Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm a'r Rheolwr Rheolaeth Adeiladu gyda gweinyddiaeth a gorfodaeth y Rheoliadau Adeiladu presennol a’r ddeddfwriaeth yn swyddfa ardal benodol fel rhan o dîm dan oruchwyliaeth uniongyrchol yr Arweinydd Tîm i sicrhau gwasanaeth effeithlon, cost effeithiol, ragweithiol ac atebol.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor i sicrhau bod y targedau perfformiad a’r Cynllun Busnes yn cael eu cwrdd yn llawn.
• Arwain a goruchwylio sefyllfaoedd Strwythurau Peryglus dan Adran 77 a 78, Hysbysiadau Dymchwel dan Adran 80 ac 81, ac A79 (Adeiladau dinistriol a dadfeiledig) Masnachol y Ddeddf Adeiladu 1984.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cynorthwyo i sicrhau bod yr uned a'r gwasanaeth yn cyrraedd targedau'r uned, yr adran a'r Cyngor mewn perthynas â materion perfformiad ac ariannol.
• Sicrhau bod ffioedd Rheoliadau Adeiladu cywir yn cael eu dyfynnu i'r cwsmer.
• Cyfrifoldeb am gerbyd(au) y Cyngor, offer syrfeio pan fydd yn cael ei ddefnyddio, ac Offer Diogelu Personol.
• Cynorthwyo'r Uwch Dîm Rheoli wrth weithredu/ gwellhad parhaus o systemau a gweithdrefnau TG effeithiol, yn cynnwys LABC ISO 9001:2015 QMS.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
Prif Ddyletswyddau.
• Cynorthwyo'r Tîm Rheolaeth Adeiladu gyda'i lwyth gwaith.
• Gorfodi Rheoliadau Adeiladu a deddfwriaeth gysylltiedig.
• Ymgymryd â’r gwaith o wirio cynlluniau.
• Cynnal archwiliadau safle.
• Ymgynghori gyda chyrff allanol fel peirianwyr strwythurol, Awdurdod Tân a’r Awdurdod Dŵr.
• Cynorthwyo wrth hyrwyddo a marchnata'r gwasanaeth.
• Ymgymryd â chyfrifoldebau swyddog partner i gleientiaid penodol pan fo angen.
• Cynorthwyo wrth hyrwyddo'r swyddogaeth Rheolaeth Adeiladu cyffredinol.
Dyletswyddau a Thasgau
• Gwirio a chymeradwyo Ceisiadau Cynllun Llawn o fewn y cyfnodau statudol.
• Cadw golwg ar ail-gyflwyniadau a newidiadau.
• Archwiliadau ac asesiadau Ceisiadau Hysbysiad Adeiladu.
• Ymdrin gyda’r holl archwiliadau safle a ofynnwyd drwy hysbysiadau statudol, a chynnal archwiliadau fel bo’r angen heb hysbysiad i sicrhau bod cydymffurfio gyda’r rheoliadau.
• Cadw cofnodion cywir a manwl gywir am yr holl archwiliadau a’r ymweliadau wnaed.
• Darparu cyngor cyn-gymhwyso pan ofynnir a chyngor arall i benseiri a chwsmeriaid posib.
• Archwilio a delio gyda gwaith anawdurdodedig.
• Bod yn hyblyg yn y ffordd yr ydych yn ymdrin gyda’r posibilrwydd o lacio Rheoliadau Adeiladu.
• Ymgynghori gydag ymgeiswyr, asiantwyr ac adeiladwyr i drafod, roi cyngor, dylanwadu a darparu atebion yn ymwneud â cheisiadau.
• Ateb ceisiadau penodol gan Benseiri, syrfewyr, adeiladwyr a’r cyhoedd ynglŷn â’r holl faterion sy’n ymwneud â'r Rheoliadau Adeiladu.
• Sicrhau’r lefel uchaf o wasanaeth bob amser i’r cleientiaid drwy adolygu, datblygu a gwella systemau a phrosesau yn rheolaidd.
• Yn gyfrifol am waith partneru yn unol â dymuniadau’r Arweinydd Tîm.
• Yn gyfrifol am eich datblygiad eich hun drwy ddilyn rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
• Yn ymwybodol o welliannau a datblygiadau technegol.
• Yn gyfrifol am weithio fel rhan o dîm.
• Sicrhau hunanddatblygiad a hyfforddiant i lefel medrusrwydd priodol (dan ofynion matrics medrusrwydd LABC), ac yn unol gydag anghenion y gwasanaeth.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Bydd angen i ddeilydd y swydd weithio mewn modd Agile, gyda gofyniad i ymweld â safleoedd adeiladu a weithredir ac a reolir gan gontractwyr preifat.
• Bydd deilydd y swydd yn datblygu sgiliau mewn asesiad risg dynameg o safleoedd i sicrhau eu bod yn ddiogel i gael mynediad iddynt i ddibenion cynnal archwiliadau.
• Disgwylir i ddeilydd y swydd yn ddyddiol i ddefnyddio cryn dipyn ar PC/Gliniadur.
• Disgwylir i ddeilydd y swydd weithio mewn modd hyblyg ar draws y tasgau a lleoliadau ar draws y Cyngor
• Bydd peryglon arferol yn gysylltiedig gyda gweithrediadau ar safleoedd yn cynnwys gweithio mewn ffosydd, ar uchder ar ysgolion, a bod yn agored i ddeunyddiau peryglus, ond gydag offer diogelu personol addas ar gael.
• Mae'n bosib y bydd yn gorfod wynebu sefyllfaoedd gwrthdrawol.
• Bydd mewn cerbyd, yn gyrru ymhob tywydd.
• Bydd yn gorfod gwisgo dillad gwarchod addas.
• Gweithio’n Unigol.
• Mewn Ymchwiliadau Cyhoeddus ac ati, y gofyn i weithio y tu allan i oriau swyddfa.
• Galwadau i weithio tu allan i oriau o ran bod ar alwad a galwadau i fynd i weld strwythurau peryglus pan fo angen.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.