Swyddi ar lein
Gweithiwr Ymyrraeth Adlewyrchu
£36,124 - £42,708 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-28174
- Teitl swydd:
- Gweithiwr Ymyrraeth Adlewyrchu
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Tim Trobwynt
- Dyddiad cau:
- 25/03/2025 11:53
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £36,124 - £42,708 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwenan Medi Hughes ar 01286679369
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH AR Y 03/04/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) –
Gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dim.
Yn berson dibynadwy a hyblyg sy’n awyddus i weithio mewn dulliau newydd a creadigol.
Brwdfrydig, hunan dibynnol a phendant.
Cefnogi arferion gwrth-wahaniaethol
Cyfathrebu’n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, asiantaethau eraill a darparwyr
Ymrwymedig i werthoedd, egwyddorion, nodau ac amcanion y gwasanaeth.
Person sy’n awyddus i ddysgu a datblygu
Gallu cyfathrebu yn effeithiol a chreu perthynas efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd.Gweithiwr Cymdeithasol (L2) –
Gweler uchod
Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) –
Gweler uchod
DYMUNOL
-CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -
Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol perthnasol yn unol â Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru
Wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru fel Gweithiwr CymdeithasolGweithiwr Cymdeithasol (L2) -
Yn ychwanegol i’r gofynion uchod (L1);
Cymhwyster Cadarnhau (Consolidation 3 Blynedd Gyntaf mewn Ymarfer) (neu brofiad cyfatebol)Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) –
Gweler uchod (L1) + (L2)
DYMUNOL
Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -
Gweithiwr Cymdeithasol (L2) -
Cymhwyster Addysgwr Ymarfer
Cymhwyster Cydnabyddedig Deddf Iechyd Meddwl AMHP
Cymhwyster Asesydd Budd (BIA)Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) –
Gweler uchod (L2)
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -
Profiad o weithio mewn tîm
Profiad o weithio yn uniongyrchol efo oedolion/plant /pobl ifanc a theuluoedd
Profiad o asesu anghenion a llunio cynllun gofal
Profiad o weithio efo asiantaethau eraillGweithiwr Cymdeithasol (L2) -
Yn ychwanegol i’r gofynion uchod (L1);
Profiad o ddelio efo achosion diogelu
Profiad o waith gofal cymunedol gydag oedolion a’u gofalwyr.
Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanolGweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) –
Yn ychwanegol i’r gofynion uchod (L1) a (L2);
Profiad o ddelio efo achosion cymhleth
Profiad o wneud gwaith llys (gwaith plant)DYMUNOL
Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -
Profiad o ddelio efo achosion diogelu
Profiad o waith gofal cymunedol gydag oedolion a’u gofalwyr.
Profiad o ddelio efo achosion cymhleth
Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanolGweithiwr Cymdeithasol (L2) -
Profiad o wneud gwaith llys (gwaith plant)
Profiad o ddelio efo achosion cymhleth
Profiad o fentora o fewn y rôl gwaith cymdeithasolGweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) –
Profiad o fentora o fewn y rôl gwaith cymdeithasol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -
Gallu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i gyfeiriadau a blaenoriaethu yn addas.
Gallu i ymgymryd ag asesiadau cymdeithasol a chreu cynlluniau gofal.
Gwybodaeth o ddeddfwriaeth berthnasol, sgiliau rheoli gofal, dealltwriaeth o arferion gwaith cymdeithasol da.
Gallu i ddefnyddio system wybodaeth gyfrifiadurol mewn perthynas ag anghenion Gwasanaeth
Gallu derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad yn effeithiol er budd y Gwasanaeth a datblygiad personolGweithiwr Cymdeithasol (L2) -
Yn ychwanegol i’r gofynion uchod (L1):
Sylfaen sgiliau amrywiol yn seiliedig ar brofiad o weithio efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd .Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) –
Yn ychwanegol i’r gofynion uchod (L1) a (L2);
Sgiliau gwaith llys (Swydd maes plant)DYMUNOL
Glas-weithiwr Cymdeithasol (L1) -
Sylfaen sgiliau amrywiol yn seiliedig ar brofiad o weithio efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd .
Gweithiwr Cymdeithasol (L2) -
Sgiliau gwaith llys
Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (L3) –
-
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cynorthwyo unigolion bregus i fyw eu bywydau yn y modd y maent eisiau ei fyw.
• Asesu anghenion oedolion a’u gofalwyr yn unol â gofynion Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant 2014 a deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol eraill.
• Darparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth i ddinasyddion i’w galluogi i gwrdd ag amcanion personol.
• Cynorthwyo pobl i adnabod datrysiadau, atal dibyniaeth a hyrwyddo annibyniaeth.
• Darparu gwybodaeth ynglŷn â’r adnoddau cefnogol sydd ar gael yn y gymuned, gan y trydydd sector, y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd er mwyn galluogi dinasyddion i fyw mor annibynnol â phosib a gwella eu hansawdd bywyd i’r eithaf.
• Sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol â threfniadau diogelu y Cyngor a’r cyfrifoldebau statudol.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyllid – Darparu cyngor ac arweiniad ymarferol a phriodol i ddefnyddwyr gwasanaeth er hwyluso rheolaeth cyllid effeithiol yn y Gwasanaeth.
