Swyddi ar lein
Pennaeth Canolfan Cyfeirio Disgyblion (aml safle)
£57,304 - £66,430 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 25-28330
- Teitl swydd:
- Pennaeth Canolfan Cyfeirio Disgyblion (aml safle)
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad
- Dyddiad cau:
- 14/05/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 32.5 Awr
- Cyflog:
- £57,304 - £66,430 y flwyddyn
- Swydd tymor ysgol:
- 40 Wythnos
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae Adran Addysg Cyngor Gwynedd yn awyddus i benodi arweinydd cryf ac ymroddedig ar gyfer swydd newydd cyffrous, sef Pennaeth Canolfan Cyfeirio Disgyblion y sir.
Dyma gyfle ardderchog i ymarferydd blaengar yn y maes addysg sy’n chwilio am gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a bobl ifanc.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn siapio ac yna arwain gwasanaeth i ddisgyblion ysgolion Gwynedd sydd gyda anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol ar ei newydd wedd.
Bydd deilydd y swydd yn Bennaeth ar Ganolfan Cyfeirio Disgyblion yn cynnwys prif safle newydd sydd wedi derbyn buddsoddiad sylweddol, ynghyd â safleoedd lloeren a gwasanaeth ymestyn allan i ysgolion a’r gymuned.
Rydym angen arweinydd sydd â gweledigaeth eang, creadigrwydd, egni a’r cymhelliant i reoli cyfnod cyffrous o newid a datblygu tîm aml ddisgyblaeth fydd yn rhagori ym mhopeth maent yn ei wneud.
Petaech yn cwrdd â gofynion y swydd, yn barod am bennod newydd yn eich gyrfa ac yn hoffi gweithio gyda Aelodau ac arweinwyr y Cyngor i wella dyfodol disgyblion mwyaf heriol y Sir byddwn yn croesawu’ch cais. Byddwn hefyd yn barod i ystyried cynnig secondiad ar gyfer yr ymgeisydd addas.
Mae’r gallu i addysgu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda Ffion Edwards Ellis , Pennaeth Cynorthwyol: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Cynhwysiad (rhif ffôn 01286 679007)
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr ysgol.
Rhagwelir cynnal Cyfweliad dydd Mercher, 21 Mai 2025
DYDDIAD CAU: 10 O’R GLOCH, DYDD MERCHER, 14 MAI 2025.
(The is an advertisement for the post of a Pupil Referral Centre Headteacher for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential. The council will require a Disclosure and Barring Service disclosure and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school).
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOLBrwdfrydig ac ymroddgar.
Ymrwymedig i welliant parhaus.
Gallu ysbrydoli, ysgogi a gosod her i eraill.
Ymgorffori gweledigaeth yr ysgol.
Sgiliau rhyngbersonol o’r radd flaenaf.
Y gallu i weithio dan bwysau a chyfarfod â therfynau amser.
Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant a gwarchod eu hawliau unigol.
Gallu arddangos deallusrwydd emosiynol a sgiliau perthnasu deinamig.
Y gallu i hoelio sylw cynulleidfa amrywiol.
Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.DYMUNOL
-CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOLGradd Anrhydedd.
Statws athro/athrawes wedi cymhwyso.
CPCP neu brofiad diweddar/cyfredol perthnasol o fod yn Bennaeth, Dirprwy neu Pennaeth Cynorthwyol
Tystiolaeth o ddatblygiadau proffesiynol parhaus perthnasol.DYMUNOL
Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOLTystiolaeth o brofiad cyson a pherthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol.
Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill.
Profiad perthnasol fel Pennaeth, Dirprwy neu aelod o Dîm Arwain a Rheoli mewn ysgol.
Tystiolaeth o lwyddiant mewn ystod o rolau arweiniol gan gynnwys
Arwain gwasanaeth yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol (ACEY)
• Cymryd rôl arweiniol gydag asiantaethau statudol a gwirfoddol
• Rheoli cyllidebau mewn tîm Awdurdod Lleol neu ysgol (lefel URh)
Profiad o fonitro, gwerthuso ac adolygu perfformiad er mwyn codi cyrhaeddiad disgyblion
Profiad o reoli newid
Profiad o ddarparu ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a grwpiau o ddysgwyr bregus
DYMUNOL
Tystiolaeth o weithio’n effeithiol gyda llywodraethwyr.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOLMeddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol.
Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sector uwchradd/cynradd.
Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau gwella’r ysgol.
Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy’n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb.
Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
Meddu ar wybodaeth dda o rôl y corff llywodraethol ac yn gallu gweithredu strategaethau gwelliant parhaus ac atebolrwydd.
Meddu ar wybodaeth dda o’r cwricwlwm ehangach tu hwnt i’r ysgol a’r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol.
Meddu ar agwedd gynhwysol a’r sgiliau i sicrhau llwyddiant i bob disgybl gyrraedd ei lawn botensial.
Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o’r iaith Gymraeg/Cwricwlwm Cymreig yn yr ysgol.
Deall gofynion cynllunio ariannol strategol, rheolaeth gyllidebol ac egwyddorion gwerth gorau.
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau diweddaraf addysg yn genedlaethol.
Gwybodaeth gyfredol am ddeddfwriaeth a rheoliadau statudol Addysg, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Cwricwlwm i Gymru, diwygiadau ADY, fframwaith cymwysterau, a chwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol (ACEY)
Gwybodaeth ac arfer dda ar weithdrefnau diogelu plant a phobl ifanc
Gwybodaeth am ymgysylltiad disgyblion, datblygu sgiliau cymdeithasol plant a phobl ifanc
Gwybodaeth am rheoli gwrthdaro
Gallu creu perthynas a phartneriaethau cydweithredol ag UCDau eraill, ysgolion, gweithwyr addysg eraill addysg a sefydliadau allanol priodolDYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOLGwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi’i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni’r swydd.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnoleg ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosibl cael cymorth i wirio’r iaith).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Arwain y Gwasanaeth Ganolfan Cyfeirio Disgyblion ar lefel ymarferol a strategol
Sicrhau gwasanaeth arbenigol o safon uchel ar gyfer Ysgolion
Sicrhau ansawdd yr addysg a rheolaeth gadarn i ganolfannau arbenigol i gefnogi disgyblion sydd â phroblemau ymddygiadol / emosiynol.
Sicrhau gweithrediad a chysondeb yn y maes cynnal ymddygiad a chynhwysiad drwy’r defnydd o weithdrefnau a phrosesau effeithiol ar sail tystiolaeth.
Sicrhau profiadau dysgu o ansawdd o fewn y Canolfannau
Sicrhau deilliannau addysgol cadarnhaol i bob dysgwr o fewn y gwasanaeth.Byddent yn cyflawni hyn drwy:
• Arsylwi, Arfarnu a Chynllunio ar gyfer gwella’r ddarpariaeth yn rheolaidd fel rhan o drefn hunan arfarnu.
• Sicrhau datblygiad proffesiynol staff y ddarpariaeth ar bob lefel
• Cefnogi ysgolion drwy gynnig gynllunio darpariaeth hyfforddiant, sicrhau bod y gefnogaeth ymestyn allan i ysgolion yn ymateb i’r angen, a chynllunio adnoddau parod, trwy gydweithio gyda’r Rheolwr Cynhwysiad.
• Sicrhau gweithdrefnau diogelu cadarn o fewn y Canolfannau arbenigol.
• Gweithio gyda’r Rheolwr Cynhwysiad i gydlynu cwricwlwm amgen i ddisgyblion o fewn a thu allan i’r prif-lif
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Rheolwr llinell staff y Gwasanaeth Canolfan Cyfeirio Disgyblion( Athrawon , cymorthyddion)
• Rheoli a sicrhau ansawdd o fewn canolfannau cofrestredig yr awdurdod.
• Rheoli cyllideb weithredol y darpariaethau gwahanol.
• Cyfrifoldeb am sicrhau argaeledd adnoddau hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer ysgolion, Canolfannau a rhieni drwy’r Llyfrgell Adnoddau.
• Sicrhau argaeledd adnoddau ar gyfer defnydd plant a staff y canolfannau arbenigol.
• Gliniadur a ffôn symudolPrif Ddyletswyddau. .
