ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL UWCHRADD TYWYN
(Cyfun 11 - 16: 380 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1af o Fedi 2025.
PENNAETH GWYDDONIAETH BLYNYDDOEDD 10 - 11 AC ATHRO / ATHRAWES GWYDDONIAETH (ar sail parhaol)
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a’r sgiliau addas. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus addysgu yr holl ystod gallu ac oedran. Bydd arbenigedd Bioleg yn fanteisiol, ond cynigir hyfforddiant os oes angen.
Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos, ond rhoddir ystyriaeth i swydd rhan amser.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 – £49,944) y flwyddyn ynghyd a lwfans Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu CAD2B o £5,747 y flwyddyn i’r ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd yma. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr David Thorp ar 01654 710256, neu drwy e-bost i pennaeth@tywyn.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Lynsey Williams, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Uwchradd Tywyn, Ffordd yr Orsaf, Tywyn, Gwynedd, LL36 9EU (Rhif Ffôn: 01654 710256). Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B., DDYDD IAU, 1 MAI, 2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.