ADDYSG
YSGOLION CYNRADD
GORUCHWYLIWR CLWB BRECWAST (5 AWR) (DROS DRO)
Ysgol Penybryn, Tywyn
(Cynradd 3 - 11: 237 o ddisgyblion)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS1 pwynt 2, (sef £2,682 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster ar gyfer y swydd Goruchwyliwr Clwb Brecwast.
Yn eisiau: 2 Mehefin 2025
Swydd dros dro yw hon hyd at 31 Awst 2026.
Oriau gwaith: 5 awr yr wythnos (1 awr y dydd) fel Goruchwyliwr Clwb Brecwast (38 wythnos, tymor ysgol yn unig).
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda’r Pennaeth, Mr Steffan Rhys Nutting. Rhif Ffôn: 01654 710237 e-bost: Steffan.Nutting@penybryntywyn.ysgoliongwynedd.cymru
Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Lois Thomas, Cymhorthydd Cefnogi Ysgol. Rhif ffon 01758 704210 e-bost: LoisAngharadThomas@gwynedd.llyw.cymru
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol.
Rhagwelir Cynnal cyfweliadau am y swydd hon dydd Mercher, 21 Mai 2025.
DYDDIAD CAU: 12 O’R GLOCH, DYDD GWENER. 16 MAI 2025.
(This is an advertisement for a Temporary Breakfast Club supervisor (5 hours) at Ysgol Penybryn, Tywyn for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate for the successful applicant before they can start at the school).
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwyr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.