Swyddi ar lein
Athro/Athrawes Mathemateg Ysgol Tryfan (cyfnod mamolaeth)
£32,433 - £49,944 y flwyddyn | Dros dro (cyfnod mamolaeth)
- Cyfeirnod personel:
- 25-28323
- Teitl swydd:
- Athro/Athrawes Mathemateg Ysgol Tryfan (cyfnod mamolaeth)
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Ysgolion
- Dyddiad cau:
- 07/05/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro (cyfnod mamolaeth)
- Cyflog:
- £32,433 - £49,944 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Ysgol Tryfan, Bangor
Manylion
Hysbyseb Swydd
Gwybodaeth ar gyfer y swydd Athro/Athrawes Mathemateg (dros gyfnod mamolaeth)
I gychwyn 01/09/25 – (Swydd Rhan Amser – 0.8 – union oriau i’w cadarnhau)
MANYLION AM YR YSGOL
Ysgol uwchradd sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i gylch Bangor yw Ysgol Tryfan. Mae yma 521 o ddisgyblion 11-18 oed ar hyn o bryd, gyda 60 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth erbyn hyn.
Ymhyfrydwn yng nghanlyniadau rhagorol ein disgyblion yn yr arholiadau allanol, y gymdeithas glos a chyfeillgar sy’n bodoli yn yr ysgol a’r sylw unigol a roddwn i ddisgyblion mewn dosbarthiadau bychain wrth gynorthwyo ac ymestyn.
Mae amserlen yr ysgol yn seiliedig ar 6 gwers 50 munud y dydd.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr ysgol: www.ysgoltryfan.org. Yno ceir blas ar fywyd yr ysgol a gellir lawrlwytho dogfennau megis prosbectws yr ysgol a’r adroddiad diweddaraf gan Estyn.
Datganiad o werthoedd yr ysgol.
Yn Ysgol Tryfan amcanir i greu cymdeithas glos, Gymraeg ei hiaith, ble fod pawb-
- yn hapus ac yn hyderus;
- yn llwyddo hyd eithaf eu gallu ym mhob maes;
- yn arddel hunan-barch a pharch at eraill;
- yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Rhagoriaeth yw nod yr ysgol yn ei holl weithgaredd. Cred yr ysgol mewn bod yn agored ac yn ymatebol.
- Cynnig addysg o'r ansawdd uchaf posibl i gynorthwyo'r disgybl unigol i ddod i adnabod ei hunan, i feithrin yr adnoddau cynhenid sydd ganddo i eithaf ei allu ac i oresgyn ei wendidau.
- Creu awyrgylch a fydd yn meithrin ym mhob disgybl berthynas iach gydag eraill, a'i ddysgu i barchu a gwerthfawrogi cymeriadau, talentau a daliadau pobl eraill.
- Galluogi pob disgybl i ddatblygu i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg fel y gall ddod i adnabod a deall y gymdeithas a'r byd y mae'n byw ynddo ac ennyn ymwybyddiaeth o'i wreiddiau, ei gefndir a'i amgylchedd.
- Datblygu cwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol ar gyfer pob disgybl a fydd yn ateb gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol, polisïau'r ysgol a pholisïau'r AALl.
- Meithrin a monitro datblygiad pob disgybl drwy'r drefn fugeiliol sy'n bodoli yn yr ysgol i ofalu am les a ffyniant y disgyblion.
- Paratoi'r disgyblion i feithrin y cymwysterau y byddant eu hangen yn y gymdeithas y deuant yn rhan ohoni ac er mwyn iddynt allu cyfrannu'n gyfrifol iddi.
