ADRAN ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL DYFFRYN NANTLLE, PENYGROES
(Cyfun 11 - 18; 397 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1 Medi, 2025
ATHRO/ ATHRAWES GWYDDONIAETH LLAWN AMSER, CYFNOD MAMOLAETH
Mae Ysgol Dyffryn Nantlle yn chwilio am athro cymwysedig sydd â gwybodaeth drylwyr am y Cwricwlwm i Gymru mewn Gwyddoniaeth o fis Medi 2025 ymlaen, sy'n gallu addysgu Gwyddoniaeth i ddisgyblion o bob oed a gallu yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 gyda'r gallu i ysgogi diddordeb disgyblion yn y maes yn ogystal â gallu gweithio fel rhan o dîm.
Swydd dros dro yw hon yn ystod cyfnod mamolaeth un o athrawon yr ysgol. Daw’r swydd i ben ar ddychweliad deilydd y swydd i’w gwaith
Oriau Gwaith: llawn amser
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944) y flwyddyn yn ôl profiad a chymwysterau.
Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol â Pholisi Iaith Ysgolion Gwynedd. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â’r Pennaeth, Mrs Rhian Parry Jones.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Ms. Elen Williams, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6AA, (Rhif ffôn 01286 880345)
e-bost: sg@dyffrynnantlle.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DDYDD GWENER, 2il o FAI, 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.