a bod ymgeiswyr yn cael cadarnhad ysgrifenedig o statws eu cais.
•Cymryd rhan weithredol i reoli’r Gofrestr Tai, diweddaru ceisiadau a gwneud adolygiadau rheolaidd. Unwaith y bydd yr eiddo wedi ei osod, bydd angen sicrhau bod y wybodaeth yn y gofrestr yn cael ei ddiweddaru.
•Sicrhau bod y gofrestr yn gyfoes.
•Cynnal archwiliadau o'r holl restrau byr ar gyfer eiddo a neilltuwyd drwy'r gofrestr tai.
•Sicrhau bod unrhyw ofynion tai arbenigol yn cael eu dogfennu'n glir a'u cofnodi a'u cyfathrebu ag adrannau perthnasol
•Ymateb i ohebiaeth gan gynghorwyr ac aelodau seneddol.
•Ymateb i bob gohebiaeth gan y cyhoedd mewn perthynas â holl ymholiadau'r adran dai. Darparu'r wybodaeth ac rhoid y cyngor priodol i gefnogi pobl Gwynedd.
•Cynnal adolygiadau yn dilyn derbyn ymholiad gan ymgeiswyr ynglŷn a penderfyniad cais am eiddo cymdeithasol.
•Gwneud cyfeiriadau priodol i Wasanaeth Digartrefedd y Cyngor pan fo’r holl opsiynau tai a’r mentrau atal digartrefedd wedi cael eu harchwilio.
•Cyfeirio honiadau o droi allan anghyfreithlon ac aflonyddwch i Dîm Tai’r Sector Breifat.
•Cynorthwyo i gadw safle we Opsiynau Tai yn gyfredol.
•Gweithredu safonau gwasanaeth y Bartneriaeth ar gyfer y Tîm Opsiynau Tai a’r Gofrestr Tai Gyffredin.
•Sicrhau cyfrinachedd y cleient, gweithredu a chynnal Protocol Rhannu Gwybodaeth ar gyfer Gwasanaeth y Tîm Opsiynau Tai.
•Pan ymddengys bod gorboblogi sylweddol yn yr eiddo a feddiannir gan ymgeisydd ac/neu fod llawer o beryglon o fewn yr eiddo, gwneud cyfeiriad at swyddog neu asiantaeth briodol e.e. Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor neu asiantaeth arall a gydnabyddir.
•Darparu cyngor a chymorth i ymgeiswyr sy’n dymuno rhoi eu henwau ar y Gofrestr Tai Fforddiadwy ac/neu ffurf eraill o gartrefu megis rhentu sector preifat, tai gofal ychwanegol ac ati.
•Cadw dealltwriaeth ddiweddar o’r holl ddeddfwriaethau tai, priodasol, teuluol, cyfle cyfartal ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall, cyfraith achos a pholisïau’r Cyngor / Bwrdd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ogystal â materion yn ymwneud â budd-daliadau tai a lles.
•Sicrhau bod yr holl ymgeiswyr yn medru cael mynediad i’r gwasanaeth drwy sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn ieithoedd a ffurfiau perthnasol eraill.
•Cynnal cofnodion cywir ac adroddiadau ysgrifenedig yng nghyswllt yr holl achosion a archwiliwyd a darparu ystadegau priodol gan gadw cyfrinachedd y cleient bob tro.
•Bod yn rhagweithiol wrth ddatblygu gwaith partneriaeth gydag asiantaethau eraill er mwyn gostwng y nifer o achosion o ddigartrefedd ac i ehangu rhwydweithiau cefnogi ar gyfer pobl ddigartref.
•Cyfrannu i’r strategaethau, polisïau a phrosiectau a ddatblygir gan y Bartneriaeth Tai.
•Symbylu dulliau dyfeisgar o ymdrin â phroblemau.
•Sicrhau diogelwch yr holl staff, defnyddwyr gwasanaeth ac eraill yn unol â’r gweithdrefnau a’r darpariaethau iechyd a diogelwch perthnasol.
•Unrhyw ddyletswydd arall, yn ôl cyfarwyddyd, sy’n gymesur â graddfa’r swydd.
•Cymdeithasau Tai
•Tîm Tai Strategol
•Gwasanaeth Digartrefedd
•Budd-daliadau Tai
•Iechyd yr Amgylchedd
•Gwasanaeth Cyfreithiol
•Gwasanaethau Cymdeithasol
•Awdurdodau Lleol eraill
•Y Bwrdd ac Asiantaethau Iechyd
•Asiantaethau Gwirfoddol
•Landlordiaid y sector preifat
•Asiantaethau gosod
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-