Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cefnogi rheolaeth effeithiol ysgolion cynradd Gwynedd drwy sicrhau gwasanaeth gweinyddol a chyllid o ansawdd.
•Mae’r Awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Gliniadur ac offer cyfathrebu.
Prif ddyletswyddau
•Prif bwrpas y swydd ydi sicrhau gwasanaeth gweinyddol a chyllid o ansawdd i glwstwr o ysgolion cynradd Gwynedd.
•Darparu cefnogaeth weinyddol o’r radd flaenaf i’r ysgolion yn unol â’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth a’r gwasanethau mae’r ysgolion wedi buddsoddi ynddo. Bydd y Cymhorthydd yn cyfrannu’n bositif at ethos/gwaith ac amcanion cyffredinol yr ysgolion a’r Ganolfan Fusnes Addysg.
•Bydd y Cymhorthydd yn gyfrifol am weithio’n annibynnol gan ddangos blaengaredd a chreadigrwydd wrth ymdrin â phob agwedd o’r swydd. Dylid cynllunio a blaenoriaethu gwaith yn ddyddiol er mwyn cyflawni amserlenni tynn wrth dalu sylw at fanylder a chywirdeb wrth gyflawni’r tasgau canlynol:
Cyllid:
•Prosesu archebion ac anfonebau'r ysgolion gan sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau ariannol
•y Cyngor.
•Cymryd rhan arweiniol mewn cynllunio, monitro a gwerthuso cyllideb gan gynnwys cysoni gwariant, diweddaru gwybodaeth y gyllideb a pharatoi adroddiadau cyllido fel bo’r angen.
•Agor a chau blwyddyn gyllidol.
•Derbyn sieciau ac anfonebau gan Gronfeydd ysgolion a’u prosesu.
Defnyddio rhaglen SIMS.net i:
•Paratoi strwythur bugeiliol dosbarthiadau;
•Mewnbynnu gwybodaeth disgyblion;
•Baratoi Cyfrifiad Blynyddol Ysgolion a’r Cyfrifiad Presenoldeb;
•Derbyn a throsglwyddo ffeiliau electroneg (CTF);
•Cynhyrchu Adroddiad CBGY (Cyfrifiad Blynyddol Gweithlu Ysgolion);
•Gweinyddu’r cyfrifiad PLASC blynyddol (Pupil Level Annual School Census);
•Paratoi a Gweinyddu prosesau asesu sylfaen ac asesiadau disgyblion CA1/CA2;
•Cynhyrchu adroddiadau blynyddol disgyblion;
•Mewnbynnu gwybodaeth personél/staffio;
•Cynhyrchu adroddiadau llefrith yn fisol ar gyfer yr ysgolion;
•Cynhrychu adroddiadau cinio yn fisol ar gyfer y Gwasanaeth Ategol.
System Schoolcomms
•Gweinyddu’r broses o dalu am ginio ysgol yn nôl yr angen;
•Gosod a derbyn taliadau ar-lein, cynorthwyo rhieni gyda gwneud taliadau a goruchwylio
•taliadau sydd cael eu gwneud ar-lein yn nôl yr angen.
Athrawon Llanw
•Trefnu athrawon llanw ar fyr rybudd i gyflenwi yn ystod absenoldeb athrawon yr ysgol.
Llywodraethwyr
•Coladu cofnodion, aelodaeth, adroddiadau y Pennaeth, adroddiad blynyddol a llawlyfr ysgol yn amserol ar y cyd gyda Chlerc Llywodraethwyr neu Glerc Ysgol.
•Paratoi dogfennaeth ar gyfer enwebu ac ethol Corff Llywodraethu’r ysgol.
System Ateb Galwadau Ffôn Ysgolion a Galwadau Ffôn Swyddogion
•Derbyn galwadau ffôn yn broffesiynol a gofalu ei throsglwyddo i sylw’r ysgol gan ddilyn trefn gytunedig.
•Delio gyda’r system llaisbost.
•Delio a galwadau ffôn Swyddogion y Gwasanaeth Ysgolion, cynorthwyo mewn unrhyw argyfwng, cofnodi a throsglwyddo negeseuon.
Amlenni Tâl Parod
•Prosesu archebion amlenni tâl parod ar gyfer ysgolion.
Eraill
•Cynorthwyo’r Arweinydd a’r Is-Arweinydd i arwain a hyfforddi Cymorthyddion Cefnogi Ysgol newydd.
•Cefnogi staff gweinyddol ysgolion eraill er mwyn gwella eu systemau a’r gefnogaeth a roddir i’r
•Pennaeth.
•Ymateb i ymholiadau a datrys problemau cyffredinol ar ran y Penaethiaid.
•Gwirio ffurflenni DBS staff ysgolion, gwirio a chofnodi manylion eu tystiolaeth gan sicrhau fod
•y ddogfennaeth yn ddilys a chyfredol yn nôl yr angen.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-