Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Sicrhau gwasanaeth cynnal priffyrdd mewn modd effeithiol, effeithlon ac economaidd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Staff sy’n gysylltiedig â’r dyletswyddau a nodwyd. Unrhyw offer, cerbyd, beiriant neu nwyddau sy’n ymwneud â’r dyletswyddau a nodwyd.
Prif ddyletswyddau
Ymgymryd a gweithgareddau medrus sy’n cynnwys gosod gwaith allan, gyrru a gweithredu offer trwm/cymhleth a chyfarpar sydd angen sgiliau arbenigol.
Dyletswyddau yn cynnwys yr angen i weithio i lefelau manwl ac yn ofynnol a gwaith adeiladwaith mewn nifer o dasgau, er enghraifft:-
Agor traeni, gosod coed tu mewn i’r traeni, adeiladu tyllau archwilio, estyllod i’r concrit, gosod haearn, crocbren, gosod cyrbiau concrit cryf, codi ffens, codi wal, adeiladu troedffyrdd gyda slabiau a blociau a charthffos mewn twneli, gwaith clwtio, torri coed, chwynlladdu, strimio a rheolaeth traffig.
•Mae hefyd yn orfodol i roi arweiniad gwaith i weithwyr graddfa is.
•Dyletswyddau eraill yn cynnwys:-
•Tynnu a chodi arwyddion a boleri uniongyrchol.
•Darparu, gosod, cywasgiad a symud pridd, cerrig a deunyddiau eraill.
•Gwaith ar ddodrefn priffyrdd ac offer gan gynnwys codi, gosod a.neu ddymchwel.
•Plannu a chynnal amgylchoedd priffyrdd yn gyffredinol.
•Rhoi cymorth yn gyffredinol i’r gweithwyr medrus a’r arbenigwyr.
Yn ychwanegol i’r gofynion i yrru neu weithredu offer/trwm cymhleth a chyfarpar mae angen gyrru cerbydau a thractorau gydag atodyn syml ac i weithredu offer pwer trwm, offer bychan a pheiriannau bychan gyda’r angen i gynnal a chadw’r cerbydau ac offer yn rheolaidd hynny yw eu glanhau ac edrych ar y sefyllfa olew a dwr.
Mae dyletswydd I sicrhau bod yr offer a chyfarpar yn cael eu defnyddio mewn modd diogel pob amser gyda’r cyfrifoldeb uniongyrchol am ddiogelwch y gweithlu a’r cyhoedd mewn cysylltiad ag ef.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd angen gweithio tu allan i oriau gwaith i ymateb i anghenion y gwasanaeth a digwyddiadau argyfwng.