• Offer – Cyfrifoldeb am unrhyw offer arbenigol a ddefnyddir i gyflawni y swyddPrif Ddyletswyddau.
Lefel 1 – Glas-weithiwr Cymdeithasol (Dyletswyddau Cyffredinol)
• Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
• Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
• Atgyfnerthu a datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth a enillwyd trwy gymwysterau ffurfiol trwy fentora ac arweiniad ymarferwyr profiadol. Mynychu gweithdai 3 blynedd gyntaf perthnasol o ymarfer a chwblhau'r Rhaglen Gadarnhau. Gweithio gyda'r mentor i ddatblygu ymarfer.
• Cymryd rhan weithredol mewn goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd ac ymgynghori â'ch rheolwr llinell a chydweithwyr profiadol eraill. Parhau i ddatblygu eich ymarfer gwaith cymdeithasol trwy fyfyrio parhaus.
• Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
• Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol.
• Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau yn gynyddol gymhleth o fewn y 3 blynedd gyntaf o ymarfer trwy fentora a goruchwyliaeth gan eich rheolwr llinell neu arweiniad gan gydweithwyr mwy profiadol.
• Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor, a gwrthdaro, gydag arweiniad a chymorth yn cynyddu mewn cymhlethdod yn ystod y 3 blynedd.
• Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol trwy arweiniad gan eich rheolwr llinell a gweithwyr cymdeithasol mwy profiadol, gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol.
• Cefnogi a grymuso pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
• Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.
• Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill gan gynyddu mewn cymhlethdod drwy gydol y 3 blynedd.
• Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso dan arweiniad eich rheolwr llinell neu gydweithwyr profiadol eraill a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.
• Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n
bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.
• Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol dan arweiniad eich rheolwr llinell neu weithwyr cymdeithasol mwy profiadol.
• Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru dan arweiniad rheolwr llinell neu gydweithwyr mwy profiadol a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.Lefel 2 – Gweithiwr Cymdeithasol (Dyletswyddau Cyffredinol)
• Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
• Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
• Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun.
• Datblygu ymarfer gwaith cymdeithasol trwy oruchwylio a myfyrio
• Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
• Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol
• Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth.
• Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor a gwrthdaro mewn sefyllfaoedd cymhleth.
• Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol.
• Cefnogi pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
• Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.
• Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sefyllfaoedd cymhleth.
• Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso.
• Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n
bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso
gofal a chymorth.
• Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol.
• Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.Lefel 3 – Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol (Dyletswyddau Cyffredinol)
• Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
• Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
• Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun. Cefnogi cydweithwyr gyda'u datblygiad trwy fentora.
• Datblygu ymarfer gwaith cymdeithasol trwy oruchwylio a myfyrio. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa gyda myfyrdod parhaus trwy weithgaredd ymarfer myfyriol unigol neu grŵp.
• Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
• Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol. Cynghori cydweithwyr ar feysydd gwaith cymhleth trwy'r rôl fentora.
• Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa i ddatblygu hyder ynghylch barn broffesiynol trwy'r rôl fentora.
• Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor a gwrthdaro mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol gamau o'u gyrfaoedd i reoli materion mwy cymhleth trwy'r rôl fentora.
• Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol gamau o'u gyrfa i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chadw cofnodion trwy'r rôl fentora.
• Cefnogi pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
• Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.
• Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sefyllfaoedd cymhleth, a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa.
• Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa.
• Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn trwy'r rôl fentora.
• Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth.
• Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn o fewn rôl fentora.
• Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd i ddatblygu eu sgiliau a gwneud penderfyniadau yn ymwneud â gweithio ym maes diogelu o fewn rôl fentora.
• Bod yn fodel rôl a rhannu arfer da, cyngor a chefnogaeth i alluogi cydweithwyr tîm, gweithwyr cymdeithasol llai profiadol i ddatblygu eu gyrfaoedd. Bydd hyn yn cynnwys mentora, cydweithio ar achosion a chefnogi sicrwydd ansawdd y gwasanaeth trwy archwilio a samplu ffeiliau ac ymarfer a chynghori cyd-weithwyr cymdeithasol ar feysydd gwaith arbenigol o fewn y rôl fentora.Dyletswyddau Lleol
• Darparu ymyrraeth ddwys amserol i'r defnyddwyr gwasanaeth sy'n hyblyg i’w anghenion.
• Cael sgyrsiau medrus a meddylgar sy'n canolbwyntio ar ddatrys cyfyng-gyngor defnyddwyr y gwasanaeth, gan gydweithio i sefydlu canlyniadau chynaliadwy, gwneud y mwyaf o ymreolaeth, annibyniaeth ac eu cryfderau.
• Rhyddhau potensial ysgogol mewn defnyddwyr gwasanaeth sy'n aml yn hynod o amwys
• Canolbwyntio ar ganlyniadau, dulliau seiliedig ar ganlyniadau
• Helpu’r defnyddwyr gwasanaeth i herio patrymau meddwl ac ymddygiad
• Cyfrannu mewn fforymau aml ddisgyblaethol tebyg i Marac a iechyd a fforymau Cymru gyfan.
• Darparu hyfforddiant, ymgynghoriad a chefnogaeth i'r gweithlu ehangach.
• Sicrhau gwybodaeth am ddulliau cyfoes o ymyrraeth effeithiol a chynnal gwerthusiad cadarn.Dyletswyddau Eraill
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.• Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.
• Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau gaiff eu sefydlu ar sail rota.Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.