Swyddi ar lein
Glanhawr
£12.21 yr awr
- Cyfeirnod personel:
- 24-28203
- Teitl swydd:
- Glanhawr
- Adran:
- Swyddi cyffredinol
- Gwasanaeth:
- Swyddi cyffredinol
- Dyddiad cau:
- 14/04/2025 10:00
- Cyflog:
- £12.21 yr awr
- Lleoliad(au):
- Bangor
Manylion
Hysbyseb Swydd
Glanhawr
Bangor
£12.21 yr awr (Cyflog Byw)
10 awr yr wythnos
(4 awr ar ddydd Llun, a 3 awr ar ddydd Mercher ac ar ddydd Gwener)
Mae Digartref Cyf yn awyddus i recriwtio glanhawr brwdfrydig a phrofiadol ar gyfer prosiect tai â chymorth newydd ym Mangor. Rydym yn chwilio am rywun sy’n frwd dros gynnal safonau uchel o lanhau ac sy’n meddu ar sgiliau trefnu ardderchog. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn sicrhau amgylchedd glan a chroesawgar ar gyfer ein preswylwyr a’n staff.
Yn ddelfrydol, byddai disgwyl i ymgeiswyr gael:
- Profiad blaenorol o lanhau
- Y gallu i ryngweithio’n llwyddiannus gyda phreswylwyr, staff, ymwelwyr ac asiantaethau allanol er mwyn datblygu perthnasau gwaith defnyddiol
- Y gallu i fod yn drefnus a gweithio ar eu menter eu hunain
- Y gallu i roi sylw i fanylion
- Gwybodaeth sylfaenol ynghylch offer a deunyddiau glanhau
Sylwch fod y swydd hon yn amodol ar wiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Pecyn Cydnabyddiaeth Ariannol Cwmni
- 26 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynyddu i 29, yn ddibynnol ar hyd y gwasanaeth) yn ogystal â gwyliau banc
- Pensiwn cwmni ac yswiriant bywyd SHPS Yn Y Gwaith (gan gymryd eich bod yn bodloni meini prawf cymhwystra’r cynllun)
- Cyfleoedd hyfforddi a datblygu â thâl
- Tâl am filltiroedd ar gyfer teithio sy’n ymwneud â gwaith, 45c y filltir
- Gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi ei dalu
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu’r ymrwymiad i ddysgu, yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Am sgwrs anffurfiol gyda’r rheolwr prosiect i gael gwybod mwy am y swydd hon, neu i ofyn am Ffurflen Gais neu Ddisgrifiad Swydd/Manyleb Person cysylltwch â:
Owen Jones
01407 761653