- Datblygu cysylltiadau gyda masnach a diwydiannau lleol a chreu perthynas glos gyda'r rhieni, addysg bellach ac uwch a'r gymdeithas yn gyffredinol
Y SWYDD
Yn eisiau: ar gyfer 1 o Fedi, 2025
ATHRO / ATHRAWES MATHEMATEG
Swydd Rhan Amser Dros Dro (Cyfnod Mamolaeth)
Swydd rhan amser (0.8 – union oriau i’w cadarnhau) dros dro yw hon yn ystod cyfnod mamolaeth un o athrawon yr ysgol. Daw'r swydd i ben ar ddychweliad deiliad y swydd i’w gwaith.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod gan athrawon egnïol a brwdfrydig. Disgwylir i’r sawl a benodir addysgu Mathemateg yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944 pro rata) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Dr Geraint Owen Jones.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Miss Bethan Thomas, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Tryfan, Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, LL57 2TU
(Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: sg@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru)
Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 10:00Y.B, DYDD MERCHER, 7 MAI, 2025.
Rhagwelir cynnal y cyfweliadau W/C 12/5/25
Manylion Person
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
|
|
|
DYMUNOL
|
|
|
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o:
|
|
|
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
|
|
|
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
|
|
|
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad |
|
|
Swydd Ddisgrifiad

RHAI MANYLION PERSONOL
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod:
- Â chymwysterau priodol i arwain y maes yn yr ysgol.
- Yn frwdfrydig a chreadigol, er mwyn ysgogi a chynnal diddordeb disgyblion yn y maes.
- Yn abl i addysgu’r pwnc i’r ystod oedran llawn.
- Yn meddu ar sgiliau TGCh cadarn.
- Yn rheolwr dosbarth effeithiol gyda’r sgiliau i sicrhau fod yna awyrgylch gynhaliol yn y dosbarth i hybu’r dysgu.
- Yn deall fod disgyblion yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol ac felly’n barod i addasu’r addysgu i’w hanghenion.
- Yn weinyddwr trefnus gyda’r gallu i gynllunio gwaith a’i orffen; i asesu gwaith yn rheolaidd a chofnodi hynny’n drefnus; i ysgrifennu adroddiadau manwl a pherthnasol.
- Yn abl i weithio’n annibynnol a hefyd yn barod i gydweithio fel rhan o dîm.
- Yn barod i ymateb i ddatblygiadau pynciol lleol a chenedlaethol yn y maes.
- Yn gallu arwain yn strategol ac yn gydwybodol holl agweddau datblygol adran, gan gynnwys yn benodol y cylch datblygu a’r hunan arfarnu.
- Yn meddu ar ymwybyddiaeth gadarn o ofynion iechyd a diogelwch yn y gweithle
Swydd Ddisgrifiad Athro Dosbarth:
Prif gyfrifoldebau:
- Paratoi gwersi pwrpasol, fydd yn ddiddorol, amrywiol o ran cynnwys ac o ran disgwyliadau oddi wrth unigolion.
- Cychwyn a gorffen gwersi yn brydlon.
- Ymateb yn gadarnhaol i waith disgyblion.
- Dangos cydymdeimlad ag amgylchiadau personol unigolyn.
- Creu awyrgylch symbylus a diddorol yn y dosbarth (a’r coridor) drwy drefnu arddangosfeydd o waith plant a phosteri ar y waliau.
- Marcio gwaith cartref a dosbarth disgyblion yn unol â pholisi'r Adran.
- Cadw cofnod manwl o asesiadau (a marciau) y disgyblion .
- Cadw golwg ar gynnydd y disgyblion.
- Marcio papurau arholiad a gwaith cwrs disgyblion.
- Paratoi adroddiadau ysgrifenedig i rieni (yn unol â pholisi asesu'r ysgol).
- Trafod datblygiad y disgyblion â rhieni mewn Noson Rieni.
- Disgyblaeth gadarn a chadarnhaol, yn y dosbarth ac o gwmpas yr ysgol.
- Ymgymryd â Hyfforddiant Mewn Swydd a Datblygiad Proffesiynol parhaus
- Cyfrannu tuag at Gynlluniau Gwaith, hunan arfarniadau a Chynlluniau Gwella'r Adran.
- Cyfrannu tuag at lunio polisïau’r ysgol.
- Cyfrannu tuag at Gymreigrwydd yr ysgol.
- Gosod disgwyliadau uchel.
____________________________________________________