skip to main content
header_main

Manylion

Cartref > Trigolion > Swyddi > Swyddi ar lein > Manylion swydd

Swyddi ar lein

Rheolwr Tîm Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

£48,710 - £51,802 y flwyddyn

Cyfeirnod personel:
25-28293
Teitl swydd:
Rheolwr Tîm Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Adran:
Swyddi cyffredinol
Gwasanaeth:
Swyddi cyffredinol
Dyddiad cau:
11/05/2025 10:00
Cyflog:
£48,710 - £51,802 y flwyddyn
Lleoliad(au):

Manylion

Hysbyseb Swydd

Rheolwr Tîm - Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

G12: £48,710 - £51,802 y flwyddyn

Manylion Hysbyseb

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (GMGC) yn wasanaeth rhanbarthol sy'n ymgymryd â recriwtio, hyfforddi, asesu a chefnogi mabwysiadwyr, dod o hyd i deuluoedd ac yn Wasanaeth Cyfryngol ar gyfer Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn.

Mae cyfle wedi codi i wneud cais am rôl Rheolwr Tîm o fewn Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â'r Gwasanaeth ac rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sydd â'r profiad perthnasol ac yn ddelfrydol y rhai sydd â phrofiad o weithio mewn rôl Rheoli Gofal Cymdeithasol.

Bydd y Rheolwr Tîm yn arwain ac yn ysgogi tîm bach o staff ymroddedig a fydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau mabwysiadu hynod effeithiol ledled Gogledd Cymru.

Bydd y Rheolwr Tîm yn gyfrifol am oruchwylio gweithgareddau gweithredol ar draws Sir Ddinbych a Chonwy, dod o hyd i deuluoedd, asesu mabwysiadwyr posibl, a gweithgaredd perfformiad cyfryngol o fewn GMGC ac yn gweithredu fel Cynghorydd Panel i Banel Mabwysiadu ar y cyd Sir Ddinbych a Chonwy yn unol â deddfwriaeth, rheoleiddio, canllawiau a fframweithiau arfer da. 

Bydd y swydd yn cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ond bydd deiliad y swydd yn gweithio ar draws Gogledd Cymru a bydd gofyn iddo gysylltu â'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Chonsortia Mabwysiadu Rhanbarthol eraill

Am fwy o wybodaeth am y swydd, cysylltwch ag Arweinydd Gwasanaeth GMGC, mike.bell@wrexham.gov.uk

Mae angen gwiriad GDG Manwl a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, ni waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Am gwybodaeth pellach am y swydd, cysylltwch gyda Mike Bell, Pennaeth Gwasanaeth: Mike.Bell@wrexham.gov.uk

Chwilio am swydd