Pwrpas y Swydd.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•I fod yn ymrwymedig i ddarparu Gwasanaeth effeithlon ac effeithiol a chyfrannu tuag at alluogi’r Gwasanaeth i gyflawni ei nod a’i amcanion.
•I ddarparu cymorth gweinyddol lefel uchel o fewn y Gwasanaeth Cefnogol.
•Byddwch yn rhan o dim sydd yn delio efo ymholiadau gan Bennaethiaid, Rheolwyr, Staff, Cyhoedd a sefydliadau allanol.
•Sicrhau ansawdd i waith y Gwasanaeth.
•Defnyddio arbenigedd i adnabod ac ymchwilio am datblygiadau parhaus drwy ddatrys problemau, herio a chynnig syniadau newydd am gwblhau tasgau ac yn dangos arloesedd trwy gyfrannu at ddylunio systemau newydd.
•Cyfrifoldeb i weinyddu ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn ystod absenoldeb y Swyddog sydd yn cyd-lynu y ceisiadau yn gorfforaethol.
•Cyfrifoldeb i weinyddu Cwynion yn ystod absenoldeb y Swyddog sydd yn cyd-lynu y cwynion yn gorfforaethol.
•Gweithio gyda swyddogion ar pob lefel a phob maes gwaith o fewn y Cyngor.
•Cefnogi a gweinyddu y ceisiadau sydd ynghlwm a cynlluniau Buddiannau staff.
•Cefnogi Uwch Reolwyr a Rheolwyr Gwasanaethau gyda gwybodaeth staff yn System Swyddi Gwynedd
•Angen rhoi sylw i fanylder ac y gofyn i fod yn ofalus a thrylwyr wrth mewnbynnu data yn gywir i’r System Swyddi Gwynedd.
•Gwirio, gweithredu a diweddaru data System Swyddi Gwynedd drwy fod yn gwneud ymholiadau gyda Gwasanaethau er mwyn sicrhau bod y strwythur yn adrodd yn gywir (adroddiadau gweifeistr)
•Sicrhau bod data System Swyddi Gwynedd yn gyfddyddiol gogyfer cywirdeb strwythur ar Hunanwasanaeth Staff.
•Gweinyddi modiwlau a hyfforddi Rheolwyr a staff ar Hunanwasanaeth Staff.
•Arwain ar elfennau e.e. Cefnogi a Mentora unigolion ar sut i ddefnyddio’r modiwlau o fewn system Hunanwasanaeth staff.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
•-
Prif Ddyletswyddau.
•Cefnogi Rheolwyr a staff ar pob elfen o’r system Hunanwasanaeth e.e gweinyddu yr hawliau mynediad i fodiwlau, cofrestru staff sydd heb mynediad i gyfrifiadur y Cyngor,
•Cefnogi gweinyddiaeth y broses recriwtio, gan cynnwys y canlynol;-
oCydlynu ag asiantaethau hysbysebu a hysbysebwyr allanol
oTrefnu Cyfweliadau
oDelio gyda ymholiadau am swyddi a gyrru pecynnau gwybodaeth allan yn amserol.
oCydlynu trefniadau gyda ymgeiswyr
•Gweinyddu dogfennau hawl i weithio UKVI gan cydymffurfio a deddfwriaeth, rheoliadau a pholisiau perthnasol sydd gan Cyngor Gwynedd.
•Gweinyddu dogfennau gogyfer gwiriad DBS trwy system perthnasol.
•Gweithredu a gweinyddu trefniadau e.e. ‘Bring-Ups’, mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, absenoldeb rhieni a’r hawl i weithio’n hyblyg trwy cydymffurfio gyda polisiau Cyngor Gwynedd.
•Cefnogi i gynnal cofnodion staff yn cywir yn unol a pholisi Cyngor Gwynedd a deddfwriaeth Diogelu Data
•Yn cynorthwyo i weinyddu desgiau gweinyddol y Gwasanaeth e.e Desg Adnoddau Dynol, Swyddi, a Hunanwasanaeth Staff.
•Sicrhau bod ffurflenni cywir yn cael eu cadw’n gyfredol ar y fewnrwyd.
•Yn gyfrifol am weinyddu a prosesu yn gywir taliadau staff oddi ar amserlenni Cartrefi Preswyl ac Arlwyo a Glanhau.
•Prosesu anfonebau i’w talu.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
•-