Amodau
Mae gofynion y swydd hon i'w cyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno. Mae’r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.Rhaid i ddyletswyddau proffesiynol pennaeth yr ysgol hon gael eu cyflawni yn unol â’r darpariaethau’r Deddfau Addysg, Gorchmynion a Rheoliadau sy’n weithredol dan y Deddfau Addysg, offeryn llywodraethu'r ysgol, unrhyw ddogfen ymddiriedolaeth sy’n berthnasol i’r ysgol ac unrhyw gynllun sy’n cael ei baratoi neu ei gynnal gan Yr Awdurdod Lleol dan Adran 48 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(87).
Rhaid cyflawni’r dyletswyddau yn unol ag unrhyw reolau, rheoliadau neu bolisïau a wnaethpwyd gan gorff llywodraethu’r Uned Cyfeirio ac y mae’r corff hwnnw yn gyfrifol amdanynt; ac yn yr un modd unrhyw reolau, rheoliadau neu bolisïau a wnaethpwyd gan Yr Awdurdod Lleol o ran materion nad yw’r corff llywodraethu yn gyfrifol amdanynt.
Gweithredu’r ‘Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth’. Dylid hybu nodweddion, gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i’w monitro a’u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
Mae'r Pennaeth yn uniongyrchol atebol i’r Corff Llywodraethol( Bwrdd Rheoli ) a Phennaeth Addysg Statudol Gwynedd. Disgwylir i ddeilydd y swydd hon adrodd yn ysgrifenedig o leiaf unwaith pob tymor i gorff llywodraethol yr Uned Cyfeirio ar faterion sydd o fewn maes eu cyfrifoldeb strategol a rheolaeth dydd i ddydd yn unol ag arweiniad yr Awdurdod Lleol.
Mae’r Pennaeth yn gyfrifol am sicrhau:
• rheolaeth effeithiol yr Ganolfannau cyfeirio o ddydd i ddydd;
• y caiff y weledigaeth ar gyfer yr Ganolfan Gyfeirio ei diffinio’n eglur, ei bod yn hysbys, yn cael ei chyd-rannu, yn ddealladwy ac yn cael ei gweithredu gan bob rhan-ddeiliad;
• bod rheolaeth effeithiol ac effeithlon o adnoddau cyllidol a dynol yr Ganolfannau er mwyn gwireddu’r weledigaeth gytunedig yn elfen hanfodol o’r rôl ynghyd a’r gallu i gydweithio gydag eraill;
• gweithdrefnau hunan-arfarnu o ansawdd, annog gweithredu yn seiliedig ar ganlyniadau arfarniad o’r fath a chyflwyno disgrifiad cydlynus, dealladwy a manwl-gywir o berfformiad yr Ganolfannau i lywodraethwyr ac ystod o ran-ddeiliaid;
• hyrwyddo diwylliant o ddisgwyliadau uchel ar bob lefel a bod dysgu disgyblion yn ganolog i gynllunio a rheoli adnoddau, gweithdrefnau monitro, adolygu ac arfarnu;
• datblygu partneriaeth a chydweithio gyda darparwyr eraill yn y sector addysg ac ehangu’r cwricwlwm trwy gyfeirio’n uniongyrchol at gyfoeth ac amrywiaeth y cymunedau hynny sy’n gwasanaethu’r ysgol;
• sefydlu strategaethau, gweithdrefnau effeithiol a deall bod arferion wedi eu sefydlu i ddiogelu plant a staff a chydweithredu gydag asiantaethau perthnasol i amddiffyn plant;
• sicrhau fod yr ysgol yn gwarchod gwerthoedd yr iaith Gymraeg ac yn dilyn Polisi Iaith yr Awdurdod.Cyfrifoldebau Proffesiynol
Mae disgwyl i’r pennaeth arwain a chyflawni’r dyletswyddau proffesiynol fel a ganlyn:•Dod ag arweinyddiaeth strategol i yrru’r Gwasanaeth Ganolfan Cyfeirio Disgyblion ymlaen, gan ysgogi holl rhanddeiliaid i gyflawni eu gorau; gan greu diwylliant bositif sy’n treiddio trwy bob agwedd ar uchelgeisiau a darpariaeth yr awdurdod lleol.
•Datblygu ymagweddau creadigol, ymatebol ac effeithiol ar ymgysylltu dysgwyr; cyfrannu at ddatblygu arfer ar y cyd o fewn y Canolfannau Cyfeirio Disgyblion a gwella profiad dysgu yr holl ddysgwyr bregus.
