Pwrpas y swydd
•Cynorthwyo i weinyddu gwasanaeth Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor, Budd-daliadau Addysg, Taliadau Tai Dewisol.
•Prosesu grantiau ychwanegol Llywodraeth San Steffan a/neu Lywodraeth Cymru
•Darparu cyngor a gwybodaeth i drigolion sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw / tlodi ar faterion megis uchafu incwm, hawlio budd-daliadau, taliadau eraill a derbyn talebau argyfwng.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Unrhyw offer, peiriant neu nwyddau sy’n ymwneud a’r dyletswyddau a nodwyd
Prif ddyletswyddau
Deddfwriaeth Newydd / Cylchlythyrau’r DWP:
•Gweithio’n unol ag unrhyw gyfarwyddiadau newydd fydd yn cael eu dosbarthu gan y Rheolwr neu Uwch Swyddog Gweithrediadau.
CeisiadauSybsydi:
•Gwneud unrhyw waith cywiro i sicrhau fod sefyllfa sybsydi ceisiadau unigol yn gywir a dilys ar gyfarwyddyd Uwch Swyddog Gweithrediadau / Arweinydd Grwp.
Prosesu:
•Asesu a gwireddu ceisiadau newydd ar gyfer Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor, Budd-daliadau Addysg, sef Cinio am Ddim a Grant Hanfodion Ysgol a Thaliadau Tai Dewisol drwy anfon am unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth ychwanegol fydd ei angen.
•Asesu a gwireddu unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor, Budd-daliadau Addysg, sef Cinio am Ddim a Grant Hanfodion Ysgol a Thaliadau Tai Dewisol drwy anfon am unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth ychwanegol fydd ei angen.
•Prosesu unrhyw daliadau ychwanegol ar ran Llywodraeth San Steffan/Cymru.
•Creu gordaliadau/isdaliadau Budd-dal Tai a Gostyngiadau Treth Cyngor.
•Cynorthwyo’r Swyddog Gordaliadau a Sybsidi i ymateb i ymholiadau adennill dyled Budd-dal Tai a/neu Daliadau Tai Dewisol.
•Trafod a chytuno trefniant talu efo cwsmeriaid sydd gyda dyled Budd-dal Tai a/neu Daliadau Tai Dewisol.
•Adennill gordaliadau allanol o Fudd-dal Tai cyfredol.
•Cyfeirio ceisiadau i’r Adran Waith a Phensiynau lle mae honiad o dwyll yn bodoli.
•Delio efo gwybodaeth/data wedi ei baru gan yr Adran Waith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Arolygu:
•Cynghori a goruchwylio’r Cymhorthyddion Refeniw, yn absenoldeb yr Uwch Swyddog Gweithredol / Arweinydd Grwp
Cyffredinol:
•Perfformio’r holl ddyletswyddau sydd ynghlwm a gweinyddu budd-daliadau.
•Cyfeirio ceisiadau tenantiaid sector breifat i’r Swyddog Rhent.
•Delio gyda’r cyhoedd ac ateb gohebiaeth dros ffôn, wyneb yn wyneb, trwy lythyr, drwy ebost neu unrhyw ffordd arall.
•Gweithio i gyrraedd targedi wythnosol a sefydlir, gan adnabod unrhyw anawsterau a allai effeithio ar eu perfformiad ac adrodd i’w harweinydd grwp fel bo’r angen
Cynghori a Chyfeirio:
•Adnabod unigolion bregus sydd o bosib yn cael eu heffeithio'n andwyol oherwydd diffyg incwm ac yn sgil yr argyfwng costau byw.
•Rhoi cyngor a chefnogaeth i drigolion sy'n cael eu heffeithio oherwydd diffyg incwm a’r argyfwng costau byw.
•Cefnogi trigolion sydd angen cefnogaeth gyda chynhwysiad ariannol, digidol ac arall ac yn enwedig o ran uchafu incwm a rheoli dyled
•Gweithio gyda partneriaid i sicrhau cefnogaeth i drigolion ar gyfer gwiriadau budd-dal, uchafu incwm a cael mynediad i gyngor ariannol a rheoli dyled.
•Helpu pobl i gychwyn ar wirio eu hawliau budd-dal ac uchafu incwm.
•Sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei ddarparu gan y cwsmer
•Codi ymwybyddiaeth a mynediad at y gefnogaeth ariannol amrywiol sydd ar gael gan Wasanaethau’r Cyngor ymysg trigolion (ee Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor, Cinio Ysgol am Ddim, Grant Hanfodion Ysgol, Taliadau Tai Dewisol, Grantiau Anabledd Tai, Grantiau Gofal Plant ayyb).
•Gweithio gydag eraill i gynorthwyo unigolion a'u teuluoedd i’w cefnogi i gynnal eu tenantiaethau ac atal digartrefedd
•Cysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau, neu Wasanaethau arall ar ran trigolion.
•Cyfeirio trigolion at asiantaethau priodol am gyngor arbenigol ar ddyledion
•Hysbysu a chynghori trigolion ynghylch asiantaethau cefnogi yn cynnwys Shelter Cymru, Cyngor ar Bopeth a'r Undebau Credyd, Timau Lles Cymdeithasau Tai ac eraill.
•Rhoi cyngor a chefnogaeth i weithwyr rheng-flaen y Cyngor sy’n cefnogi trigolion ar faterion lles a budd-daliadau.
•Cydweithio â’r Swyddogion Tlodi Tanwydd, Cinio Ysgol am Ddim a Trechu Tlodi y Cyngor i gefnogi’r tîm sy’n gweithio ar draws gwasanaethau i gefnogi pobl.
•Gwirio, asesu a gwneud cyfeiriadau i raglenni talebau argyfwng gan fudiadau allanol ee Pecynnau Bwyd Argyfwng gan fanciau bwyd, ceisiadau DAF, talebau Fuel Bank Foundation, grantiau Charis ayyb.
•Gwirio, asesu a gwneud cyfeiriadau i raglenni talebau argyfwng sydd gan y Cyngor ee talebau tanwydd, talebau bwyd a talebau hanfodion.
•Adnabod cyfleon i uwchsgilio eu hunain ar gyfer cefnogi pobl gyda materion uchafu incwm.
•Sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw drefniadau rheoli risg a nodwyd mewn asesiadau risg sy'n berthnasol i'r gwaith
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-