•Creu cynllun datblygu strategol i’r Gwasanaeth.
•Datblygu strategaethau ysgol gyfan mewn meysydd allweddol megis addysgu a dysgu.
•Grymuso’r holl ddysgwyr i gymryd rhan weithgar yn eu dysgu eu hunain a datblygu cyfrifoldeb personol am wella eu cyfleoedd ar gyfer profiad addysgol, cyflogaeth a llesiant yn y dyfodol.
•Sicrhau profiadau dysgu o’r ansawdd uchelaf i’r disgyblion sydd yn derbyn addysg tu allan i addysg prif lif.
•Yn achlysurol addysgu nifer bychan o ddisgyblion yn absenoldeb aelodau o’r tîm dysgu.
•Monitro cynnydd disgyblion yn enwedig y rhai sydd yn mynychu’r Canolfannau Cyfeirio
•Cyd weithio’n agos â'r Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiad ac yr Uwch Seicolegydd Ymddygiad a Chynhwysiad i wireddu a gweithredu strategaethau cytunedig ar lefel ysgol a Canolfannau arbenigol. Bydd hyn yn cynnwys rhaglen hyfforddiant, strategaethau ar gyfer unigolion o fewn Ysgolion ac o fewn y Canolfannau cyfeirio disgyblion .
•Cydweithio gydag Ysgolion a Rheolwr Cynhwysiad ar gyfer datblygu'r arbenigedd ymddygiad o fewn Ysgolion
•Cyd gynhyrchu pecynnau gwaith penodol, i sicrhau adnoddau arbenigol ar gyfer ysgolion, Canolfannau a rhieni yn y maes anghenion ymddygiad ag emosiynol.
•Cydlynu a chyfrannu i HMS a datblygiadau staff o fewn y gwasanaeth ac o fewn ein hysgolion.
•Hyrwyddo anghenion dysgwyr bregus yn cynnwys rhai sy’n cyflwyno gydag ymddygiad sy’n heriol.
•Sicrhau fod y darpariaethau yn diogelu’ disgyblion a’r staff
•Gweithredu fel person dynodedig amddiffyn plant
•Dilyn fyny ar unrhyw faterion o absenoldebau/gwrthod ymgysylltu yn fuan ac amserol.
•Darparu arweiniad arbenigol i alluogi ysgolion i deilwrio ymyraethau arbenigol o fewn adnoddau’r ysgol
•Cyfrifoldeb am hunan reoli llwyth gwaith a blaenoriaethu baich gwaith.
•Cydweithio’n effeithlon gyda holl gymuned y Ganolfannau Cyfeirio Disgyblion, yn ogystal â gydag ysgolion ac asiantaethau eraill i ddarparu ymagwedd holistig at ofal a llesiant y disgyblion
•Cydweithio gyda’r holl dîm Integredig o fewn y Gwasanaeth ADYaCh a swyddogion eraill yr awdurdod lleol.
•Sicrhau arweiniad gweithredol clir i staff y Canolfannau Cyfeirio Disgyblion, ac y tîm ymestyn allan.
•Cymryd rhan mewn prosesau sy’n adolygu, monitro a datblygu'r Canolfannau Cyfeirio Disgyblion
•Sicrhau fod y Meini Prawf mynediad yn wybyddus i bawb ac yn cael eu gweithredu’n gyson yn ein hysgolion.
•Bod yn ymarferydd blaengar, arloesol a chreadigol, sy’n gyfarwydd gyda’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf yn cynnwys y cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig gydag adnabod, asesu a darpariaeth effeithlon ar gyfer disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn enwedig y rhai sydd a Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol a Chymdeithasol a meddwl ac ymarfer seiliedig ar dystiolaeth
•Arddangos ymroddiad cryf i gadarnhau partneriaethau sefydledig a llwyddiannus gyda staff, disgyblion, teuluoedd, aelodau’r Pwyllgor Rheoli, asiantaethau allanol eraill a’r gymuned yn ehangach.
•Agwedd gadarnhaol a hyblyg wrth reoli newid.
•Gweithio dan bwysau tra’n rheoli sefyllfaoedd a allai fod yn heriol mewn modd effeithlon.
Cyffredinol
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.